Cymraeg
Amdanom ni
Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol ydym ni. Rydym yma i helpu pawb ddeall a rheoli eu harian yn well. Rydym yn rhoi cyngor ariannol clir, diduedd i helpu pobl wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth.
Credwn y gall y cyngor ariannol iawn wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. A phan fydd pobl yn cymryd camau i reoli eu harian yn well, maent yn medru byw yn well hefyd.
Rydym yn annibynnol. Fe’n sefydlwyd gan y llywodraeth ac fe’n telir gan y diwydiant gwasanaethau ariannol.
Ein gweledigaeth
Rydym yn gwella bywydau pobl oherwydd eu bod yn cael rheolaeth ar eu harian yn naturiol.
Ein strategaeth
Annog pawb i reoli eu harian yn dda
Bwriadwn gael effaith gwirioneddol ar ymddygiad pobl, ac o ganlyniad, ar gymdeithas.
Cael mwy o ddylanwad trwy ein gwaith
Byddwn yn gweithio gyda’r diwydiant gwasanaethau ariannol ac yn dylanwadu arno, ac yn helpu i sefydlu agendau rheoleiddiol a pholisi cyhoeddus.
Gweithio yn effeithlon ac awdurdodol
Byddwn yn sefydliad effeithlon, sy’n cael ei redeg yn dda ac yn gwella’n barhaus gyda’r gwerthoedd, sgiliau, medrau a’r adnoddau cywir i lwyddo.
Sut ydym ni’n helpu?
Rydym yn rhoi gwybodaeth a chyngor ariannol i bobl ar-lein, mewn print, wyneb yn wyneb ac ar y ffôn.
Rydym hefyd yn cynnig cyngor ariannol i helpu pobl i wneud dewisiadau ar gyfnodau allweddol trwy eu hoes, beth bynnag yw’r amgylchiadau.
Mae ein gwefan yn cynnwys:
- amrywiaeth gynhwysfawr o ganllawiau cam wrth gam i helpu pobl wrth iddynt wneud penderfyniadau ariannol beth bynnag yw eu hamgylchiadau;
- gwybodaeth am amrywiaeth eang o gynnyrch a gwasanaethau ariannol;
- esbonio’r jargon i esbonio’r geiriau a’r ymadroddion allweddol; ac
- offer rhyngweithiol, fel tablau cymharu a chyfrifianellau.
Mae yno adrannau wedi eu teilwrio ar gyfer cyfnodau penodol mewn bywyd, gan gynnwys gwybodaeth ar gyfer:
- rhieni
- pobl sy’n mynd trwy ysgariad neu yn gwahanu
- pobl ifanc (16-24)
- rhai sy’n wynebu cael eu diswyddo neu wedi cael eu diswyddo a
- rhai sy’n agosáu at ymddeol neu sydd wedi ymddeol yn barod
Rydym yn cynnig canllawiau wedi eu hargraffu yn trin amrywiaeth eang o bynciau, yn gyffredinol ac yn benodol i gynnyrch, yn rhad ac am ddim. Rydym hefyd yn cynhyrchu:
- Canllaw rhieni i arian – sydd ar gael i famau beichiog a rhai sydd newydd gael plant, gan fydwragedd a Chanolfannau Plant;
- Y llawlyfr dileu swydd – ar gael gan rai cyflogwyr. Gallwch ei weld yma neu gallwch archebu copi trwy ein ffonio – gweler Cysylltu â ni; a
- Eich canllaw ar ymddeol – sydd ar gael gan rai cyflogwyr os byddwch yn agosáu at ymddeol. Gallwch ei weld yma neu gallwch archebu copi trwy ein ffonio – gweler Cysylltu â ni.
Beth sydd ar gael yn Gymraeg?
Fel rhan o’r gwaith o ail frandio ein holl ganllawiau a deunydd ar-lein ar hyn o bryd mae gennym 5 canllaw dwyieithog i ddefnyddwyr ar gael.
Rydym yn gweithio tuag at gael ein holl ddeunydd yn Gymraeg, ond fe fydd hyn yn cymryd amser, felly dowch yn ôl i weld lle’r ydym arni o bryd i’w gilydd.
Os oes gennych gwestiwn am arian, gall ein Cynghorwyr Ariannol hyfforddedig gymryd eich galwad yn Gymraeg neu gallwch gael sesiwn wyneb yn wyneb yn Gymraeg.
Mae ein Canllaw rhieni i arian ar gael yn Gymraeg (fformat pdf), a’r canllaw mewn print ar gael i fydwragedd a Chanolfannau Plant i’w harchebu.
Mae Y llawlyfr dileu swydd a Eich canllaw ar ymddeol ar gael yn Gymraeg, mewn print ac ar-lein (fformat pdf).
Edrychwch ar ein gwiriad iechyd ar-lein. Atebwch rhai cwestiynau syml a chewch eich cynllun gweithredu personol i’ch helpu gyda’r hyn sydd raid i chi ei wneud ag arian a nodau tymor-hirach.
Gweithio gyda ni
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid o amrywiaeth eang o ddiwydiannau, llywodraeth a sectorau eraill i ddod o hyd i ffyrdd blaengar o wneud materion ariannol a dewisiadau ariannol yn gliriach i bawb.
Gallwch gael gwybod rhagor am ein gwaith i helpu pobl ar gyfnodau allweddol yn eu bywydau, neu dan amgylchiadau arbennig yn ein hadran Gweithio gyda ni. Os byddwch chi, yn eich gwaith, yn helpu pobl eraill gyda materion ariannol, mae’r adnoddau rhad ac am ddim, diduedd yma ar eich cyfer chi.
Cysylltu â ni
Am wybodaeth a chyngor ar faterion ariannol ac i archebu ein canllawiau ac adnoddau print
Ffoniwch ein Llinell Cyngor Ariannol
Dydd Llun i ddydd Gwener – 8am i 6pm (heblaw ar wyliau banc)
Ffoniwch 0300 500 5000* Typetalk 18001 0300 500 5000* *Ni ddylai galwadau gostio mwy na galwadau DU gyfan 01 neu 02, ac fe’u cynhwysir ym munudau cynhwysol ffonau symudol a llinellau tir. Fodd bynnag, os ydych yn gofidio am gost yr alwad ffôn am nad oes gennych gynllun galwadau sy’n cynnwys y galwadau hyn am ddim, holwch eich Cynghorydd Arian i’ch ffonio yn ôl. Er mwyn ein helpu i gynnal a gwella ein gwasanaeth, efallai y byddwn yn recordio neu fonitro galwadau.Er mwyn archebu canllawiau print y Gwasanaeth Cynghori Ariannol – defnyddiwch ein ffurflen archebu ar-lein.
Os hoffech chi archebu sesiwn wyneb yn wyneb
Gweler Archebu sesiwn wyneb yn wyneb.
Er mwyn cysylltu â’n sefydliad
Anfonwch e-bost atom
enquiries@moneyadviceservice.org.ukFfoniwch ni
020 7943 0500Ysgrifennwch atom
The Money Advice Service120 Holborn
London
EC1N 2TD
Sut i ddod o hyd i ni
Sut i gyflwyno cwyn
Rydym yn ymroddedig i helpu pobl i ddeall ac ymwneud â’u harian. Os oes gennych sylw am unrhyw agwedd o’n gwaith, mae eich ymateb yn ein helpu i ddynodi meysydd lle gallwn ni wella ein gwasanaeth i chi.
Os oes gennych gŵyn neu os hoffech roi sylw ar ein gwaith cysylltwch â ni:
- trwy ffonio aelod o Swyddfa ein Prif Weithredwr ar 020 7943 0600
- Yn ysgrifenedig, i’r cyfeiriad uchod, neu
- trwy e-bost at enquiries@moneyadviceservice.org.uk
Fe fyddwn yn anfon cydnabyddiaeth atoch cyn pen pum diwrnod gwaith ac yn ateb cyn pen deg diwrnod gwaith.
Er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn dysgu oddi wrth yr adborth yr ydym yn ei dderbyn, mae ein Bwrdd yn cael adroddiadau cyson yn crynhoi unrhyw gwynion a sylwadau y byddwn wedi eu derbyn a’r camau a gymerwyd gennym.
Anfon eich ymholiad ar-lein
Os bydd arnoch angen rhagor o gyngor ariannol, ffoniwch ein Llinell Cyngor Ariannol ar 0300 500 5000.
