A ydych yn gymwys am gyllid gofal iechyd parhaus y GIG?

Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, os oes gennych chi anabledd neu broblem feddygol gymhleth, efallai y byddwch yn gymwys am ofal parhaus (CHC) y GIG am ddim. Nid yw’n cael cyhoeddusrwydd amlwg, felly mae’n bwysig i chi ganfod a ydych yn gymwys a chael asesiad.

Yn yr Alban mae gwahanol drefniadau gofal a elwir yn Ofal Clinigol Cymhleth mewn Ysbyty.

Beth yw gofal iechyd parhaus y GIG neu ofal parhaus y GIG?

Pan mai ‘angen iechyd’ yw prif angen unigolyn, mae’r GIG yn gyfrifol am ddarparu hynny ynghyd â’r arian yn llawn mewn unrhyw sefyllfa. Gallai hynny fod mewn:

● Hosbis

● Cartref gofal, neu

● Eich cartref eich hun

Yn Lloegr, gall y GIG drefnu gofal i chi neu gallwch ddewis cael arian ar gyfer eich gofal fel taliad uniongyrchol, a elwir yn gyllideb iechyd personol.

Mae cyllideb iechyd personol yn rhoi mwy o ddewis a rheolaeth i chi ynglŷn â sut fyddwch yn cynllunio ac yn talu am eich anghenion gofal iechyd a lles.

Nid yw cyllidebau iechyd personol ar gael ar hyn o bryd yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

Cewch ragor o wybodaeth am gyllidebau iechyd personol ar wefan NHS Choices.

Pwy sy’n gymwys?

Gair i gall

Yr unig ffordd bendant o wybod a ydych yn gymwys yw gofyn i’ch meddyg teulu neu’ch gweithiwr cymdeithasol drefnu asesiad.

Nid oes unrhyw restr glir o afiechydon neu gyflyrau iechyd sy’n gymwys am gyllid.

Nid yw’r rhan fwyaf o bobl ag anghenion gofal hirdymor yn gymwys am ofal iechyd parhaus neu ofal y GIG gan fod yr asesiad yn eithaf llym. Er enghraifft, nid yw bod yn fregus yn ddigon o reswm.

Ond peidiwch â gadael i hynny’ch rhwystro.

Gallai gofal iechyd am ddim fod yn werth miloedd o bunnau bob blwyddyn, felly mae’n bwysig deall beth yw’ch sefyllfa.

Beth yw anghenion iechyd cymwys?

Fel canllaw, gallai anghenion iechyd ‘cymwys’ gynnwys y canlynol:

● Problemau symudedd

● Afiechydon terfynol

● Iechyd sy’n gwaethygu’n gyflym

● Cyflyrau meddygol hirdymor

● Anableddau corfforol neu feddyliol

● Anhwylderau ymddygiadol neu wybyddol

● Cyflyrau meddygol cymhleth y mae angen gofal a chymorth ychwanegol arnynt

Mae amryw o nodweddion annelwig ac efallai y byddwch yn dioddef o gyflyrau eraill sy’n golygu y byddwch yn gymwys.

Pa gostau a ysgwyddir gan ofal iechyd parhaus y GIG?

Mae gofal iechyd parhaus neu ofal parhaus y GIG yn talu am gostau gofal iechyd a gofal personol, fel talu am therapi arbenigol neu gymorth i ymolchi neu wisgo.

Gallai hefyd dalu am lety os yw’ch gofal yn cael ei ddarparu mewn cartref gofal, neu gymorth i ofalwyr os ydych yn cael gofal gartref.

Os nad ydych yn gymwys i gael gofal parhaus y GIG a’ch bod angen gofal mewn cartref nyrsio, gallech gael Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG sydd yn gyfraniad heb brawf modd tuag at eich costau nyrsio.

Mae’r cyllid yn amrywio yn ôl rhanbarth, felly bydd angen ichi holi’ch Grŵp Comisiynu Clinigol lleol, eich Bwrdd Iechyd neu eich Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol i weld beth sy’n cael ei gynnwys.

Dysgwch ragor yn ein canllaw ar Gyfraniad Gofal Nyrsio’r GIG.

Beth sy’n digwydd yn ystod y broses asesu?

Cam 1 – Y sgrinio cychwynnol

Yn gyntaf oll, byddwch yn cael eich sgrinio i weld a ydych yn gymwys i gael cyllid.

Bydd hyn yn cael ei wneud fel arfer mewn ysbyty neu gartref gan nyrs, meddyg, gweithiwr cymdeithasol neu weithiwr proffesiynol gofal iechyd arall.

Byddant yn asesu’ch anghenion iechyd a gofal cyffredinol â rhestr wirio syml a fydd yn cynnwys:

● Symudedd

● Anadlu

● Ymataliad

● Cyfathrebu

● Maeth (bwyd a diod)

● Croen (gan gynnwys clwyfau a briwiau)

● Anghenion seicolegol ac emosiynol

● Cyflyrau ymwybod newidiol

● Rheoli symptomau drwy feddyginiaeth a therapïau cyffuriau

● Gwybyddiaeth (deallusrwydd beunyddiol o’r hyn sy’n digwydd o’ch cwmpas)

● Anghenion gofal arwyddocaol eraill

Os yw’ch iechyd chi, neu iechyd rhywun y gofalwch amdano neu amdani, yn gwaethygu’n gyflym, holwch am asesiad carlam i osgoi’r sgrinio cychwynnol.

Cam 2 – Yr asesiad

Peidiwch â chael eich rhwystro

Er bod y broses asesu’n gallu bod yn gymhleth, mae’r rhan fwyaf o bobl a theuluoedd sydd wedi bod drwyddi’n dweud bod y manteision yn ei gwneud yn un werth chweil.

Er bod y broses asesu’n gallu bod yn gymhleth, mae’r rhan fwyaf o bobl sydd wedi bod drwyddi’n dweud bod y manteision yn werth chweil.

Os bydd y sgrinio cychwynnol yn dangos y gallech fod yn gymwys am ofal parhaus y GIG am ddim, bydd angen ichi gael asesiad arall.

Caiff ei gynnal gan dîm o ddau neu ragor o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol sydd â rhan yn eich gofal.

Bydd y tîm yn defnyddio’r un rhestr wirio uchod ond bydd yn mynd i lawer mwy o fanylder.

Byddant yn marcio pob un o’ch anghenion gofal fel rhai isel, canolig, uchel neu ddwys.

Cewch wybod rhagor am y broses asesu yn nhaflen yr Adran Iechyd, ‘NHS continuing healthcare and NHS-funded nursing care’ (PDF)

Beth i’w wneud os nad ydych yn cytuno â’r asesiad

Gair i gall

Mae amgylchiadau’n newid, felly hyd yn oes os cawsoch eich gwrthod am gyllid i ddechrau, dylech sicrhau bod eich sefyllfa’n cael ei hadolygu’n rheolaidd yn enwedig os yw eich iechyd yn gwaethygu. Gall eich meddyg teulu neu’ch gweithiwr cymdeithasol helpu i ddechrau’r broses.

Gofynnwch i’ch Grŵp Comisiynu Clinigol lleol, Bwrdd Iechyd neu’ch Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol leol adolygu’u penderfyniad.

Rhaid ichi ofyn iddynt am hyn yn ysgrifenedig cyn pen chwe mis ers yr hysbysiad a nododd nad oeddech yn gymwys.

Os oedd eu penderfyniad yn seiliedig ar sgrinio cychwynnol yn unig, gofynnwch am asesiad llawn.

Dylech gael cyfle i gyfrannu at yr adolygiad, a gweld yr holl dystiolaeth a ystyriwyd.

Gallwch hefyd apelio o bosib os buoch eisoes yn talu am ffioedd cartref gofal a chithau’n credu y dylech fod wedi cael cyllid y GIG.

I wneud hyn, siaradwch â’ch gweithiwr cymdeithasol neu’ch ymarferwr iechyd, a gofynnwch am asesiad adolygol.

Os na fydd hynny’n datrys y broblem i chi, ymhen 6 mis gallwch ofyn am banel adolygiad annibynnol i ystyried eich sefyllfa. Fel cam olaf, gallwch ofyn i Ombwdsmon y Gwasanaeth Iechyd Seneddol wneud penderfyniad ar eich cwyn.

Beth os nad ydych yn gymwys?

Hyd yn oed os na fyddwch yn gymwys am ofal iechyd parhaus y GIG, efallai y byddwch yn gymwys serch hynny i gael gwasanaethau eraill y GIG i’ch cefnogi, fel:

● Gofal lliniarol

● Gofal iechyd seibiant

● Adsefydlu ac adferiad, a

● Chymorth arbenigol gwasanaethau iechyd cymunedol ar gyfer anghenion gofal iechyd.

Neu, gall fod yna gyllid awdurdod lleol i fodloni rhai o’ch anghenion gofal.

^ Cyllid awdurdod lleol am gostau gofal – a ydych yn gymwys?

## Dan gadwad dan y Ddeddf Iechyd Meddwl

Mae adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn sicrhau bod eich GIG a’ch cyngor lleol ar y cyd yn darparu gwasanaethau ar ôl gofal os ydych dan gadwad dan unrhyw elfen o’r Ddeddf Iechyd Meddwl er dibenion asesiad neu driniaeth.

Dylai pob gwasanaeth a ddarperir dan yr adran hon fod am ddim.

Gofal Clinigol Cymhleth mewn Ysbyty yr Alban

Disodlwyd gofal iechyd parhaus y GIG yn yr Alban ar 1 Mehefin 2015 gan gynllun o’r enw Gofal Clinigol Cymhleth mewn Ysbyty.

Mae’r cynllun ar gael i bobl mewn ysbyty yn unig.

Os byddwch angen gofal clinigol hirdymor, asesir eich anghenion yn seiliedig ar un cwestiwn yn gofyn a ellir bodloni’ch anghenion gofal yn ddigonol mewn cyd-destun arall yn hytrach na mewn ysbyty.

Os yw’n bosibl darparu gofal y tu allan i ysbyty, fe gewch hynny yn y lleoliad mwyaf addas ar eich cyfer chi.

Efallai mai’ch cartref fydd y lleoliad hwnnw, neu gartref gofal neu lety â chymorth.

Os ydych eisoes yn cael gofal iechyd parhaus y GIG dan yr hen drefn, byddwch yn parhau â hynny tra byddwch yn gymwys.

Dysgwch ragor am Ofal Clinigol Cymhleth mewn Ysbyty a sut i gael gwasanaethau gofal eraill yn yr Alban ar wefan careinfoscotland.

Gallwch hefyd ddarllen rhagor am y newidiadau a beth i’w wneud os nad ydych yn cytuno ag asesiad gofal, yn nhaflen wybodaeth Age UKGofal Clinigol Cymhleth mewn Ysbyty a Gofal parhaus y GIG yn yr Alban.

Angen mwy o wybodaeth?

Am ragor o help annibynnol am ddim, gallwch ffonio FirstStop Advice ar: 0800 377 7070 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am – 5pm), neu anfonwch e-bost atynt ar info@firststopadvice.org.uk.

A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?