Adolygwch eich cynilion a'ch buddsoddiadau
Bob blwyddyn, edrychwch i weld sut mae eich cynilion a’ch buddsoddiadau yn tyfu a phenderfynwch a oes angen i chi wneud newidiadau. Yn dibynnu ar eich buddsoddiadau, efallai y bydd angen i chi adolygu eich cynilion fwy nag unwaith y flwyddyn. Dilynwch ein camau allweddol i wneud hyn a sefydlwch negeseuon e-bost i’ch atgoffa er mwyn sicrhau y daw’n arfer.
Pam?
Daw cyfraddau a chynigion rhatach a gwell ar y farchnad drwy’r amser – os na fyddwch yn adolygu eich cynilion a’ch buddsoddiadau yn rheolaidd, gallech golli arian. Yn wir, mae llawer o fanciau, cymdeithasau adeiladu a darparwyr cynnyrch yn dibynnu arnoch yn gwneud dim! Bydd eu hadolygu’n rheolaidd hefyd yn eich helpu i arbed treth, sicrhau eich bod ar y trywydd iawn i gyflawni eich nodau a hyd yn oed eu cyflawni’n gynt.
Pryd?
- Pennwch ddyddiad adolygu rheolaidd, o leiaf unwaith y flwyddyn, sy’n rhoi digon o amser i chi wneud y gorau o’ch lwfansau treth – dylai fod o leiaf ddeufis cyn diwedd y flwyddyn dreth, ond yn ddelfrydol yn gynt.
- Ar gyfer cynhyrchion tymor sefydlog (e.e. cyfrifon rhybudd, bondiau tymor sefydlog, ac ati) sefydlwch negeseuon e-bost ar wahân i’ch atgoffa i edrych i weld beth arall sydd ar gael yn ystod y mis cyn y daw’r cyfnod ymrwymo i ben.
- Ac os bydd rhywbeth annisgwyl yn digwydd – er enghraifft os cewch arian annisgwyl, os na fyddwch yn gallu gweithio neu os bydd cyfraddau llog yn newid yn sydyn ar y marchnadoedd stoc – dylech gynnal adolygiad bryd hynny hefyd.
Sut?
Cam 1 – Ystyriwch eich sefyllfa ariannol bresennol
A ydych yn cynilo ac yn ad-dalu dyledion yn ôl y bwriad? A yw eich amgylchiadau wedi newid?
Dilynwch y ddolen isod i ymchwilio i’ch sefyllfa ariannol. Bydd hyn yn rhoi darlun clir i chi o’ch sefyllfa ariannol bresennol ac yn eich helpu i benderfynu sut mae angen i chi addasu eich cynilion a’ch buddsoddiadau yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.
Dilynwch y ddolen isod i ganfod sut i weld sut mae eich cynilion a’ch buddsoddiadau presennol yn cymharu â’r gystadleuaeth. Bydd hefyd yn dangos i chi sut i weld a yw eich cynilion arian parod yn tyfu’n unol â chwyddiant.
Bydd angen i chi gael eich cyfriflenni cynilion a buddsoddiadau wrth law.
Cam 3 – Sicrhewch eich bod yn gweithredu’n dreth-effeithlon
Ceisiwch ganfod sut y gallwch fod yn dreth-effeithlon drwy ddilyn y ddolen isod.
Cam 4 – Penderfynwch pa newidiadau i’w gwneud
Nawr bod gennych ddarlun clir o’ch sefyllfa bresennol a’r hyn sydd ar gael, ewch ati i gynllunio’ch newidiadau a’u rhoi ar waith gan ddefnyddio’r dolenni isod i’ch helpu. Cofiwch wirio am unrhyw ffioedd ychwanegol. Gallai’r newidiadau hyn gynnwys:
- Symud cyfrifon i gael bargeinion gwell neu fanteisio ar gynhyrchion treth effeithlon
- Newid y balans rhwng y mathau gwahanol o fuddsoddiadau sydd gennych i ledaenu’r risg (arian parod, cyfranddaliadau, eiddo, ac ati)
- Gwnewch y gorau o’ch lwfans Treth Enillion Cyfalaf os byddwch yn gwerthu cyfranddaliadau neu eiddo
Mae gwefannau cymharu yn lle da i gychwyn ar gyfer unrhyw un sy’n ceisio dod o hyd i gyfrif cynilo.
Argymhellwn y gwefannau canlynol er mwyn cymharu cyfrifon cynilo:
Cofiwch:
- Ni fydd pob un gwefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly cofiwch ddefnyddio mwy nag un gwefan cyn gwneud penderfyniad. Felly mae’n bwysig gwneud tipyn o waith ymchwil i mewn i’r math o gynnyrch neu nodweddion a ddymunwch cyn prynu neu newid darparwr. Dysgwch ragor yn ein canllaw ar wefannau cymharu
A oes angen cyngor ariannol arnoch?
Os yw’r newidiadau y mae angen i chi eu gwneud yn gymhleth, dilynwch y ddolen isod i’ch helpu i benderfynu a fyddai cyngor ariannol o fudd i chi.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?