Yn pendroni ynghylch sut i ailforgeisio’ch cartref? Bydd y canllaw hwn yn eich tywys drwy bopeth sydd angen i chi ei wybod am y broses, gan gynnwys beth allai cost eich ailforgeisio fod a’r hyn ddylech chi ei ystyried cyn symud ymlaen.
Ailforgeisio cipolwg sydyn (fideo)
Darllenwch drawsgri fiad y fideo
Gwiriwch y farchnad ar gyfer cynigion morgais
Argymhellwn y gwefannau canlynol er mwyn cymharu morgeisi:
Cofiwch:
- Ni fydd pob un gwefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly cofiwch ddefnyddio mwy nag un gwefan cyn gwneud penderfyniad.
- Felly mae’n bwysig gwneud tipyn o waith ymchwil i mewn i’r math o gynnyrch neu nodweddion a ddymunwch cyn prynu neu newid darparwr.
Ceisiwch gyngor
Bydd cael cyngor gan arbenigwr cymwys yn cynnig diogeliad ychwanegol i chi oherwydd, os digwydd fod y morgais yn anaddas, gallwch gwyno wrth Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS).
Os dewiswch fynd ar hyd y trywydd ‘gweithredu’n unig’ (lle rydych chi’n gwneud penderfyniadau ar ben eich hunan heb gyngor), bydd llai o amgylchiadau y gallwch gwyno wrth yr FOS amdanynt.
Pryd mae’n werth newid a phryd nad yw’n werth newid
Yn y ddwy enghraifft isod mi welwch sut y gall maint y morgais sydd gennych yn weddill a’r tymor sy’n weddill effeithio ar eich penderfyniad i newid benthyciwr neu beidio.
Yn yr enghraifft gyntaf, mae cost newid (£500) yn fwy na’r arbediad (£239.04), felly does dim pwynt ail-forgeisio. Yn yr ail enghraifft, mae’n amlwg fod newid morgais yn mynd i arbed arian.
Swm Benthyciad Morgais |
£175,000 _ |
£175,000_ |
£175,000 |
Cyfnod y Benthyciad |
20 mlynedd |
20 mlynedd |
20 mlynedd |
Llog yn ystod y Cyfnod Sefydlog |
5% |
3% |
3% |
Ffioedd Trefnu neu Gynnyrch |
0 |
0 |
£2000 o ffi drefnu wedi’i hychwanegu at y morgais |
Cyfanswm Cost y Morgais dros Gyfnod o 20 Mlynedd |
£291,196 |
£271,719 |
£274,824 |
Cyfanswm y Llog a Godir dros Gyfnod o 20 Mlynedd |
£116,196 |
£96,719 |
£97,824 |
Cyfanswm y Taliad Misol |
£1,155 |
£971 |
£982 |
Cost Morgais dros gyfnod sefydlog o 5 mlynedd gan gynnwys llog |
£69,295 |
£58,233 |
£58,898 |
*Mae cyfanswm cost credyd wedi’i seilio ar unrhyw ffioedd cysylltiedig â morgais sy’n cael eu talu o flaen llaw ac nad ydynt yn cael eu hychwanegu at y morgais. Gall costau cysylltiedig â morgais amrywio’n fawr rhwng darparwyr ac maen nhw’n ychwanegu at gost eich ad-daliadau pan fyddan nhw’n cael eu hychwanegu at y benthyciad. Mae’r gost dros gyfnod y ddêl wedi’i seilio ar y gyfradd gychwynnol yn parhau’r un peth dros y cyfnod hwnnw ac yn tybio y bydd yn dychwelyd i gyfradd dychweliad safonol benthycwyr neu SVR o 6%. Mae’r gyfrifiannell ar gyfer morgais ad-dalu pan fydd llog yn cael ei gyfrifo’n fisol. Mae’r canlyniadau yn gymwys i log dyddiol pan fydd un taliad yn unig yn cael ei wneud bob mis. Mae’r ffigurau a ddyfynnir wedi’u talgrynnu.
Os byddwch yn newid eich morgais cyn diwedd eich bargen efallai y bydd yn rhaid ichi dalu ffi am wneud hynny (a elwir yn daliad ad-dalu’n gynnar).
Defnyddiwch y dolenni hyn i gael syniad am werth presennol eich cartref
Cofiwch ystyried y costau a’r ffioedd cysylltiedig.
Gwiriwch y costau
Cyn newid, cofiwch ganfod beth fydd y costau. Efallai y bydd rhai benthycwyr yn cynnig bargen heb ffi i’ch temtio, ond os na fyddant, bydd gennych chi gostau cyfreithiol, costau prisio a chostau gweinyddu i’w talu.
Gallwch ddefnyddio’r Cyfradd Codi Tâl Ganrannol Flynyddol (APRC) i’ch helpu i gymharu cynigion. Mae’r APRC yn ffordd o gyfrifo cyfraddau llog sy’n ymgorffori rhai ffioedd ynghlwm â morgeisi yn y cyfrifiad, gan eich galluogi i gymharu gwahanol gynigion morgeisi.
Gallai cynnig sy’n ymddangos fel un sy’n arbed arian i chi, achosi i chi fod ar eich colled yn y pen draw os na fyddwch yn cyfrifo’n gywir i gychwyn arni.
Lleihau eich benthyciad yn ôl gwerth i gael cyfradd well
Mae gan bob cynnyrch morgais derfyn i faint y gallwch ei fenthyca o’i gymharu â gwerth presennol yr eiddo.
Dangosir hyn fel canran a’r enw arno ydy benthyciad yn ôl gwerth.
Pan fyddwch yn ail-forgeisio, po isaf yw’r benthyciad yn ôl gwerth fydd ei angen arnoch, mwyaf o gynnyrch morgeisi fydd ar gael i chi – ac efallai y byddwch yn cael cynnig morgeisi rhatach.
Sut i gyfrifo’ch benthyciad yn ôl gwerth
- Rhannwch y swm sy’n weddill ar eich morgais â gwerth presennol eich eiddo.
- Lluoswch y swm â 100.
Enghraifft
- Y swm sy’n dal yn weddill ar eich morgais ydy £150,000
- Ym marn eich benthyciwr £200,000 ydy gwerth eich eiddo
- 150,000 wedi ei rannu â 200,000 = 0.75
- 0.75 x 100 = 75 – felly eich benthyciad yn ôl gwerth ydy 75%
Defnyddiwch y dolenni hyn i gael syniad am werth presennol eich cartref.
Cofiwch ystyried y costau a’r ffioedd cysylltiedig.
Prisiad eich benthyciwr
Pan fyddwch yn gwneud cais am forgais, cofiwch y gallai prisiad y benthyciwr olygu edrych ar du allan yr eiddo o’r stryd yn unig.
Os ydych chi’n teimlo bod y prisiad yn llawer rhy isel – ac felly’n colli cyfle i gael cyfradd well – gofynnwch i’r benthyciwr ailystyried.
I gefnogi’ch achos, gallech ddarparu tystiolaeth o bris gwerthu ambell i eiddo tebyg yn eich ardal. Hefyd, os yw’n berthnasol, rhestrwch gost unrhyw welliannau drud rydych wedi’u gwneud i’ch eiddo.
Os ydych chi’n ystyried ad-dalu’r cyfan o’ch morgais yn gynnar, oherwydd yr arbedion y gallwch eu gwneud drwy ail-forgeisio, darllenwch ein canllaw isod.
Ail-forgeisio er mwyn cael cyfradd llog well
Pan fyddwch yn cymryd morgais newydd, byddwch fel arfer yn cael bargen gychwynnol – er enghraifft cyfradd ostyngol neu gyfradd sefydlog is neu gyfradd tracio isel am flynyddoedd cyntaf eich morgais.
Fel arfer, bydd y bargeinion cychwynnol yn para rhwng dwy a phum mlynedd. Ar ôl i’r fargen ddod i ben mae’n debyg y byddwch yn cael eich symud i gyfradd amrywiol safonol y darparwr, sydd fel arfer yn uwch na chyfraddau eraill y gallech eu cael yn rhywle arall.
Felly, pan ddaw eich cyfnod cychwynnol i ben, tarwch olwg ar y farchnad i weld a fydd newid i forgais newydd yn arbed arian i chi. Mae hefyd yn werth adolygu opsiynau cyn i gyfraddau llog newid.
Os nad oes gennych chi forgais mawr i’w ad-dalu, efallai nad yw’n werth ichi newid oherwydd gallai’r swm y byddwch yn ei arbed fod yn rhy fach.
Ail-forgeisio er mwyn cael mwy o hyblygrwydd
Drwy ail-forgeisio efallai hefyd y gallwch chi gael cynnig mwy hyblyg – efallai y cewch y cyfle i ordalu.
Neu efallai eich bod am newid i forgais gwrthbwyso neu forgais cyfrif cyfredol, lle rydych yn defnyddio’ch cynilion i leihau’r llog yr ydych yn ei dalu yn barhaol neu dros dro – a’r opsiwn gennych i gael eich cynilion yn ôl os bydd eu hangen arnoch chi.
Ail-forgeisio i gyfuno dyledion
Os oes gennych chi lawer o ddyledion, efallai y cewch eich temtio i gymryd benthyg rhagor o arian a’i ddefnyddio i dalu’ch dyledion eraill.
Er bod cyfraddau llog ar forgeisi yn is fel arfer na’r cyfraddau ar fenthyciadau personol – ac yn llawer is na chardiau credyd – efallai y byddwch yn talu llawer mwy ar y cyfan os yw’r benthyciad dros dymor hwy.
Yn hytrach nag ychwanegu’ch dyledion at eich morgais, ceisiwch flaenoriaethu’ch benthyciadau a’u clirio fesul un.
● Dysgwch Sut i flaenoriaethu’ch dyledion.
● Gweithredwch i leihau eich dyled.
● Dysgwch Ble i gael cyngor ar ddyledion am ddim.