Mae rhai budd-daliadau a chredydau treth yn cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol. Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych sut y mae Credyd Cynhwysol yn wahanol i’r budd-daliadau y gallwch eu cael yn awr a beth allwch chi ei wneud i fod yn barod ar gyfer y newidiadau.
Er mwyn cael gwybod rhagor am y ffordd y mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i’w hawlio darllenwch ein canllaw Egluro Credyd Cynhwysol.
Sut mae Credyd Cynhwysol yn wahanol i Gredydau Treth Plant
?
Byw yng Ngogledd Iwerddon neu’r Alban?
Yng Ngogledd Iwerddon, mae Credyd Cynhwysol yn gweithio’n wahanol. Dysgwch fwy ar wefan nidirect.
Yn yr Alban, efallai y byddwch yn cael cynnig rhai dewisiadau o ran sut y telir eich Credyd Cynhwysol. Darllenwch ein canllaw ar Gredyd Cynhwysol yn yr Alban.
Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol misol yn cynnwys yr elfennau canlynol, a elwir yn ychwanegiadau hefyd, a fydd yn disodli’r cymorth a gewch ar hyn o bryd trwy gredydau treth.
-
Elfen plentyn – yn helpu gyda chostau magu plentyn.
-
Ychwanegiad plentyn anabl – yn helpu gyda chostau ychwanegol magu plentyn anabl a bydd yn cael ei dalu ar naill ai gyfradd is neu uwch gan ddibynnu ar anghenion eich plentyn.
-
Elfen gofal plant – yn caniatáu i chi hawlio hyd at 85% o’ch costau gofal plant cofrestredig misol hyd at derfyn sydd wedi ei gapio ar £646 i un plentyn a £1,108 i ddau neu fwy o blant tra byddwch yn gweithio.
O fis Ebrill 2017, os ydych yn cyflwyno hawliad am Gredyd Cynhwysol, cyfyngir y cymorth i’r ddau blentyn cyntaf (oni bai y cawsoch efeilliaid neu ragor) ac ni fydd premiwm y plentyn cyntaf ar gael mwyach.
Dan Gredyd Cynhwysol bydd rheolau gwahanol am yr hyn sy’n rhaid i chi ei wneud yn gyfnewid am dderbyn eich taliad.
Sut mae Credyd Cynhwysol yn wahanol i gredydau treth
Dan Gredyd Cynhwysol bydd rheolau gwahanol am yr hyn sy’n rhaid i chi ei wneud yn gyfnewid am dderbyn eich taliad.
Oedran y plentyn |
Beth sy’n rhaid i chi ei wneud yn gyfnewid am dderbyn taliad Credyd Cynhwysol |
Dan 1 |
Ni fydd gofyn i chi weithio am eich Credyd Cynhwysol |
Rhwng 1 a 2 |
Gofynnir i chi fynd i gyfweliadau gyda hyfforddwr gwaith i drafod cynlluniau ar gyfer i symud i waith yn y dyfodol |
Rhwng 3 a 4 |
Disgwylir i chi gymryd camau pwrpasol i baratoi ar gyfer gwaith, fel hyfforddiant a chyfweliadau gyda hyfforddwr gwaith |
Rhwng 5 a 12 |
Disgwylir i chi chwilio am waith sy’n cyd-fynd â’ch dyletswyddau – er enghraifft, yn ystod oriau ysgol |
13 oed a hŷn |
Fel arfer disgwylir i chi chwilio am waith amser llawn |
O fis Ebrill 2017, disgwylir i chi baratoi am waith pan fydd eich plentyn ieuengaf wedi cyrraedd dwy oed, ac i chwilio am waith pan fydd eich plentyn ieuengaf wedi cyrraedd tair oed, gyda chymorth gan y Ganolfan Byd Gwaith.
Symud i Gredyd Cynhwysol o Gredyd Treth Gwaith
Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol misol yn disodli’r help yr ydych yn ei gael yn awr trwy Gredyd Treth Gwaith. Bydd yn addasu o fis i fis os bydd y swm y byddwch yn ei ennill yn mynd i fyny neu i lawr.
Dylai hyn ei gwneud hi’n haws i chi dderbyn gwaith am gyfnod byr neu gymryd rhagor o oriau. Os byddwch yn ennill llai yn ystod un mis dylai eich Credyd Cynhwysol godi i gau’r bwlch yn eich enillion.
Hefyd, nid oes cyfyngiad ar y nifer o oriau y mae’n rhaid i chi eu gweithio fel y mae gyda’r Credyd Treth Gwaith.
Er mwyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau fedru cyfrifo faint o Gredyd Cynhwysol y dylech ei gael, bydd arnynt angen gwybod faint yr ydych wedi ei ennill yn ystod y mis diwethaf.
Bydd angen i chi neu eich cyflogwr ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau faint yr ydych wedi ei ennill fel na fyddwch yn cael gormod na rhy ychydig o Gredyd Cynhwysol.
Cofnodi eich enillion os ydych yn gyflogedig
?
Blwch bach Beth yw fy nghyfnod asesu?
Telir Credyd Cynhwysol fel ôl-ddyled. Cyfrifir taliad pob mis trwy edrych faint yr ydych wedi ei ennill yn y mis blaenorol. Gelwir hyn yn gyfnod asesu. Dyddiad dechrau eich cyfnod asesu fydd y dyddiad o’r mis pan wnaeth eich hawliad ddechrau.
Efallai bydd eich cyflogwr yn gallu rhoi adroddiad am eich enillion yn awtomatig trwy system Wybodaeth Fyw’r llywodraeth (RTI).
Bydd raid i chi gael gwybod a oes gan eich cyflogwr fynediad i’r system RTI.
Os oes gan eich cyflogwr fynediad i’r system RTI
Gofynnwch am rif cynllun PAYE eich cyflogwr a dweud wrth eich hyfforddwr gwaith neu ffoniwch linell gymorth Credyd Cynhwysol.
Os oes gennych fwy nag un cyflogwr, bydd angen i chi gael rhif PAYE ar gyfer pob swydd.
Ar ôl i’ch rhif cynllun PAYE gael ei gofnodi ar eich hawliad, dylai gwybodaeth am eich enillion gael ei hanfon yn awtomatig yn fisol i’r Adran Gwaith a Phensiynau ac ni fydd yn rhaid i chi anfon manylion.
Os nad oes gan eich cyflogwr fynediad i’r system RTI
Bydd raid i chi roi adroddiad faint yr ydych wedi ei ennill yn fisol erbyn diwrnod olaf y cyfnod asesu i’ch hyfforddwr gwaith neu’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol.
- bydd angen i chi roi
- enw eich cyflogwr
- y dyddiad y talwyd i chi
- eich cyflog trethadwy gros
- faint o dreth a dalwyd gennych
- faint o Yswiriant Gwladol a dalwyd gennych
- manylion unrhyw gyfraniadau i gynllun pensiwn (ac a ydynt yn cael eu talu o’ch cyflog gros neu net neu i bensiwn personol)
- eich cyfeirnod PAYE.
Bydd raid i chi roi adroddiad am unrhyw enillion na fydd eich cyflogwr yn gwybod amdanynt.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hawlio Credyd Cynhwysol a chofnodi eich enillion ar y
wefan ’Entitled to’
Cofnodi eich enillion os ydych yn hunangyflogedig
Bydd raid i chi roi adroddiad o’ch enillion eich hun trwy gysylltu â’ch hyfforddwr gwaith neu’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol.
Dysgwch ragor am Gredyd Cynhwysol os ydych yn hunangyflogedig yn ein canllaw Credyd Cynhwysol os ydych yn hunangyflogedig.
Sut mae Credyd Cynhwysol yn wahanol i gredydau treth
Dan Gredyd Cynhwysol bydd rheolau gwahanol am yr hyn sy’n rhaid i chi ei wneud yn gyfnewid am dderbyn eich taliad.
Oedran y plentyn |
Beth sy’n rhaid i chi ei wneud yn gyfnewid am dderbyn taliad Credyd Cynhwysol |
Dan 1 |
Ni fydd gofyn i chi weithio am eich Credyd Cynhwysol |
Rhwng 1 a 2 |
Gofynnir i chi fynd i gyfweliadau gyda hyfforddwr gwaith i drafod cynlluniau ar gyfer i symud i waith yn y dyfodol |
Rhwng 3 a 4 |
Disgwylir i chi gymryd camau pwrpasol i baratoi ar gyfer gwaith, fel hyfforddiant a chyfweliadau gyda hyfforddwr gwaith |
Rhwng 5 a 12 |
Disgwylir i chi chwilio am waith sy’n cyd-fynd â’ch dyletswyddau – er enghraifft, yn ystod oriau ysgol |
13 oed a hŷn |
Fel arfer disgwylir i chi chwilio am waith amser llawn |
O fis Ebrill 2017, disgwylir i chi baratoi am waith pan fydd eich plentyn ieuengaf wedi cyrraedd dwy oed, ac i chwilio am waith pan fydd eich plentyn ieuengaf wedi cyrraedd tair oed, gyda chymorth gan y Ganolfan Byd Gwaith.
Symud i Gredyd Cynhwysol o Gymhorthdal Incwm
Os byddwch yn symud o Gymhorthdal Incwm i Gredyd Cynhwysol ni fyddwch yn cael eich cyfyngu i weithio uchafswm o 16 awr yr wythnos felly, efallai, y byddwch yn gallu cynyddu eich oriau gwaith a dal i gael Credyd Cynhwysol.
Os oes gennych blant a’ch bod yn symud i Gredyd Cynhwysol disgwylir i chi drafod eich cynlluniau at y dyfodol pan fydd eich plentyn ieuengaf wedi cyrraedd ei flwydd oed, a pharatoi i weithio pan fydd yn dair oed, gyda chymorth gan y Ganolfan Byd Gwaith.
Symud i Gredyd Cynhwysol o Lwfans Cyflogaeth a Chefnogaeth
Os ydych yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar hyn o bryd darllenwch ein canllaw Credyd Cynhwysol i bobl wael ac anabl.
Symud i Gredyd Cynhwysol o Fudd-dal Tai
?
A wyddech chi?
O 11 Ebrill 2018, os ydych yn symud o Fudd-dal Tai i Gredyd Cynhwysol, byddwch yn parhau i gael Budd-dal Tai am bythefnos wedi i’ch hawliad Credyd Cynhwysol gychwyn er mwyn lleihau’r perygl o lithro ar eich taliadau rhent.
Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol misol yn cynnwys elfen costau tai a fydd yn disodli’r help yr ydych yn ei gael ar hyn o bryd trwy Fudd-dal Tai.
Os yw eich rhent yn cael ei dalu yn uniongyrchol i’ch landlord ar hyn o bryd, bydd hyn yn newid dan Gredyd Cynhwysol.
Bydd yr arian ar gyfer eich rhent yn cael ei dalu i chi fel rhan o’ch taliad Credyd Cynhwysol misol.
Chi fydd yn gyfrifol am ddefnyddio’r arian hwn i dalu i’ch landlord.
Fodd bynnag, os oes gennych chi anghenion cymorth sylweddol (er enghraifft, gyda chyllidebu) gallwch chi neu eich landlord ofyn am Drefniant Talu Amgen nes byddwch wedi cael trefn ar bethau.
Mae hyn yn golygu y gall eich rhent:
- gael ei dalu yn uniongyrchol i’ch landlord
- gael ei dalu yn wythnosol neu bob pythefnos (Taliad Amlach).
Pobl ifanc a Chredyd Cynhwysol
?
Pwysig
Bydd y llywodraeth yn addasu’r holl reoliadau fel y bydd rhai 18 i 21 oed yn gallu hawlio cefnogaeth ar gyfer costau tai yn rhan o’r Credyd Cynhwysol. Nid yw’r dyddiad ar gyfer hyn wedi ei gyhoeddi eto.
O fis Ebrill 2017, os ydych rhwng 18 a 21 oed, yn gyfnewid am dderbyn eich budd-dal disgwylir i chi gymryd rhan mewn Goblygiad Ieuenctid am y chwe mis cyntaf wedi i chi gyflwyno hawliad am Gredyd Cynhwysol.
Bydd hyn yn cynnwys cymorth dwys i chi fedru meithrin y sgiliau sydd eu hangen arnoch i gael gwaith.
Ar ôl chwe mis, disgwylir i chi ymgeisio am brentisiaeth neu hyfforddeiaeth, cael sgiliau’n seiliedig ar waith neu fynd ar leoliad gwaith gorfodol.
Cymorth tai i bobl ifanc
O fis Ebrill 2017, os ydych rhwng 18 a 21 oed, ac allan o waith ni fyddwch yn medru hawlio cymorth tai fel mater o drefn os cyflwynwch hawliad am Gredyd Cynhwysol.
Bydd rhai eithriadau os ydych yn fregus neu os oeddech chi mewn gwaith am chwe mis o leiaf cyn cyflwyno hawliad.
Os ydych yn byw yn yr Alban, dywedodd llywodraeth yr Alban y bydd yn parhau i dalu Budd-dal Tai i rai 18 i 21 oed drwy’r Gronfa Lles Albanaidd.
Os ydych ar Gredyd Pensiwn
Os ydych yn cyrraedd oed Credyd Pensiwn a bod eich partner dan oed Credyd Pensiwn, efallai na fyddwch yn gallu hawlio o’r newydd am Gredyd Pensiwn – efallai y bydd rhaid i chi eich dau hawlio Credyd Cynhwysol yn ei le.
Nid yw’r union ddyddiad ar gyfer y newid hwn wedi ei gyhoeddi eto.
Os ydych chi eisoes yn hawlio Credyd Pensiwn pan ddaw’r newid i rym, ni fydd hyn yn effeithio arnoch chi (oni bai neu nes y bydd toriad yn eich hawliad Credyd Pensiwn am ryw reswm).
Fe ddywedir wrthych am y newid hwn ar yr adeg pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Pensiwn.
Pryd fyddaf i’n symud i Gredyd Cynhwysol?
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn rhoi gwybod i chi pan fydd yn bryd i chi hawlio Credyd Cynhwysol.
Os ydych eisoes yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau y bydd Credyd Cynhwysol yn eu disodli a bod eich amgylchiadau yn aros yr un fath, nid oes raid i chi wneud unrhyw beth.
Os bydd eich amgylchiadau yn newid, er enghraifft, rydych yn colli eich gwaith neu yn symud i fyw gyda phartner sydd eisoes yn hawlio Credyd Cynhwysol, efallai y bydd rhaid i chi hawlio Credyd Cynhwysol yn lle hynny.
Ymdopi yn ariannol nes cewch eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf
Un taliad misol sy’n cael ei dalu fel ôl-ddyled yw Credyd Cynhwysol.
Bydd rhaid i chi aros hyd at bum wythnos am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf.
Os byddwch yn talu rhent, bydd rhaid i chi dalu yn uniongyrchol i’ch landlord.
Os ydych yn cael mwy nag un o’r budd-daliadau sy’n cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol, fel:
- Budd-dal Tai,
- Cymhorthdal Incwm, neu
- Credyd Treth Plant,
efallai y bydd eich cyllideb yn awr wedi ei threfnu o gwmpas y dyddiadau pan ddaw’r taliadau hyn i mewn i’ch cyfrif banc.
Mae’n bwysig gwybod, pan fyddwch yn hawlio Credyd Cynhwysol, y bydd y budd-daliadau hyn hefyd yn dod i ben cyn gynted ag y byddwch yn hawlio. Fodd bynnag, o fis Ebrill 2018, os ydych eisoes yn hawlio Budd-dal Tai byddwch yn parhau i’w gael am y pythefnos cyntaf o’ch hawliad Credyd Cynhwysol.
Meddyliwch sut y byddwch yn ymdopi â’r newidiadau hyn.