Os ydych yn brynwr tro cyntaf a’ch bod yn ceisio deall beth sydd ei angen arnoch i brynu tŷ neu fflat, rydych wedi dod i’r lle iawn. Bydd y canllaw hwn yn eich tywys drwy’r broses o brynu’ch cartref cyntaf, gan gynnwys rhoi trefn ar eich blaendal a’r broses o ymgeisio am forgais.
Faint o flaendal sydd ei angen arnaf i brynu ty?
?
Yn gyffredinol, mae person yn cael ei ddosbarthu fel prynwr tro cyntaf os ydynt yn prynu eu unig breswylfa neu brif breswylfa ac nad ydynt erioed wedi bod yn berchen ar rydd-ddaliad neu sydd â diddordeb lesddaliad mewn eiddo preswyl yn y DU neu dramor.
Cyn cychwyn edrych ar eiddo, bydd angen i chi gychwyn cynilo ar gyfer blaendal. Yn gyffredinol, bydd angen i chi geisio cynilo o leiaf 5% i 20% o gost y cartref yr hoffech chi ei brynu.
Er enghraifft, os hoffech chi brynu cartref sydd yn werth £150,000, bydd angen i chi gynilo £7,500 (5%) o leiaf. Bydd cynilo mwy na 5% yn ei gwneud hi’n haws i chi ymgeisio am ddewis ehangach o forgeisi rhatach.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu fforddio’ch ad-daliadau misol
Fel prynwr tro cyntaf, y peth pwysicaf i’w ystyried wrth brynu eich cartref cyntaf yw a ydych wir yn gallu fforddio cymryd y cam hwn. Mae’n beth doeth llunio cyllideb cyn i chi ddechrau chwilio am eiddo.
Bellach mae gwiriadau llym pan wnewch gais am forgais. Bydd darparwyr benthyciadau yn gwirio a allwch chi fforddio’r morgais ac yn cynnal ‘prawf straen’ i wirio eich gallu i dalu petai cyfraddau llog yn codi neu eich amgylchiadau’n newid, megis dyddiad ymddeol bwriededig neu gael plant.
Fel rhan o’r broses o ymgeisio am forgais bydd angen i chi ddangos tystiolaeth i’r darparwr benthyciad o unrhyw dreuliau a dangos tystiolaeth o’ch incwm.
Cyllidebu ar gyfer y costau eraill sy’n gysylltiedig â phrynu cartref
?
Defnyddiwch ein Treth Stamp i gyfrifo cost y Dreth Stamp ar yr eiddo a brynwch.
Ar wahân i’ch taliadau morgais misol, mae costau eraill ynghlwm â phrynu cartref.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Ffioedd trefnu morgais a ffioedd prisio
- Treth Stamp (neu Dreth Trafodiadau Tir ac Adeiladau yn yr Alban, neu Dreth Trafodiadau Tir yng Nghymru).
- Ffi’r cyfreithiwr
- Cost gwneud arolwg
- Costau symud
- Costau cychwynnol wrth ddodrefnu ac addurno
- Yswiriant adeiladau
Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein canllaw ar
Dreth Stamp.
Cynlluniau fforddiadwy i brynwyr tro cyntaf gael camu ar y farchnad eiddo
Mae nifer o gynlluniau a gefnogir gan y llywodraeth sy’n ceisio helpu prynwyr tro cyntaf – a symudwyr hefyd – i gamu ar y farchnad eiddo.
Os ydych yn medru defnyddio unrhyw un o’r cynlluniau hyn, bydd darparwyr yn dal i fod eisiau sicrhau y gallwch fforddio talu’ch morgais.
Dod o hyd i forgais
Mae nifer o gynigion morgais gwahanol ar gael, felly gall fod yn anodd dewis yr un iawn ar eich cyfer chi.
Gall ddibynnu ar nifer o ffactorau, felly mae’n syniad da gwneud ychydig o ymchwil a siarad ag arbenigwyr megis broceriaid morgais.
Rhydd-ddaliad (freehold) neu lesddaliad (leasehold)
Os ydych chi’n bwriadu prynu tŷ mae’n siŵr mai’r rhydd-ddaliad fyddwch chi’n ei brynu, sy’n golygu mai chi sy’n berchen ar yr eiddo a’r tir y mae’r tŷ wedi cael ei adeiladu arno.
Os ydych chi’n prynu fflat, byddwch naill ai’n prynu lesddaliad neu’n prynu cyfran o rydd-ddaliad.
Y broses ymgeisio
Pa bynnag forgais yr ymgeisiwch amdano, bydd eich darparwr benthyciadau angen gwybod y gallwch barhau i dalu petai cyfraddau llog yn codi neu os bydd unrhyw gynlluniau bwriededig yn newid eich amgylchiadau ariannol.
Bydd angen i chi roi tystiolaeth o’ch incwm, a rhoi gwybodaeth am eich gwariant, yn cynnwys dyledion, biliau’r cartref a chostau eraill fel dillad, gofal plant a theithio.
Er mwyn profi eich bod yn derbyn eich incwm, efallai y bydd yn rhaid i chi ddangos slipiau cyflog a chyfriflenni banc. Os ydych yn hunangyflogedig gallech orfod dangos eich ffurflenni treth a chyfrifon busnes a baratowyd gan gyfrifydd yn mynd yn ôl ddwy flynedd dreth.
Gall rhywun arall warantu eich morgais
Os yw’n anodd ichi gael morgais i brynu eich cartref cyntaf, efallai y byddwch am ystyried morgais gwarantydd. Golyga hyn y bydd rhiant, gwarcheidwad neu berthynas agos yn cytuno i fod yn atebol am y taliadau morgais pe baech chi’n methu â’u talu.
Ni ddylid ymrwymo i forgeisi gwarantydd ar chwarae bach gan eu bod yn drefniadau sy’n eich rhwymo’n gyfreithiol, ac mae angen i’ch gwarantydd allu fforddio talu eich morgais chi os byddwch chi’n mynd i drafferthion.
Os hoffech gael gwybod mwy am ba fenthycwyr sy’n cynnig morgeisi gwarantydd, bydd angen ichi siarad â brocer morgeisi.
Darganfyddwch fwy am forgeisi gwarantwyr ar
wefan Which?opens in new window
Camau nesaf