Yn wynebu colli’ch swydd? Mae llawer o ffyrdd i wneud arian pan fydd hi’n anodd arnoch. Dyma rai enghreifftiau o sut y llwyddodd pobl eraill i wneud ychydig o arian ychwanegol a rhoi hwb i’w hincwm ar ôl colli eu swyddi.
Mynnwch yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl i’w cael
“Wnes i ddim edrych i mewn i’r peth am wythnosau. Wel, roedd gen i gywilydd on’d oedd? Mae’n ddigon drwg colli’ch swydd, ond mae chwilio am gardod… Yn y diwedd, fe wnaeth Reena fy narbwyllo nad oeddwn i’n chwilio am ddim byd nad oedd gennai hawl i’w gael. Fe wnaethon ni hynny ar-lein, ac ni chymerodd fawr ddim amser. Yn y pen draw, roedden ni’n gymwys i gael credydau treth, sy’n gwneud gwahaniaeth anferth i’r gyllideb wythnosol.” – Hiten
Manteision
- Gall gymryd llai na phum munud i gael gwybod.
Anfanteision
Cam nesaf: Defnyddiwch y gyfrifiannell fudd-dal ar y wefan GOV.UK i gael gwybod beth y gallech fod â hawl iddo.
Beth am ystyried hefyd: Hawlio ad-daliad treth, neu hawlio ar unrhyw yswiriant a gymeroch i ddiogelu taliadau morgais, benthyciadau neu gerdyn credyd.
Rhentu ystafell
?
A wyddech chi?
Bydd angen caniatâd eich darparwr morgais neu’ch landlord arnoch i gael lletywr a dylech roi gwybod i’ch cwmnïau yswiriant adeiladau a chynnwys.
“A dweud y gwir, lle i roi’r golch cyn ei smwddio oedd y llofft sbâr. Ond pan gafodd Phil gytundeb chwe mis yng ngwaith Jill ac yntau’n chwilio am rywle i aros o ddydd Llun i ddydd Gwener, roedd yn ymddangos yn ateb perffaith. Mae’r rhent yn helpu yn arw tra dwi’n chwilio am waith, ac mae Phil yn foi iawn. Rydyn ni’n cael y penwythnosau i ni’n hunain hyd yn oed.” – Frank
Manteision
- Gyda chynllun Rhentu Ystafell y llywodraeth, gallwch dderbyn hyd at £7,500 yn flynyddol yn ddi-dreth.
Anfanteision
- Fe fydd raid i chi golli rhywfaint o breifatrwydd. Os ydych yn rhentu’ch cartref, mae’n bosibl na fydd eich landlord yn cytuno.
Cam nesaf: Rhowch wybod i’ch landlord, eich benthyciwr morgais a’ch cwmnïau yswiriant adeiladau a chynnwys. Cofrestrwch eich ystafell am ddim ar safleoedd fel Easyroommate a Spareroom.
Beth am ystyried hefyd: Derbyn myfyrwyr tramor, neu roi eich man parcio ar rent os byddwch yn byw mewn dinas.
Gwerthu pethau diangen
“Roeddwn wedi bwriadu clirio’r atig ers blynyddoedd ond pan golles i fy ngwaith doedd gen i ddim esgus. Fe wnes i dreulio diwrnod yno, a diwrnod wedyn yn rhoi’r cwbl ar eBay. Hen raglenni pêl-droed Dad, fy hen recordiau… Fe wnes i werthu hen beiriant gwnïo hyd yn oed nad oedd wedi gweithio ers blynyddoedd. Fe wnaeth yr arian wahaniaeth mawr dros y Nadolig. Am y cypyrddau dillad nawr!” – Priya
Manteision
- Cewch arian am y stwff nad ydych yn ei ddefnyddio byth – a chael trefn ar eich cartref.
Anfanteision
- Os na wnewch chi ymdrech sylweddol, fyddwch chi ddim yn gwneud arian mawr.
Cam nesaf: Gwnewch eich ymchwil ar-lein neu ewch i arwerthiannau cist car i weld beth sy’n gwerthu.
Beth am ystyried hefyd: Gwefannau ar gyfer ailgylchu ffonau symudol, gliniaduron, offer chwarae gemau ac offer trydanol eraill.
Gweithio o gartref
“_Roeddwn yn arfer mwynhau smwddio – dyna oedd fy amser i anghofio popeth a gwrando ar gerddoriaeth. Pwy feddylie y bydde’n fy helpu trwy’r misoedd diwethaf yma. Fe wnes i gychwyn trwy smwddio i gymdogion ond yn fuan iawn fe aeth y sôn ar led. Erbyn hyn rwyf yn gweithio bron i bedair awr y dydd, ond dwi wastad yma pan fydd y plant yn dod adref o’r ysgol.” – Margaret
Manteision
- Yn aml iawn gallwch weithio pan fydd hynny’n gweddu i chi, ac nid oes costau teithio.
Anfanteision
- Weithiau, gall fod yn anodd eich cymell eich hun gartref. A chael digon o le!
Cam nesaf: Gwnewch eich ymchwil, yna dechreuwch sôn wrth bawb.
Beth am ystyried hefyd: Troi diddordeb yn rhywbeth sy’n talu.
Cymryd swydd newydd
“Doeddwn i ddim am fynd i’r parti colur oherwydd fy mod newydd gael fy niswyddo ac nid oeddwn am fod yr unig un oedd ddim yn prynu dim byd. Ond dw i mor falch mod i wedi mynd. Fe wnaeth Elaine ddweud popeth am y cwmni wrthyf a’r ffordd y mae rhedeg un parti bob wythnos yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i incwm ei theulu. Fe wnaeth hi fy helpu i sefydlu’r busnes ac mae hi wedi bod yn mynd yn wych.” – Anne
Manteision
- Gall mynd allan o’r tŷ i weithio eto roi hwb i hunan-barch.
Anfanteision
- Byddwch yn barod i weithio ar benwythnosau a min nos – ac i werthu i ffrindiau a theulu.
Cam nesaf: Gwnewch restr o’r holl bartïon gwerthu yr ydych chi wedi bod ynddyn nhw, neu yn gwybod amdanyn nhw, ac edrychwch arnyn nhw ar-lein.
Beth am ystyried hefyd: Bod yn glerc etholiad neu’n fonitor mewn arholiadau ysgolion.
Budd-daliadau a threth – gair o rybudd
Mae incwm ychwanegol yn wych ond fe allai effeithio ar y budd-daliadau y byddwch yn eu cael. A chofiwch y bydd ar y dyn treth eisiau ei gyfran yntau os bydd eich incwm yn fwy na’ch lwfans di-dreth (£12,500 yn y flwyddyn dreth 2020/21).
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?