Mae rhai cwmnïau a sefydliadau yn cynnig gostyngiadau i bobl anabl a gofalwyr – darllenwch ragor i weld faint allech chi ei arbed.
Arbed arian gartref
Gostyngiad yn y Dreth Gyngor
Gallech fod yn gymwys am ostyngiad ar eich Treth Gyngor os oes raid i chi fyw mewn eiddo sy’n fwy na fyddai ei angen arnoch petaech chi ddim yn anabl. Rhoddir yr enw ‘Cynllun Gostyngiad Band i’r Anabl’ arno.
Er enghraifft, rydych yn adeiladu estyniad i’ch eiddo er mwyn creu ystafell ymolchi sy’n hygyrch ar gyfer cadair olwyn. Mae hyn yn cynyddu maint eich eiddo ac yn gwthio’ch eiddo i mewn i fand uwch o’r Dreth Gyngor. Serch hynny, gan fod yr estyniad wedi ei adeiladu i greu cartref mwy hygyrch, gallwch gael gostyngiad ar eich bil Treth Gyngor fel eich bod yn talu’r un faint ag y gwnaethoch cyn yr estyniad.
Dim TAW ar offer neu addasiadau i’r anabl
Os oes gennych chi afiechyd hirdymor neu os ydych yn anabl, efallai na fydd raid i chi dalu TAW ar offer i’r anabl neu waith adeiladu i addasu’ch cartref.
Cap ar filiau dŵr
Os oes gennych chi fesurydd dŵr, eich bod yn defnyddio llawer o ddŵr oherwydd eich cyflwr, a’ch bod yn cael rhai budd-daliadau neilltuol, gallech fod yn gymwys i gael biliau dŵr wedi’u capio.
Awgrymiadau arbed arian wrth deithio
Mae llawer o ostyngiadau ar gyfer pobl anabl a gofalwyr ar bopeth o gostau ceir a pharcio, i ffioedd trên a thocyn bws.
Gostyngiadau ar weithgareddau hamdden
Tocynnau sinema am ddim ar gyfer cyfeillion a gofalwyr
Gallwch wneud cais am gerdyn gan Gymdeithas yr Arddangoswyr Sinema (CEA) sy’n rhoi un tocyn am ddim i gydymaith fydd yn dod gyda chi i’r sinema.
Tocynnau theatr am bris gostyngedig a thocynnau am ddim i ofalwyr
Mae llawer o theatrau’n cynnig tocynnau am bris gostyngedig i bobl anabl. Mae rhai yn cadw seddi hefyd ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn ac yn gadael i ofalwyr fynd i mewn am ddim.
Gwiriwch gyda’r theatr wrth archebu’ch tocynnau i ganfod beth sydd ganddynt i’w gynnig.
Mynediad am ddim i ofalwyr i mewn i eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac English Heritage
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac English Heritage yn cynnig mynediad am ddim i gydymaith neu i ofalwyr ymwelwyr anabl. Mae’r ymwelydd anabl yn talu’r tâl mynediad neu’r tâl aelodaeth arferol.
Er mwyn osgoi gorfod gofyn am fynediad am ddim yn eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gallwch wneud cais am ‘Gerdyn Mynediad i bawb, Un yn Talu’ ymlaen llaw.
Consesiynau mewn llyfrgelloedd cyhoeddus
Mae rhai llyfrgelloedd yn cynnig y gwasanaethau canlynol ar gyfradd ostyngedig neu am ddim i bobl anabl:
- mynediad at gyfrifiadur
- deunydd sain a gweledol
- llyfrau na chawsant eu dychwelwyd yn brydlon
Mae hyn yn amrywio o un awdurdod lleol i’r llall.
Mynediad am ddim i ofalwyr i gemau pêl-droed
Mae rhai clybiau yn cynnig hyn i gefnogwyr gydag anableddau a’u gofalwyr. Gwiriwch gyda’ch clwb lleol os yw ar gael.
Profi eich bod yn anabl
Bydd rhai bargeinion sydd ar gael i bobl anabl yn nodi y bydd angen i’r unigolyn fod wedi ei ‘gofrestru’n anabl’ er mwyn bod yn gymwys, heb egluro’n iawn beth yw ystyr hyn.
Nid oes y fath beth â chofrestr ar gyfer pobl anabl.
Fel arfer derbynnir llythyr cadarnhad gan Adran Gwaith a Phensiynau yn dangos eich bod yn gymwys i gael budd-daliadau anabledd fel tystiolaeth eich bod yn anabl, os cewch fyth eich holi.
Neu gallwch ddangos copi o’ch bathodyn glas neu’ch tocyn bws ar gyfer unigolyn anabl.
Os ydych yn ansicr, cofiwch ofyn
?
Peidiwch  bod yn swil
“Ble bynnag yr af, fy nghwestiwn cyntaf yw, ‘A oes yna gonsesiwn ar gyfer pobl anabl neu ofalwyr?’ Fel arfer, mae consesiwn ar gael.”
Mae pob math o leoedd – o’r parc difyrrwch i’r sw a llawer i leoliad arall – yn cynnig consesiynau, ond nid ydynt bob tro’n cael eu hysbysebu.
Does gennych chi ddim byd i’w golli – felly gofynnwch.
Dod o hyd i ragor o wybodaeth
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?