Mae Treth Car (VED) neu dreth ffordd, yn gost uchel iawn ar gyfer ceir. Gall fod yn unrhyw swm hyd at £1,000 neu fwy bob blwyddyn, gan ddibynnu ar ba mor ecogyfeillgar yw’r car. Yma gallwch gael gwybod faint o dreth ffordd y byddwch yn ei dalu ar eich cerbyd, newidiadau i’r dreth car ar gyfer 2018, a sut i gyfrifo pris treth unrhyw gar drwy ddefnyddio offerynnau ar-lein.
Trethu car - y ffeithiau sylfaenol
?
Arbedwch amser
Gall cyfrifo faint o dreth sydd angen i chi ei dalu fod yn ddryslyd. Y ffordd gyflymaf yw defnyddio cyfrifiannell cyfraddau treth Cerbyd. Byddwch angen manylion eich cerbyd, fel ei wneuthuriad a’r model.
Defnyddio’r gyfrifiannell cyfraddau treth cerbyd
Rhaid talu treth car ar bob cerbyd a gofrestrir yn y DU, sy’n cael ei yrru neu ei gadw ar ffordd gyhoeddus. Gall dewis y car iawn wneud gwahaniaeth mawr i’ch costau treth.
Yn ogystal, gallai dewis car â threth isel olygu bod y car yn cadw ei werth yn well gan y bydd mwy o bobl yn awyddus i’w brynu.
Rhaid trethu cerbyd a gedwir oddi ar y ffordd neu mae’n rhaid iddo gael HOS (Hysbysiad Oddi-ar-y-ffordd Statudol).
Perchnogion ceir sydd wedi’u heithrio rhag treth ffordd
Nid yw’r mathau dilynol o berchnogion ceir yn talu treth ffordd:
?
O fis Ebrill 2018, bydd ceir disel newydd, nad ydynt yn bodloni’r safon Allyriadau Gyrru Gwirioneddol 2 (RDE2) diweddaraf, yn symud i fyny un band treth. Er enghraifft, os yw’ch car disel yn y braced allyriadau CO2 76-90 gram am bob cilomedr a yrrir, bydd angen i chi dalu cyfradd o 91-100.
- perchnogion ceir newydd sy’n cynhyrchu 0 gram o allyriadau carbon deuocsid (CO2) ac sydd â phris o lai na £40,000
- perchnogion ceir a gofrestrwyd rhwng 1 Mawrth 2001 a 1 Ebrill 2017 sy’n cynhyrchu hyd at 100 gram o CO2 am bob cilomedr a yrrir.
Os oes gennych anabledd, gallech fod yn gymwys i gael treth car am ddim:
- os oes gennych chi gerbyd i berson anabl, fel sgwter symudedd
- os ydych yn cael Atodiad Symudedd Pensiynwr Rhyfel
- os ydych yn cael y gyfradd uwch o’r elfen symudedd o’r Lwfans Byw i’r Anabl.
Nid oes raid i chi dalu treth car ar ‘gerbydau hanesyddol’ sy’n golygu car sy’n hŷn na 40 mlwydd oed.
Dysgwch pa gerbydau eraill sydd yn ddi-dreth ar y wefan GOV.UK.
Faint yw treth car?
Ceir a gofrestrwyd ar ôl mis Mawrth 2017
Ym mlwyddyn gyntaf y car, bydd cyfraddau’n newid yn seiliedig ar allyriadau carbon diocsid y cerbyd.
Allyriadau CO2 (g/km) |
Cyfradd y flwyddyn gyntaf |
Cyfradd y flwyddyn gyntaf ar gyfer car diesel nad yw’n bodloni RDE2 amily |
0 |
£0 |
£0 |
1-50 |
£10 |
£25 |
51-75 |
£25 |
£105 |
76-90 |
£105 |
£125 |
91-100 |
£125 |
£145 |
101-110 |
£145 |
£165 |
111-130 |
£165 |
£205 |
131-150 |
£205 |
£515 |
151-170 |
£515 |
£830 |
171-190 |
£830 |
£1,240 |
191-225 |
£1,240 |
£1,760 |
226-255 |
£1,760 |
£2,070 |
Over 255 |
£2,070 |
£2,070 |
Ar ôl blwyddyn gyntaf y car, ar gyfer ceir sydd â phris gwerthu dan £40,000, y costau treth car yw:
Treth yn seiliedig ar y math o danwydd ar ôl y flwyddyn gyntaf
Allyriadau CO2 (g/km) |
Cerbyd trydan |
Tanwydd arall |
Petrol neu ddiesel |
£0 |
£130 |
£140 |
|
Ar gyfer ceir sy’n costio mwy na £40,000 byddwch yn talu £310 yn ychwanegol am y pum mlynedd nesaf. Ar ôl pum mlynedd, byddwch yn talu’r gyfradd flynyddol safonol yn ddibynnol ar y math o danwydd a ddefnyddir gan eich cerbyd.
Felly, er enghraifft, byddai car trydan pur gyda phris prynu dros £40,000 yn talu £310 (£0+£310) am y pum mlynedd nesaf.
Y pris prynu yw’r pris a gyhoeddir cyn unrhyw ostyngiadau ar y cofrestriad cyntaf. Gwiriwch y pris prynu gyda’ch gwerthwr ceir er mwyn i chi wybod faint o dreth cerbyd fydd yn rhaid i chi ei dalu.
Ceir a gofrestrwyd yn Chwefror 2001 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Ebrill 2017
?
Gair i gall
I gael cymorth wrth gyfrifo holl gostau rhedeg eich car, rhowch gynnig ar ein hofferyn Cyfrifiannell costau car.
Mae cyfradd y dreth rydych yn ei dalu’n dibynnu ar allyriadau CO2 swyddogol y car a’r math o danwydd mae’n ei ddefnyddio.
Mae’r cyfraddau wedi eu rhannu yn fandiau, yn seiliedig ar faint o ramau o garbon deuocsid (CO2) mae car yn eu hallyrru am bob cilometr a yrrir:
Allyriadau CO2 (g/km) |
Cost llawn am 12 mis |
Up to 100 |
£0 |
101-110 |
£20 |
111-120 |
£30 |
121-130 |
£120 |
131-140 |
£140 |
141-150 |
£155 |
151-165 |
£195 |
166-175 |
£230 |
176-185 |
£250 |
186-200 |
£290 |
201-225 |
£315 |
226-255 |
£540 |
Over 255 |
£555 |
Gallwch rannu’r taliadau hyn er mwyn helpu i reoli’r costau ond bydd angen i chi dalu ychydig yn fwy i wneud hyn. Gallwch dalu’n fisol, neu am gyfradd o chwe mis.
Dysgwch ragor am gyfraddau treth cerbyd ar wefan GOV.UK.
Ceir a gofrestrwyd cyn 1 Mawrth 2001
Mae cyfradd y dreth yn seiliedig ar faint y peiriant yn unig. Mae un gyfradd ar gyfer peiriannau hyd at 1549cc ac un ar gyfer 1549cc a drosodd.
Maint yr injan (cc) |
Cyfradd 12 mis |
Dim mwy na 1549 |
£155 |
Dros 1549 |
£255 |
Dewch o hyd i geir newydd yn ôl band treth ar y
wefan GOV.UK.
Cyfrifwch y dreth ar eich car trwy ddefnyddio’r gyfrifiannell syml ar y
wefan GOV.UK.
Treth ffordd ar feiciau modur, mopeds a beiciau modur tair olwyn
Mae allyriadau is yn golygu bod VED ar feiciau modur, mopeds a beiciau modur tair olwyn fel arfer yn is nag ar gyfer cerbydau petrol a diesel.
Beic modur (gyda neu heb seidcar)
Maint yr injan (cc) |
Cost llawn am 12 mis |
Dim mwy na 150 |
£19 |
151-400 |
£42 |
401-600 |
£64 |
Dros 600 |
£88 |
Beiciau modur tair-olwyn (dim mwy na 450kg heb lwyth)
Maint yr injan (cc) |
Cost llawn am 12 mis |
Dim mwy na 150 |
£19 |
Dros 150 |
£88 |
I gael rhagor o wybodaeth am dreth cerbyd ar gyfer beiciau modur, mopeds a beiciau modur tair-olwyn, ewch i
wefan Gov.uk.
Treth cerbyd wrth brynu a gwerthu cerbyd
Nid yw treth ar gerbydau yn cael ei throsglwyddo pan gânt eu gwerthu.
Er enghraifft, pan brynwch gar y mae rhywun arall wedi’i drethu’n flaenorol, nid yw’n cyfrif os oedd dau fis o dreth yn weddill ar y cerbyd ar ôl i chi ei brynu. Bydd angen i chi dalu’r dreth ar y cerbyd cyn i chi fedru ei yrru.
Golyga hefyd, os ydych yn gwerthu cerbyd, gallwch hawlio ad-daliad am unrhyw fisoedd llawn sydd yn weddill. Rhoddir ad-daliad fel mater o drefn pan fyddwch yn dychwelyd y rhan gwerthu neu drosglwyddo o’r ffurflen V5C i’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).
Felly hefyd ar gyfer Hysbysiad Oddi-ar-y-ffordd Statudol (HOS) ar gerbyd. Os prynwch gerbyd sydd yn HOS, bydd angen i chi ddweud wrth y DVLA ei fod yn cael ei gadw oddi ar y ffordd a chael HOS newydd.
Costau a thollau
Yn ddibynnol ar ble fyddwch yn gyrru a pha ffyrdd ddefnyddiwch chi, efallai y bydd raid i chi dalu tollau a chostau ychwanegol.
Mae ffyrdd tollau i’w defnyddio sef, ymysg eraill, Croesfan Dartford yn Llundain, a rhan o’r M6 i’r gogledd o Birmingham.
Ewch i
Gov.uk am restr lawn o’r ffyrdd tollau yn y DU.
Rhaid talu costau hefyd wrth yrru yng nghanol Llundain, a elwir yn Dâl Atal Tagfeydd Llundain, ac yn Durham, a elwir yn Gost Defnydd Ffordd Durham.
O 23 Hydref 2017, bydd cerbydau na fyddant yn bodloni’r safonau allyriadau gofynnol yn talu gordal, a elwir yn Dâl Gwenwyndra neu “T-Charge”.
Dysgwch fwy am y “T-Charge” ar
wefan TfLopens in new window.
Eich cam nesaf