Beth fydd yn digwydd pan fydd eich cronfa gydag elw yn cau
Os byddwch yn cael llythyr yn nodi bod eich cronfa gydag elw yn cau, peidiwch â chynhyrfu – y cyfan y mae hyn yn ei olygu yw na all pobl newydd brynu i mewn i’r cynllun. Yn gyffredinol, dylai eich buddsoddiad barhau fel ag y mae, ond mae rhai pethau y dylech fod yn ymwybodol ohonynt o ran bod yn berchen ar bolisi gydag elw caeedig.
Deall achosion o gau cronfeydd
Pam y gallai cronfa gydag elw gau
Mae sawl rheswm pam y gallai cronfa roi’r gorau i werthu polisïau newydd. Er enghraifft:
- Nid yw’r gronfa yn perfformio’n dda
- Ni all y cwmni ddenu llawer o gwsmeriaid newydd
- Nid yw’r cwmni’n gwneud digon o elw ar werthiannau polisïau newydd ac/neu
- Mae’r gronfa yn trosglwyddo i gwmni yswiriant arall
Beth sy’n digwydd i gronfeydd caeedig?
Pan fydd cronfa yn cau, dim ond cau i fuddsoddwyr newydd y bydd yn gwneud mewn gwirionedd – gall eich arian aros yn y gronfa gyda’r potensial i ennill bonysau yn y dyfodol.
Os bydd eich cronfa ar fin cau, bydd y cwmni yswiriant yn ysgrifennu atoch gan nodi’r manylion. Mae’n rhaid iddo eich hysbysu am y canlynol:
- pam ei fod yn cau’r gronfa
- beth mae cau yn ei olygu i chi
- eich opsiynau
Nid yw cronfeydd caeedig o reidrwydd yn gwneud yn well nac yn waeth na chronfeydd agored. Ond gallai rheolwr cronfa gaeedig newid o fuddsoddiadau risg uwch – fel cyfranddaliadau – i fuddsoddiadau mwy sefydlog fel bondiau.
Penderfynu beth i’w wneud
Os oes gan eich cronfa warantau gwerthfawr – megis cyfandaliad hael os byddwch yn cadw gafael ar y polisi – dylech ystyried gadael eich arian fel ag y mae.
Ond os byddwch o’r farn nad yw eich cronfa gydag elw gaeedig yn gwneud cystal ag y dylai fod ac y gallech ennill mwy drwy fuddsoddi rywle arall, gallai dod â’ch polisi i ben yn gynnar fod yn syniad gwell.
Cyn i chi benderfynu, dysgwch mwy am eich opsiynau drwy siarad â chynghorydd ariannol neu ddarllen ein canllaw dod â’ch polisi gydag elw i ben yn gynnar.
A yw cronfeydd gydag elw caeedig yn ddiogel o hyd?
Caiff pob cronfa – boed yn agored neu’n gaeedig – ei rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Un o’i brif rolau yw sicrhau y cewch eich trin yn deg. Os bydd gennych broblem, darllenwch ein canllaw datrys problem ariannol neu wneud cwyn.
Os caiff eich polisi ei drosglwyddo i yswiriwr arall
Os bydd cwmni arall yn prynu eich cronfa gydag elw – neu’n prynu eich yswiriwr – caiff eich polisi ei drosglwyddo i’r cwmni newydd. Yn y naill achos a’r llall, bydd eich cwmni yswiriant yn ysgrifennu atoch ac yn egluro’r manylion.
Nid oes angen poeni bod eich polisi yn trosglwyddo – mae cyfreithiau a rheoliadau ar waith i sicrhau na fyddwch yn cael bargen waeth am fod eich polisi wedi symud i gwmni arall.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?