Mae’n bosibl y gallai newidiadau diweddar i’r system budd-daliadau olygu bod gennych lai o arian i fyw arno. Gall hyn arwain at bwysau ar gyllideb eich cartref a phryderon ynghylch dyledion. Dysgwch beth allwch chi ei wneud i gael deupen llinyn ynghyd yn y byrdymor, yna edrychwch ar ffyrdd hirdymor i reoli eich arian.
Toriadau mewn Budd-dal Tai
Os yw’ch Budd-dal Tai wedi’i dorri, efallai oherwydd y cap budd-daliadau neu ystafell wely sbâr, yna mae’n bosibl eich bod yn poeni am fethu â thalu’ch rhent. Neu efallai fod gennych ôl-ddyledion rhent yn barod.
Cysylltwch â’ch landlord
Os ydych yn poeni am ddod o hyd i’r arian i dalu’ch rhent, y peth cyntaf y dylech ei wneud yw siarad â’ch landlord i weld a oes unrhyw ddewisiadau ar gael ichi.
Os ydych yn rhentu eiddo tai cymdeithasol, efallai y bydd eich cyngor neu gymdeithas dai’n siarad â chi am drosglwyddo i gartref llai (os oes rhai ar gael) a gallant eich cynghori ynghylch unrhyw gymorth ariannol ychwanegol a allai fod ar gael ichi.
Hawliwch Daliad Tai Dewisol gan eich cyngor
Efallai y gallech wneud cais i’ch cyngor am gymorth i helpu i ychwanegu at eich Budd-dal Tai yn y tymor byr gyda Thaliad Tai Dewisol. Maent ar gael i bobl sy’n wynebu diffyg rhwng eu budd-daliadau a chostau tai.
Ystyriwch gael lojar
Efallai bod rhentu eich ystafell sbâr yn bosibilrwydd.
Os penderfynwch chi fynd i lawr y llwybr hwn, mae rhai pethau y dylech wybod:
- O gael lojar ni fyddech yn cael eich ystyried fel rhywun ag ystafell sbâr pan ddaw yn fater o asesu eich Budd-dal Tai.
- Ond, heblaw am yr £20 yr wythnos cyntaf, mae’r arian ychwanegol yr ydych yn debygol o’i gael mewn rhent yn debygol o gael ei dynnu, bunt am bunt, o’ch budd-daliadau.
- Bydd yn rhaid ichi wirio bod eich cytundeb tenantiaeth yn caniatáu i chi is-logi ystafell.
- Efallai na fydd eich yswiriant cynnwys yn ddilys os byddwch yn cymryd lojar. Gwnewch yn siŵr eich bod yn holi’ch yswiriwr os ydych yn dal wedi’ch yswirio.
- Lawrlwythwch daflen ffeithiau am osod ystafell yn eich cartref o’r wefan GOV.UK
Gweithredwch yn gyflym os oes gennych ôl-ddyledion rhent
Os oes gennych ôl-ddyledion rhent eisoes, rhaid i chi siarad â’ch landlord yn syth. Efallai y gallwch ddod i gytundeb gyda nhw lle cewch dalu’r arian sy’n ddyledus gennych fesul tipyn.
Os oes arnoch angen cyngor ynglŷn â sut i ddelio â’ch landlord, neu os ydych yn poeni am golli’ch cartref, gallwch ffonio Shelter neu Ganolfan Cyngor ar Bopeth, neu Housing Advice NI yng Ngogledd Iwerddon.
Y Dreth Gyngor
Mae gan gynghorau lleol eu Cynlluniau Gostyngiad y Dreth Gyngor eu hunain.
Mewn rhai ardaloedd ni fydd yn rhaid ichi dalu unrhyw beth tuag at eich bil Treth Gyngor, ond mewn ardaloedd eraill mae’n bosibl y bydd rhaid ichi dalu canran ohono.
Gwiriwch fod y bil a anfonwyd ichi’n gywir
Mae’n werth gwirio bod eich cyngor yn codi’r swm cywir o Dreth Gyngor arnoch. Dylech wirio bod eich cartref wedi’i osod yn y band cywir ac a ydych yn gymwys am unrhyw eithriadau neu ostyngiadau.
Sut i arbed arian ar eich bil Treth Gyngor.
Gofynnwch i’ch cyngor am ledaenu’r taliadau dros 12 mis
Gallwch ddewis lledaenu’ch taliadau dros 12 mis yn lle 10.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol a gofyn iddynt am sefydlu taliadau misol.
Hawliwch Daliad Tai Dewisol i helpu gyda’ch Treth Gyngor.
Efallai y gallech wneud cais i’ch cyngor am Daliad Tai Dewisol i helpu gyda’ch taliadau Treth Gyngor.
Os yw’ch budd-daliadau wedi’u torri o ganlyniad i sancsiwn
Os yw’ch budd-daliadau wedi’u sancsiynu yna mae pethau y gallwch eu gwneud, fel:
- gwirio bod y sancsiwn yn gywir a’i herio os nad yw
- ymgeisio am daliad caledi o’ch Canolfan Byd Gwaith leol
- cael cymorth gyda chostau hanfodol gan eich cynllun lles lleol.
Dysgwch ragor am sancsiynau budd-daliadau a beth i’w wneud amdanynt.
Cyngor am ddim ar ddyledion
Os ydych yn poeni am fynd i ddyled â biliau neu am gadw i fyny ag ad-daliadau dyled mae llawer o gymorth a chyngor cyfrinachol ar gael am ddim. Darganfyddwch Ble i gael cyngor am ddim ynghylch dyled.
Help gyda chyllidebu
Ystyriwch faint sydd gennych i fyw arno
Amcangyfrifwch faint o arian sydd gennych yn dod i mewn. Rhestrwch eich holl alldaliadau. Faint o arian sydd ei angen arnoch i dalu am y pethau sylfaenol?
Cofiwch mai biliau fel eich rhent neu forgais, eich Treth Gyngor a’ch biliau nwy a thrydan a ddylai fod yn flaenoriaeth gyntaf i chi.
Defnyddiwch ein
Cynllunydd cyllideb i gyfrifo’ch incwm a’ch alldaliadau.
Ffonio’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol ar 0300 500 5000 a bydd un o’n cynghorwyr yn gallu’ch helpu i wneud cyllideb.
Gwiriwch i weld os gallwch wneud unrhyw arbedion
A oes unrhyw ffordd i leihau’ch gwariant? A oes unrhyw filiau lle rydych yn ystyried ei bod yn bosibl y gallech gael bargen well?
Darllenwch ein
Hawgrymiadau ar arbed arian i wirio a oes unrhyw arbedion y gallwch eu gwneud.
Am awgrymiadau arbed arian ymarferol, bob dydd,
gwiriwch y canllawiau Fy Arian.^
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?