Mae’n syniad da i ddeall yr opsiynau sydd ar gael i chi pan fydd eich gwyliau talu ar eich cerdyn siop yn dod i ben, yn enwedig os ydych yn dal i fynd i gael anawsterau i wneud ad-daliadau.
Beth sy’n digwydd pan mae’ch gwyliau talu drosodd?
Bydd eich darparwr cerdyn siop yn cysylltu â chi pan rydych yn dod i ddiwedd gwyliau talu (a elwir hefyd yn rhewi taliad) er mwyn trafod eich opsiynau.
Bydd er eich budd chi i drafod y camau nesaf gyda’ch darparwr. Os na fyddant yn clywed yn ôl gennych byddant yn ailddechrau eich ad-daliadau’n awtomatig.
O dan amgylchiadau arferol, bydd unrhyw daliadau a fethwyd (yn cynnwys llog sy’n ddyledus) yn cael eu hychwanegu i’ch balans sy’n weddill, yn destun i unrhyw gyfnod hyrwyddo. Bydd hyn yn golygu y bydd eich isafswm taliadau misol ar eich cerdyn siop yn mynd i fyny.
Bydd eich darparwr cerdyn siop yn dweud wrthych faint fydd eich taliadau ar eich datganiad cyntaf ar ôl i’ch rhewi taliad ddod i ben.
Os ydych yn mynd i barhau i gael anawsterau i wneud ad-daliadau ar ôl i’ch rhewi taliad ddod i ben, mae’n bwysig eich bod yn cysylltu â’ch darparwr cerdyn siop cyn gynted â phosibl.
Os ydych yn dal i gael anawsterau ariannol oherwydd yr achos o goronafeirws, efallai y byddwch yn dal i allu gwneud cais am wyliau talu, a elwir hefyd yn ohirio taliad, o dan rai amodau.
Pa opsiynau gall eich benthyciwr eu hystyried?
Gwyliau talu
Os ydych yn parhau i gael anawsterau ariannol oherwydd yr achos o goronafeirws, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais o hyd am wyliau talu, a elwir hefyd yn ohirio taliad, o dan rai amodau penodol.
Os nad ydych eto wedi cymryd gwyliau talu ar eich taliadau cerdyn, gallwch wneud cais am wyliau talu am hyd at gyfanswm o chwe mis. Fodd bynnag, dylech barhau i wneud taliadau os gallwch fforddio gwneud.
Os ydych eisoes wedi cymryd gwyliau talu, gellir ymestyn hyn am hyd at uchafswm o chwe mis. Fodd bynnag, mae er eich budd chi i ddechrau eich ad-daliadau eto os gallwch fforddio gwneud.
Mae’r dyddiad cais i wneud cais am wyliau talu wedi cael ei ymestyn hyd at 31 Mawrth 2021.
Os ydych eisoes wedi cymryd y wyliau talu llawn o chwe mis, ni fyddwch yn gallu gwneud cais am wyliau arall.
Newid dyddiad mae’ch taliad yn ddyledus
Os bydd o fantais i chi, gall eich darparwr newid y dyddiad mae’ch taliad yn ddyledus. Er enghraifft, i yn syth ar ôl i chi gael eich talu.
Lleihau’r cyfraddau llog ar eich cerdyn siop
Gall lleihau’r gyfradd llog ar eich cerdyn siop wneud eich ad-daliadau’n haws eu trin, neu leihau’r gyfradd mae’ch balans sy’n weddill yn cynyddu.
Fodd bynnag, bydd dal angen i chi dalu o leiaf yr isafswm bob mis.
Rhoi cynllun talu realistig at ei gilydd
Os yw’ch arian wedi ei effeithio’n ddifrifol gan y coronafeirws, efallai gall eich benthyciwr roi cynllun ad-dalu gwahanol at ei gilydd.
Gallai hyn gynnwys cyfuniad o bethau i wneud eich ad-daliad yn haws i’w drin.
Mae’n ofynnol i bob benthyciwr, gan gynnwys darparwyr cardiau siop, i weithio gyda chi i weithio allan cynllun ad-dalu yn seiliedig ar eich amgylchiadau.
Beth yw’r ffordd orau o gysylltu â fy narparwr cerdyn siop?
Mae canolfannau galwadau’n brysur ac amseroedd aros yn aml yn hir. Os na allwch fynd trwodd, rhowch gynnig ar anfon e-bost atynt neu fynd ar-lein. Mae hyn hefyd yn golygu gallwch brofi pryd wnaethoch gysylltu â nhw, a all fod yn ddefnyddiol pe baen nhw’n awgrymu nad oeddech.
Ceisiwch gadw cofnod o bob llythyr ac e-bost rhyngoch â’ch credydwyr Os ydyn nhw’n ffonio, gwnewch nodyn o’u henw a phryd y gwnaethon nhw alw.
Os nad ydych yn fodlon â’r ffordd mae unrhyw gredydwr wedi ymateb neu ymddwyn, gwnewch nodyn o’r manylion rhag ofn byddwch yn gwneud cwyn yn ddiweddarach.
Mae llawer o lythyrau templed ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd a all eich helpu.
Er enghraifft, mae gan or example,
National Debtline lythyrau ar gyfer wahanol senarios, gan gynnwys gofyn am gyfriflen sy’n dangos faint sydd gennych yn weddill i’w dalu ar eich cerdyn siop a gofyn i gredydwyr i gadw draw rhag dod ag achos nes eich bod wedi cael cyngor.
Effaith cefnogaeth bellach ar eich ffeil gredyd
Os yw’ch darparwr cerdyn siop yn cynnig cefnogaeth bellach i chi ar ôl i’ch gwyliau talu ddod i ben, bydd hyn yn cael ei gofnodi ar eich ffeil gredyd. Gallai hyn olygu y gallai fod yn anoddach i chi fenthyg arian yn y dyfodol.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi hawlio popeth mae gennych hawl iddo
Gwnewch gyllideb brys
Os ydych yn poeni am lif arian, edrychwch ar beth rydych yn ei wario a pha incwm sydd gennych yn dod i mewn.
Edrychwch ar sut i gwtogi biliau’r tŷ, fel drwy newid darparwyr ar gyfer eich nwy, trydan neu gontractau ffôn symudol.
Mae gan ein hadran
Fy Arian awgrymiadau defnyddiol.
Y camau nesaf os ydw i wedi methu taliad
Os ydych wedi methu taliad cysylltwch â’ch darparwr cerdyn siop i egluro’r sefyllfa. Dylech osgoi cymryd allan mwy o gredyd oni bai eich bod yn gwybod y gallwch fforddio i’w dalu yn ei ôl.
Gall y canllawiau hyn eich helpu sut i siarad â’ch benthyciwr:
Pa ddiogelwch cyfreithiol sydd gen i?
Mae
Deddf Credyd Defnyddwyr yn rhoi hawliau i chi pan fyddwch yn delio â chredydwyr, fel darparwyr cardiau. Er enghraifft, os ydych yn mynd yn ddyledus, mae’n rhaid iddynt:
● roi amser i chi ddiweddaru’ch cyfrif cyn y gallent weithredu ymhellach
● anfon cyfriflenni rheolaidd atoch a llythyrau ôl-ddyledion os ydych yn syrthio’n ôl.
Pryd i gael cyngor am ddyledion
Os ydych eisoes wedi methu taliadau ac nid ydych yn gallu dod i gytundeb â’ch darparwr cerdyn siop, y peth gorau yw cael cyngor cyn gynted ag y gallwch, yn enwedig os oes gennych ddyledion eraill yn ogystal.
Canfyddwch fwy ar
wefan StepChange am sut y cesglir dyledion ac mae gennych ôl-ddyledion.