Os gwnaethoch gymryd gwyliau rhag taliadau cyllid ceir yn sgil y coronafeirws ac mae bellach wedi dod i ben, mae’n syniad da i ddeall beth sy’n digwydd nesaf, yn enwedig os ydych wedi dioddef gostyngiad mawr mewn incwm.
Beth sy’n digwydd pan mae’ch gwyliau rhag talu drosodd?
Unwaith mae eich gwyliau drosodd, bydd eich taliadau cyllid ceir yn ailddechrau’n awtomatig. Bydd eich darparwr cyllid yn cysylltu â chi cyn diwedd eich gwyliau rhag talu i drafod eich opsiynau.
Bydd y taliadau wnaethoch fethu yn cael eu hychwanegu i’ch balans sydd weddill, felly gallwch weld cynnydd yn eich taliadau misol. Mae pa mor fawr yw’r cynnydd yn dibynnu ar faint sy’n weddill ar eich cytundeb cyllid. Po fwyaf sy’n weddill ar eich cytundeb cyllid, yr isaf fydd eich taliadau misol.
Bydd eich darparwr cyllid yn dweud wrthych faint yn eich cyfriflen gyntaf ar ôl i’ch gwyliau rhag talu yn dod i ben.
Os gallwch fforddio gwneud eich taliadau eto, nid oes rhaid i chi wneud dim gan y byddant yn ailddechrau’n awtomatig.
Os ydych yn mynd i barhau i gael anawsterau i wneud ad-daliadau ar ôl i’ch gwyliau rhag taliadau ddod i ben, mae’n bwysig eich bod yn cysylltu â’ch darparwr cyllid cyn gynted â phosibl. Bydd yr opsiynau sydd ar gael i chi yn dibynnu ar faint mae arnoch chi a pha fath o gytundeb cyllid sydd gennych.
Os ydych yn parhau i gael anawsterau ariannol oherwydd yr achos o goronafeirws, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais o hyd am wyliau talu o dan rai amodau penodol.
Os nad ydych eto wedi cymryd gwyliau talu ar eich taliadau cyllid car, gallwch wneud cais am wyliau talu am hyd at gyfanswm o chwe mis. Fodd bynnag, dylech barhau i wneud taliadau os gallwch fforddio gwneud.
Os ydych eisoes wedi cymryd gwyliau talu, gellir ymestyn hyn am hyd at uchafswm o chwe mis. Fodd bynnag, mae er eich budd chi i ddechrau eich ad-daliadau eto os gallwch fforddio gwneud.
Mae’r dyddiad cais i wneud cais am wyliau talu cyllid car wedi cael ei ymestyn hyd at 31 Mawrth 2021.
Os ydych eisoes wedi cymryd y wyliau talu llawn o chwe mis, ni fyddwch yn gallu gwneud cais am wyliau arall.
Pa opsiynau all eich darparwr eu hystyried?
Pryniant Contract Personol (PCP)
Os ydych yn pryderu efallai na fyddwch yn gallu talu eich cyllid ceir yn y dyfodol, neu bydd angen torri’ch costau yn fwy byth, efallai gallwch ddychwelyd y car a chanslo’ch contract.
Os ydych yn penderfynu dychwelyd y car, gadwch i’r cwmni cyllid wybod drwy lythyr neu e-bost – a chadwch gopi. Gwnewch hi’n glir eich bod yn dychwelyd y car ac yn dod â’ch contract i ben.
Os nad ydych yn gwneud hyn, efallai cewch eich gweld yn methu ar eich taliadau, a all effeithio ar eich ffeil gredyd.
Pan fyddwch yn dychwelyd eich car ac yn diweddu’ch cytundeb credyd yn gynnar, mae cyflwr y cerbyd yn bwysig. Mae traul a breuo cyffredinol yn dderbyniol. Ond byddwch yn gorfod talu ffi am adnewyddu pethau fel drychau ystlys wedi torri neu grafiadau mwy.
Gwiriwch gyda’ch gwerthwr ceir neu ddarparwr cyllid er mwyn canfod beth sy’n cael ei ddosbarthu fel traul a breuo teg.
Os oes niwed nad yw’n cyfrif fel traul a breuo, mae’n werth gwirio i weld a allwch gael trwsio’r car gan garej cyn ei ddychwelyd os mai hwnnw yw’r dewis rhataf.
Os yw cyfnod eich PCP yn dod i ben yn fuan, ond ni allwch fforddio’r taliad balŵn, dylech ofyn i’ch darparwr cyllid sut gallan nhw helpu.
Gallwch benderfynu ail-ariannu’r taliad balŵn gyda’ch darparwr cyllid cyfredol neu ddewis darparwr arall. Os yw gwerth eich car wedi disgyn o dan eich taliad olaf, mae’n bosibl nad hwn fydd eich ateb gorau.
Hurbrynu (H-B)
Gyda hurbrynu (H-B), gallwch ddewis i ddychwelyd y car yn fuan os ydych eisoes wedi talu am o leiaf hanner o’i gost gan gynnwys unrhyw gyllid. Os ydych eisoes wedi talu mwy na hanner cost y car, ni fyddwch yn derbyn ad-daliad o’r gwahaniaeth.
Os ydych yn penderfynu dychwelyd y car, dywedwch wrth y cwmni cyllid drwy lythyr neu e-bost a chadwch gopi. Gwnewch hi’n glir eich bod yn dychwelyd y car ac yn dod â’r cytundeb i ben. Pan fyddwch yn dod â chytundebau i ben yn fuan, mae cyflwr y cyflwr y cerbyd yn bwysig.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn e-bostio neu’n ysgrifennu at eich darparwr cyllid yn egluro eich bod yn ceisio am derfyniad gwirfoddol. Nid oes angen i chi arwyddo dogfennau neu lenwi pecynnau terfynu.
Efallai bydd eich cwmni cyllid eisiau rhoi cosb i chi, yn seiliedig ar filltiredd eich cerbyd.
Bydd hyn oherwydd eich bod wedi gwneud fwy o filltiroedd nac oedden nhw’n ei ddisgwyl.
Yn gyfreithiol, ni allant eich cosbi os ydych wedi cymryd gofal rhesymol o’r car.
Yn olaf, cadwch i fyny â’r taliadau cyn ceisio am derfyniad gwirfoddol nob tro. Os ydych wedi colli taliad, mae gan y cwmni cyllid mwy o hawliau, a bydd y taliadau a fethwyd yn effeithio ar eich ffeil gredyd.
Hurio Contract Personol (HCP)
Fel rheol, fydd hyn ar ddisgresiwn y cwmni cyllid hurio contract personol HCP). Gallent ofyn i chi i dalu’r cyfan neu ran o’r taliadau sy’n weddill os ydych yn dychwelyd y car yn fuan. Byddant yn ystyried pethau fel y rhan o gyfnod eich contract sydd ar ôl a’ch lwfans milltiroedd.
Dylai’r polisi canslo fod yn y contract a arwyddwyd gennych pan fu i chi gytuno’r trefniant HCP.
Y camau nesaf os ydych wedi methu taliad
Os ydych eisoes wedi methu taliadau ac nid ydych yn gallu dod i gytundeb â’ch benthyciwr, dylech gael cyngor ar ddyledion cyn gynted â phosibl, yn arbennig os oes gennych ddyledion eraill yn ogystal.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi hawlio popeth mae gennych hawl iddo
Gwnewch gyllideb brys
Os ydych yn poeni am lif arian, edrychwch ar beth rydych yn ei wario a pha incwm sydd gennych yn dod i mewn.
Edrychwch ar sut i gwtogi biliau’r tŷ, fel drwy newid darparwyr ar gyfer eich nwy, trydan neu gontractau ffôn symudol.
Mae gan ein hadran
Fy Arian awgrymiadau defnyddiol.
Pryd i gael cyngor ar ddyledion
Os ydych eisoes wedi methu taliadau ac nid ydych yn gallu dod i gytundeb â’ch benthyciwr, y peth gorau yw cael cyngor cyn gynted ag y gallwch, yn enwedig os oes gennych ddyledion eraill hefyd.
Canfyddwch fwy ar
wefan StepChange am sut y cesglir dyledion ac mae gennych ôl-ddyledion.