Os gwnaethoch gymryd gwyliau rhag talu yswiriant yn sgil y coronafeirws ac mae bellach wedi dod i ben, mae’n bwysig deall beth sy’n digwydd unwaith mae’r gwyliau rhag talu drosodd a pha opsiynau sydd ar gael i chi os ydych o hyd yn cael anawsterau i wneud taliadau.
Beth sy’n digwydd pan mae’ch gwyliau rhag talu drosodd
Unwaith mae eich gwyliau drosodd, bydd eich taliadau’n ailddechrau’n awtomatig. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n bwysig eich bod yn gwybod ar ba ddyddiad bydd y taliadau hyn yn ailddechrau.
Bydd unrhyw daliadau a fethwyd yn cael eu hychwanegu i’ch balans sy’n weddill sy’n golygu bydd eich taliadau misol yn uwch. Felly, mae’n bwysig eich bod yn cyllido ar gyfer hyn.
Os ydych yn mynd i barhau i gael anawsterau i wneud eich taliadau yswiriant ar ôl y gwyliau, mae’n bwysig eich bod yn cysylltu â’ch darparwr yswiriant cyn gynted â phosibl.
Os ydych yn dal i gael anawsterau ariannol oherwydd yr achos o goronafeirws, efallai y byddwch yn dal i allu gwneud cais am wyliau talu, a elwir hefyd yn ohirio taliad, o dan rai amodau.
Os ydych eisoes wedi cytuno ar wyliau talu o lai na chwe mis, gellir ymestyn hyn hyd at uchafswm o chwe mis.
Os ydych eisoes wedi cytuno ar wyliau talu o chwe mis, ni fyddwch yn gallu cael estyniad arall. Os ydych yn dal i gael trafferth talu ar ôl eich gwyliau talu, dylech gysylltu â’ch darparwr cyn gynted â phosibl. Bydd opsiynau yn dal ar gael hyd yn oed os na allwch gymryd gwyliau talu arall.
Mae’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FCA) yn dal i drafod y manylion gyda benthycwyr, felly ni ddylech gysylltu â’ch benthyciwr ar hyn o bryd. Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth.
Pa opsiynau gall eich darparwr eu hystyried
Eich symud i bolisi rhatach
Os yw anghenion eich yswiriant wedi newid, efallai gall eich yswiriwr eich symud i bolisi newydd.
Gall eich yswiriwr ddewis i hepgor ffioedd am newid polisi. Fodd bynnag, ni all cyfanswm cost eich polisi newydd, gan gynnwys llog a ffioedd, fod yn fwy na’ch polisi cyfredol.
Lledaenu taliadau dros gyfnod hirach
Drwy ymestyn y cyfnod o amser sydd gennych i dalu am eich polisi yswiriant, bydd eich taliadau misol yn cael eu lleihau.
Er enghraifft, os gwnaethoch gymryd gwyliau rhag talu o dri mis, efallai gall eich yswiriwr gynnig ymestyn eich cyfnod talu am dri mis. Byddai hyn yn cadw’ch ad-daliadau misol yr un fath ac o’r blaen, ond byddwch chi’n ei dalu i ffwrdd dros gyfnod hirach.
Ail-drefnu’r dyddiad talu
Os yw o fantais i chi, gall eich benthyciwr newid y dyddiad mae’ch taliad yn ddyledus. Er enghraifft, i yn syth ar ôl i chi gael eich talu.
Hepgor ffioedd am daliadau a fethwyd
Os ydych wedi methu taliad ar ôl eich gwyliau talu ddod i ben, efallai gall eich yswiriwr hepgor ffioedd am y taliadau a fethwyd.
Os yw’ch sefyllfa ariannol yn gwaethygu
Cysylltwch â’ch darparwr yswiriant cyn gynted â phosibl i drafod eich opsiynau
Gwnewch gyllideb brys
Os ydych yn poeni am lif arian, edrychwch ar beth rydych yn ei wario a pha incwm sydd gennych yn dod i mewn.
Edrychwch ar sut i gwtogi biliau’r tŷ, fel drwy newid darparwyr ar gyfer eich nwy, trydan neu gontractau ffôn symudol.
Mae gan ein hadran
Fy Arian awgrymiadau defnyddiol.
Y camau nesaf os ydych wedi methu taliad
Os ydych wedi methu taliad cysylltwch â’ch benthyciwr i egluro’r sefyllfa. Dylech osgoi cymryd allan mwy o gredyd oni bai eich bod yn gwybod y gallwch fforddio i’w dalu yn ei ôl.
Mae’r canllaw
StepChange hwn Dyled yswiriant: Beth i’w wneud os oes gennych ôl-daliadau yn egluro beth allwch ei wneud a’r goblygiadau o beidio â chadw i fyny â rhai mathau o yswiriant.
Pryd i gael cyngor ar ddyledion
Os ydych eisoes wedi methu taliadau ac nid ydych yn gallu dod i gytundeb â’ch benthyciwr, y peth gorau yw cael cyngor cyn gynted ag y gallwch, yn enwedig os oes gennych ddyledion eraill hefyd.
Canfyddwch fwy ar
wefan StepChange am sut y cesglir dyledion ac mae gennych ôl-ddyledion.