Mae’n syniad da i ddeall yr opsiynau sydd ar gael i chi pan ddaw y gwyliau talu (a elwir hefyd yn rhewi taliad) ar eich benthyciad i ben, yn enwedig os ydych chi wedi dioddef gostyngiad incwm difrifol.
Beth sy’n digwydd pan mae eich gwyliau talu wedi dod i ben?
Bydd eich benthyciwr yn cysylltu â chi os ydych yn dod i ddiwedd gwyliau talu (a elwir hefyd yn rhewi taliad) er mwyn trafod eich opsiynau.
Bydd er eich budd chi i drafod y camau nesaf gyda’ch benthyciwr. Os na fyddant yn clywed yn ôl gennych byddant yn ailddechrau eich ad-daliadau’n awtomatig.
O dan amgylchiadau arferol, bydd y taliadau a fethwyd yn ystod y gwyliau yn cael eu hychwanegu at eich gweddill sy’n sefyll, ynghyd â’r llog.
Mae hyn yn golygu y bydd eich ad-daliadau misol yn uwch nag o’r blaen. Mae faint yn uwch yn dibynnu ar ba mor hir sydd gennych chi ar ôlar gyfnod eich benthyciad.
Os ydych yn dal i gael anawsterau ariannol oherwydd yr achos o goronafeirws, efallai y byddwch yn dal i allu gwneud cais am wyliau talu, a elwir hefyd yn ohirio taliad, o dan rai amodau.
Pa ddewisiadau allai eich benthyciwr eu hystyried
Mae sawl dewis y gallai eich benthyciwr drafod â chi. Fodd bynnag, gallai rhai o’r rhain gael effaith ar eich adroddiad credyd, a chael effaith ar eich gallu i fenthyg arian yn y dyfodol.
Gwyliau talu
Os ydych yn parhau i gael anawsterau ariannol oherwydd yr achos o goronafeirws, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais o hyd am wyliau talu, a elwir hefyd yn ohirio taliad, o dan rai amodau penodol.
Os nad ydych eto wedi cymryd gwyliau talu ar eich taliadau benthyciad personol, gallwch wneud cais am wyliau talu am hyd at gyfanswm o chwe mis. Fodd bynnag, dylech barhau i wneud taliadau os gallwch fforddio gwneud.
Os ydych eisoes wedi cymryd gwyliau talu, gellir ymestyn hyn am hyd at uchafswm o chwe mis. Fodd bynnag, mae er eich budd chi i ddechrau eich ad-daliadau eto os gallwch fforddio gwneud.
Mae’r dyddiad cais i wneud cais am wyliau talu wedi cael ei ymestyn hyd at 31 Mawrth 2021.
Os ydych eisoes wedi cymryd y wyliau talu llawn o chwe mis, ni fyddwch yn gallu gwneud cais am wyliau arall.
Cynyddu cyfnod eich benthyciad
Bydd cynyddu faint o amser sydd gennych chi i ad-dalu’r benthyciad yn cadw eich ad-daliad ar yr un lefel ag yr oedd o’r blaen, neu o leiaf yn lleihau’r cynnydd i’ch ad-daliadau.
Er enghraifft, os cymeroch chi wyliau talu tri mis, gallai eich benthyciwr gytuno i ychwanegu tri mis at ddiwedd cyfnod eich morgais.
Fodd bynnag, gallech chi gael eich hun yn talu rhagor yn ôl nac y byddech chi’n wreiddiol oherwydd y taliadau llog ychwanegol.
Mae’n bwysig i gofio gwneud cyllideb ar gyfer gwneud y taliadau hyn am gyfnod hirach o amser.
Diddymu ffïoedd ar gyfer taliadau a fethwyd
Os ydych chi’n dal i gael anhawster i wneud ad-daliadau, gallai eich benthyciwr gytuno i ddiddymu ffïoedd a thaliadau y byddech chi fel arfer yn eu talu am daliadau hwyr neu a fethwyd. Dylech chi drafod hyn â’ch benthyciwr.
Ffurfio cynllun talu realistig
Os yw eich cyllid wedi cael ei effeithio’n wael gan gychwyn y coronafeirws, gallai eich benthyciwr roi cynllun ad-dalu gwahanol at ei gilydd.
Gallai hyn gynnwys cyfuniad o ostwng eich ad-daliadau misol ac ymestyn cyfnod eich benthyciad i wneud y cwbl yn fwy rheoladwy.
Mae’n ofynnol i fenthycwyr weithio gyda chi i ffurfio cynllun ad-dalu yn seiliedig ar eich amgylchiadau.
Mae angen cymorth arnaf i esbonio fy sefyllfa i fy menthyciwr
Os oes angen cymorth arnoch chi gyda beth i’w ddweud gallwch chi ddefnyddio llythyr templed.
Mae gan National Debtline
ystod o lythyrau, gan gynnwys gofyn am ddatganiad sy’n dangos beth sydd gennych chi ar ôl i’w dalu ar eich benthyciad a gofyn i unrhyw gredydwyr ddal yn ôl rhag gweithredu tra’ch bod yn cael cyngor.
Pa warchodaeth gyfreithiol sydd gennyf i?
Mae’r Ddeddf Credyd Defnyddwyr yn rhoi hawliau i chi tra’n delio â chredydwyr fel darparwyr benthyciadau. Os ydych chi’n syrthio i ôl-ddyled, mae’n rhaid iddynt:
- roi amser i chi ddod â’ch cyfrif yn gyfredol cyn iddynt weithredu ymhellach
- anfon datganiadau rheolaidd atoch chi a llythyrau ôl-ddyled os ydych chi’n syrthio ar ei hôl hi
Os cawsoch chi ohiriad talu, neu ddatrysiad gwahanol a farnwyd yn anaddas i chi yn ddiweddarach, dylai unrhyw log a gasglwyd yn ystod y cyfnod perthnasol hwn gael ei ddiddymu.
Os ydych chi’n gwneud cwyn i’ch benthyciwr ac nad ydych chi’n hapus gyda’r ymateb, mae gennych chi’r hawl i gwyno i’r
Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol.
Effaith cefnogaeth bellach ar eich ffeil gredyd
Os yw’ch benthyciwr yn cynnig cefnogaeth bellach i chi ar ôl i’ch gwyliau talu ddod i ben, bydd hyn yn cael ei gofnodi ar eich ffeil gredyd. Gallai hyn olygu y gallai fod yn anoddach i chi fenthyg arian yn y dyfodol.
Sicrhewch eich bod wedi hawlio popeth y mae gennych chi hawl iddo
Gwnewch gyllideb brys
Os ydych chi’n bryderus am lif arian, edrychwch ar beth rydych chi’n gwario a pha incwm sydd gennych chi yn dod i mewn.
Edrychwch ar sut i dorri biliau eich cartref, fel newid darparwyr ar gyfer contractau nwy, trydan neu ffôn symudol.
Mae gan ein hadran
Fy Arian gynghorion defnyddiol.
Camau nesaf os ydych chi wedi methu taliad
Os ydych chi wedi methu taliad benthyciad personol, cysylltwch â’ch benthyciwr i esbonio eich sefyllfa. Ceisiwch osgoi cymryd rhagor o gredyd oni bai eich bod yn gwybod y gallwch chi fforddio i’w dalu yn ôl.
Mae’r canllawiau hyn yn gallu eich helpu chi i siarad â’ch benthyciwr.
Beth i’w wneud os nad ydych chi’n gallu fforddio bil eich benthyciad personol ar
wefan StepChange.
Pryd i gael cyngor am ddyled
Os ydych chi wedi methu taliadau eisoes ac nad ydych chi’n gallu dod i gytundeb â’ch benthyciwr, mae’n well i chi gael cyngor cyn gynted ag y gallwch chi, yn enwedig os oes gennych chi ddyledion eraill hefyd.
Dysgwch ragor ar
wefan StepChange am sut mae dyledion yn cael eu casglu pan rydych chi mewn ôl-ddyled}.