Beth i’w wneud pan mae eich gwyliau talu gwystlwr coronafeirws wedi dod i ben

Os cymeroch chi wyliau talu gwystlwr oherwydd y coronafeirws a’i fod wedi dod i ben yn awr, mae’n syniad da i ddeall y dewisiadau sydd ar gael i chi, yn enwedig os ydych chi wedi dioddef gostyngiad mewn incwm.

Beth yw cytundeb gwystlwr?

Gallwch chi ddefnyddio gwystlwr mewn un o ddwy brif ffordd. Naill ai eich bod yn gadael eitem o werth gyda’r gwystlwr fel sicrwydd ar gyfer benthyciad, neu gallwch chi werthu’r eitem ar unwaith am rywfaint o arian cyflym. Mae’r canllaw hwn yn cwmpasu benthyciadau gwystlwyr.

Gallwch chi wystlo unrhyw beth o werth y gellir ei ailwerthu, ond gemwaith sydd yn fwyaf cyffredin. Bydd y gwystlwr yn rhoi gwerth ar eich eitem i gyfrifo faint o arian y gall fenthyg i chi. Fel arfer, bydd y llog a dalwch chi yn uwch o lawer na benthyciad personol gan fanc ar y stryd fawr.

Oherwydd eich bod chi’n gadael eitem o werth gyda’r gwystlwr fel sicrwydd, mae risg y gallech chi ei cholli os nad dydych chi’n gallu ad-dalu’r benthyciad. Mae’n werth meddwl am hyn cyn gadael unrhyw eitemau sydd â gwerth sentimental.

Dysgwch ragor am sut mae cytundebau gwystlwyr yn gweithio yn ein canllaw.

Beth oedd gwyliau talu gwystlwr?

Byddai’r canlynol wedi digwydd yn ystod y gwyliau talu:

  • byddai llog yn parhau i fod wedi cael ei godi a gallech chi fod wedi cytuno i wneud rhan-daliadau bach
  • cafodd y cyfnod ad-dalu ar gyfer unrhyw eitemau a wystlwyd ei ymestyn o hyd at 3 mis
  • os yw eich cyfnod ad-dalu wedi dod i ben yn barod, ni ddylai’r gwystlwr roi rhybudd o fwriad y byddai’n gwerthu’r eitem(au) yn ystod y cyfnod hwn
  • lle roedd y gwystlwr wedi rhoi rhybudd i werthu i chi eisoes, dylent ohirio’r gwerthiant am 3 mis
  • ni fu’n rhaid i chi dalu unrhyw gostau ychwanegol os yw pellhau cymdeithasol, ynysu neu fesurau cysgodi wedi atal taliadau rhag cael eu gwneud neu eitemau yn cael eu casglu neu eu hadfeddiannu.
  • Ni fydd cymryd y gwyliau talu wedi cael effaith ar eich adroddiad credyd, ond bydd methu taliadau yn y dyfodol yn cael effaith. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol nad eich adroddiad credyd yw’r unig beth y bydd benthycwyr y dyfodol yn ei ddefnyddio i benderfynu a ddylid rhoi benthyg i chi ai peidio.
Edrychwch ar ein canllaw i ddeall eich graddfa gredyd am ragor.

Os na wnaethoch chi ofyn i’r gwystlwr am wyliau talu, bydd disgwyl i’ch cytundeb fod wedi parhau fel arfer.

Os cymeroch chi wyliau talu gwystlwr oherwydd coronafeirws bydd yn debygol o fod wedi dod i ben yn awr neu ar fin dod i ben.

Beth sy’n digwydd pan mae eich gwyliau talu gwystlwr wedi dod i ben?

Bydd ad-daliadau yn ailddechrau’n awtomatig ar ôl i’ch gwyliau talu ddod i ben.

Bydd y taliadau a fethoch chi yn cael eu hychwanegu at eich gweddill ar gyfer naill ai adnewyddiad neu ad-daliad. Mae hyn yn golygu y gall eich taliadau misol gynyddu pan ddaw eich gwyliau talu i ben i dalu am y taliadau a fethwyd, neu bydd cyfnod eich cytundeb yn cael ei ymestyn.

Os ydych yn dal i gael trafferthion ariannol o effaith coronafeirws, gallwch hefyd ofyn am estyniad gwyliau talu o hyd at dri mis.

Yn ystod y cyfnod gwyliau hwn, bydd eich taliadau naill ai’n cael eu oedi neu eu lleihau.

Pan fydd eich benthyciad o fewn y cyfnod adbrynu gellir ymestyn hyn am dri mis arall. Pan fydd y cyfnod adbrynu eisoes wedi dod i ben, ni ddylai eich gwystlwr werthu eich eitem yn ystod y gwyliau talu cytunedig estynedig.

Os yw’ch gwystlwr eisoes wedi cyhoeddi rhybudd i werthu’ch eitem, dylai atal hyn am dri mis.

Mae Ein Cynlluniwr Cyllideb yn eich helpu chi i weld os yw’n bosibl i dorri ar gostau a rhyddhau rhywfaint o arian ychwanegol.

Os ydych yn parhau i gael anawsterau ariannol oherwydd yr achos o goronafeirws, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais o hyd am wyliau talu, a elwir hefyd yn ohirio taliad, o dan rai amodau penodol.

Os nad ydych eto wedi cymryd gwyliau talu ar eich cytundeb Gwystlwyr, gallwch wneud cais am wyliau talu am hyd at gyfanswm o chwe mis. Fodd bynnag, dylech barhau i wneud taliadau os gallwch fforddio gwneud.

Os ydych eisoes wedi cymryd gwyliau talu, gellir ymestyn hyn am hyd at uchafswm o chwe mis. Fodd bynnag, mae er eich budd chi i ddechrau eich ad-daliadau eto os gallwch fforddio gwneud.

Mae’r dyddiad cais i wneud cais am wyliau talu wedi cael ei ymestyn hyd at 31 Mawrth 2021.

Os ydych eisoes wedi cymryd y wyliau talu llawn o chwe mis, ni fyddwch yn gallu gwneud cais am wyliau arall.

Camau nesaf os yw eich incwm wedi gostwng neu eich bod yn bryderus ynglŷn â gwneud ad-daliadau

Bydd cychwyn y coronafeirws yn cael effaith ar gyllid llawer o bobl, yn enwedig y rheiny sydd wedi cael eu diswyddo, eu gosod ar ffyrlo neu sydd wedi colli incwm hunangyflogaeth.

Os yw eich incwm wedi gostwng neu eich bod chi’n bryderus ynglŷn â gwneud ad-daliadau, dylech chi drafod eich sefyllfa â’ch gwystlwr cyn gynted ag y gallwch chi a chyn i’ch taliad nesaf ddod yn ddyledus. Byddant yn fwy bodlon ac abl i helpu os ydych chi’n rhagweithiol ac yn esbonio’ch sefyllfa.

Sicrhewch eich bod chi wedi hawlio popeth y mae gennych chi hawl iddo

Gwiriwch yr hyb cymorth Coronafeirws i sicrhau eich bod yn cael popeth y mae gennych chi hawl iddo.

Gwnewch gyllideb argyfwng

Os ydych chi’n bryderus am lif arian, edrychwch ar beth rydych chi’n ei wario a pha incwm sy’n dod i mewn gennych chi.

Bydd ein Cynlluniwr cyllideb yn eich helpu chi i wneud hyn

Edrychwch ar sut i dorri biliau eich cartref, fel newid darparwyr ar gyfer eich contractau nwy, trydan neu ffôn symudol.

Mae gan ein hadran Fy Arian gynghorion defnyddiol.

Dysgwch sut i arbed arian a chynyddu incwm i’ch helpu chi i ddal i fyny â’ch taliadau ar wefan StepChange.

Pa un yw’r ffordd orau i gysylltu â fy ngwystlwr?

Caeodd lawer o wystlwyr eu siopau, ond dylent fod wedi egluro sut y gallech chi gysylltu. Mae llinellau ffôn yn brysur iawn ar hyn o bryd. Os nad ydych chi’n gallu cael ateb, rhowch gynnig ar anfon e-bost atynt neu ddefnyddio ffurflenni cyswllt ar-lein i roi eich ymholiad yn ysgrifenedig. Gallai hyn ddarparu tystiolaeth ddefnyddiol yn ddiweddarach os yw problem yn gwaethygu.

Beth ddylwn i ddweud wrth fy ngwystlwr?

Gallech chi deimlo’n nerfus neu’n chwithig ynglŷn â gofyn am gymorth, yn enwedig os na fu’n rhaid i chi erioed o’r blaen. Ond mae llawer o bobl yn yr un sefyllfa, ac mae cwmnïau yn disgwyl galwadau gan gwsmeriaid sydd wedi gweld eu hincwm yn dioddef ergyd.

Gyntaf oll y cewch chi gymorth, gyntaf oll y dewch chi yn ôl i drefn.

Meddyliwch am y sgwrs fel un barhaus, yn hytrach nag un unigol, hyd y daw eich cyllid yn ôl i drefn.

Beth mae fy ngwystlwr yn gallu gwneud i helpu?

Fel arfer, os ydych chi’n benthyg hyd at £75 ac nad ydych chi’n gallu ad-dalu’r benthyciad o fewn 6 mis, mae perchnogaeth yr eitem yn trosglwyddo’n awtomatig i’r gwystlwr. Gallant wedyn ei gwerthu a defnyddio’r arian i dalu am eich dyled. Os yw’r benthyciad am dros £100 mae’n rhaid i’r gwystlwr ddweud wrtthych chi ymlaen llaw eu bod yn mynd i’w gwerthu.

Os nad ydych chi’n gallu ad-dalu’r benthyciad erbyn y terfyn amser ac nad ydych chi’n dymuno i’ch eitem gael ei gwerthu, gofynnwch i’r gwystlwr a allent ymestyn y terfyn amser.

Mae rhai gwystlwyr yn gallu cynnig dewis adnewyddu. Mae hyn yn golygu y rhoddir estyniad am gyfnod o amser cytunedig, ond byddwch chi’n parhau i dalu’r llog ar y benthyciad a bydd angen i’ch eitem gael ei hailwystlo.

Dylai unrhyw wyliau blaenorol a gynigiwyd oherwydd coronafeirws ac a gafodd eu barnu’n ddiweddarach i fod yn anaddas gael diddymu unrhyw log a godir yn ystod y cyfnod hwn.

Beth sy’n digwydd os nad ydw i’n cysylltu â fy ngwystlwr?

Os nad ydych chi’n cysylltu â hwy, bydd gwystlwyr fel arfer yn dilyn y broses hon:

  1. gallent ofyn i chi’n gyntaf i gysylltu trwy ysgrifennu atoch chi neu roi galwad
  2. byddant wedyn fel arfer yn dosbarthu ‘rhybudd diffygdalu’ ysgrifenedig i chi. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi drefnu sut i ddal i fyny â’ch taliadau a fethwyd
  3. os nad ydych chi’n delio â’r ddyled, bydd y ddyled yn ‘diffygdalu’. Bydd hyn fel arfer ar ôl methu dau neu dri thaliad
  4. cyn gynted â bod y benthyciad wedi ‘diffygdalu’, gallai rhagor o log a chostau gael eu hychwanegu – gan gynyddu’r hyn sy’n ddyledus gennych chi
  5. os ydych chi’n parhau heb ymateb iddynt, gallai eich benthyciwr fynd i lys i geisio dyfarniad Llys Sirol (CCJ) (fe’i gelwir yn archddyfarniad yn yr Alban). Mae CCJ yn rhoi rhagor o ddewisiadau i’ch benthyciwr i orfodi ad-daliad y ddyled. Cofiwch y gall y mesurau hyn gael effaith ddifrifol ar eich gallu i gael credyd gan fenthycwyr eraill yn y dyfodol
  6. gallai’r ddyled gael ei throsglwyddo yn y pen draw i asiantaeth casglu dyled (hefyd yn cael eu hadnabod fel beilïaid neu swyddogion siryf).

Camau nesaf os ydw i wedi methu taliad

Os ydych chi wedi methu taliad, cysylltwch â’ch benthyciwr i esbonio’ch sefyllfa. Dylech chi osgoi cymryd rhagor o gredyd oni bai eich bod yn gwybod y gallwch chi ei ad-dalu.

Edrychwch ar ein Gwystlwyr – canllaw sut maen nhw’n gweithio ar beth i’w wneud.

Pryd i gael cyngor treth

Os ydych chi wedi methu taliadau yn barod ac nad ydych chi’n gallu dod i gytundeb â’ch benthyciwr, mae’n well i chi gael cyngor cyn gynted ag y gallwch chi, yn enwedig os oes gennych chi ddyledion eraill hefyd.

Edrychwch ar ein canllaw ar sut i flaenoriaethu eich dyledion i’ch helpu chi i adnabod pa rai i’w talu gyntaf.
  • Dysgwch ragor ar wefan StepChange am sut mae dyledion yn cael eu casglu pan rydych chi mewn ôl-ddyled.
  • Mae gan Gyngor ar Bopethopens in new window ragor o wybodaeth am sut i wneud cynllun i dalu’ch dyledion.
Canfyddwch gyngor dyled cyfrinachol am ddim ar-lein, dros y ffôn neu’n agos at lle rydych chi’n byw gan ddefnyddio ein teclyn lleoli cyngor dyled.

A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?