Beth yw blwydd-dal?
Blwydd-dal yw math o gynnyrch incwm ymddeol a brynwch gyda pheth neu’r cyfan o’ch cronfa bensiwn. Mae’n talu incwm ymddeol rheolaidd un ai am oes neu am gyfnod penodol.
Blwydd-daliadau - y ffeithiau sylfaenol
Cynnyrch incwm ymddeol a werthir gan gwmnïau yswiriant yw blwydd-daliadau. Maent yn cynnwys:
- blwydd-daliadau oes – sy’n talu incwm i chi am oes, ac a fydd yn talu incwm i fuddiolwr a enwebir am oes wedi i chi farw os dewiswch yr opsiwn hwn; maent yn cynnwys y blwydd-daliadau gydol oes sylfaenol a blwydd-daliadau cysylltiedig â buddsoddi
- blwydd-daliadau cyfnod sefydlog – sy’n talu incwm am gyfnod penodol, sef pum neu ddeng mlynedd fel arfer, ac yna ‘swm aeddfedu’ ar ddiwedd y cyfnod i’w ddefnyddio os y mynnwch i brynu cynnyrch incwm ymddeol arall neu ei gymryd fel arian
Pan ddefnyddiwch arian o’ch cronfa bensiwn i brynu blwydd-dal gallwch gymryd hyd at chwarter (25%) o’r swm fel arian di-dreth. Yna fe ddefnyddiwch y gweddill i brynu blwydd-dal a bydd yr incwm a gewch yn cael ei drethu fel incwm arferol.
Bydd faint o incwm ymddeol a gewch o flwydd-dal – ac am ba hyd – yn dibynnu ar:
- eich oed pan brynwch flwydd-dal
- beth yw maint eich cronfa bensiwn
- eich iechyd a’ch ffordd o fyw
- cyfraddau blwydd-dal ar yr adeg pan brynwch
- pa fath o flwydd-dal, opsiynau incwm a pha nodweddion a ddewiswch
- ymhle y disgwyliwch fyw wedi i chi ymddeol
Unwaith y byddwch wedi prynu blwydd-dal ni allwch newid eich meddwl, felly mae’n bwysig cael cymorth a chyngor cyn dewis un.
I ddysgu rhagor am y gwahanol fathau o flwydd-daliadau – a’r gwahanol opsiynau a’r nodweddion allwch chi eu dewis wrth eu prynu – darllenwch ein canllawiau isod. Cewch wybod hefyd o ble y gallwch gael cymorth a chyngor a sut i geisio’r fargen orau am flwydd-dal.
Incwm uwch ar gyfer cyflyrau meddygol neu ffordd o fyw afiach
Mae’n bosibl y byddwch chi’n gallu derbyn incwm misol uwch os oes gennych chi gyflwr meddygol, dros bwysau neu os ydych chi’n ysmygu drwy ddewis blwydd-dal ‘gwell’ neu ‘fywyd a effeithir’. Nid yw pob darparwr yn cynnig y rhain felly cofiwch chwilio am y fargen orau os credwch y gallech chi elwa o gael un.
Dysgwch ragor am flwydd-daliadau gwell neu fywyd a effeithir yn ein canllaw Incwm uwch i bobl mewn iechyd gwael.
Eich dewisiadau incwm ymddeol eraill
Blwydd-dal yw un ymysg amryw o opsiynau sydd gennych chi ar gyfer defnyddio’ch cronfa bensiwn i ddarparu incwm ymddeoliad. I gael trosolwg o’ch holl opsiynau ac i gael gwybod lle i gael cymorth a chyngor, darllenwch ein canllaw Opsiynau ar gyfer defnyddio’ch cronfa bensiwn.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?