Mae cronfeydd buddsoddi cyfun – a elwir hefyd yn gynlluniau buddsoddi cyfun yn ffordd o roi symiau o arian gan lawer o bobl i mewn i gronfa fawr a ledaenir ar draws sawl buddsoddiad ac a reolir gan weithwyr proffesiynol. Gall buddsoddi yn y ffordd hon fod yn haws a pheri llai o risg na phrynu cyfranddaliadau mewn cwmnïau unigol yn uniongyrchol, ac mae llawer o gronfeydd i ddewis ohonynt. Dysgwch sut mae buddsoddiadau’n gweithio, y risgiau, a sut i fuddsoddi.
Sut mae cronfeydd buddsoddi cyfun yn gweithio
?
Mae rheolwyr cronfeydd yn arbenigwyr sy’n gweithio’n galed ar eich rhan – maent yn dewis ac yn monitro’r buddsoddiadau yn eich cronfa, yn prynu a gwerthu, ac yn casglu eich difidendau.
Yn achos cronfa fuddsoddi, mae llawer o bobl yn cyfuno eu harian gyda’i gilydd ac mae rheolwr cronfa proffesiynol yn ei fuddsoddi mewn asedau fel cyfranddaliadau, bondiau, eiddo, arian parod, neu gyfuniad ohonynt.
Mae ystod eang o gronfeydd sy’n buddsoddi mewn pethau gwahanol, gyda strategaethau gwahanol – incwm uchel, twf cyfalaf, incwm a thwf ac ati.
Mathau poblogaidd o gronfa fuddsoddi gyfun
Pam buddsoddi mewn cronfa?
Mae sawl rheswm dros fuddsoddi drwy gronfa, yn hytrach na phrynu asedau ar eich pen eich hun.
-
Lledaenu’r risg – hyd yn oed oes mai swm bach sydd gennych i’w fuddsoddi, gallwch fod yn buddsoddi mewn sawl math gwahanol o asedau – hynny yw, yn ‘arallgyfeirio’. Os bydd buddsoddiadau un o’r cronfeydd yn perfformio’n wael efallai na fydd yn gwneud cymaint o niwed, gan fod gan y gronfa lawer o fuddsoddiadau eraill i wneud iawn am y perfformiad gwael hwnnw. Darllenwch ein canllaw ar Arallgyfeirio – y ffordd ddoeth o gynilo a buddsoddi.
-
Llai o gostau trafod – drwy gyfuno eich arian, efallai y byddwch yn gwneud arbedion gan eich bod yn rhannu’r costau.
-
Llai o waith i chi – mae’r cwmni sy’n rheoli’r gronfa yn delio â’r gwaith o brynu, gwerthu a chasglu difidendau ac incwm ar eich rhan. Ond wrth gwrs, mae llawer o daliadau am hyn.
-
Rheolwyr cronfeydd proffesiynol – rheolwyr cronfeydd sy’n penderfynu pryd i brynu a gwerthu asedau.
Dulliau gweithredol neu oddefol o reoli cronfeydd
Rheoli gweithredol
Caiff y rhan fwyaf o gronfeydd buddsoddi eu rheoli’n weithredol.
Telir rheolwr y gronfa i ymchwilio i’r farchnad, fel y gall brynu’r asedau a fydd yn rhoi elw da yn ei farn ef.
Yn dibynnu ar nodau’r gronfa, bydd rheolwr y gronfa yn ceisio sicrhau twf gwell na’r arfer ar gyfer eich buddsoddiad (rhagori ar y farchnad) neu gael adenillion mwy cyson nag y gellid eu cael drwy dracio’r marchnadoedd yn unig.
Mae rheolwyr weithiau’n perfformio’n dda, ac weithiau’n perfformio’n wael. Prin iawn yw’r rheolwyr hynny sy’n rhagori ar y farchnad. Hyd yn oed os gwnaeth cronfa yn dda yn y gorffennol, nid oes sicrwydd y bydd yn gwneud hynny yn y dyfodol.
Rheoli gweithredol
Caiff y rhan fwyaf o gronfeydd buddsoddi eu rheoli’n weithredol.
Telir rheolwr y gronfa i ymchwilio i’r farchnad, fel y gall brynu’r asedau a fydd yn rhoi elw da yn ei farn ef.
Yn dibynnu ar nodau’r gronfa, bydd rheolwr y gronfa yn ceisio sicrhau twf gwell na’r arfer ar gyfer eich buddsoddiad (rhagori ar y farchnad) neu gael adenillion mwy cyson nag y gellid eu cael drwy dracio’r marchnadoedd yn unig.
Mae rheolwyr weithiau’n perfformio’n dda, ac weithiau’n perfformio’n wael – ond prin iawn yw’r rheolwyr hynny sydd yn rhagori ar y farchnad neu hyd yn oed yn gwneud cystal â hi. Hyd yn oed os gwnaeth cronfa yn dda yn y gorffennol, nid oes sicrwydd y bydd yn gwneud hynny yn y dyfodol.
Rheoli goddefol – cronfeydd tracio
Dros y tymor hwy, prin iawn yw’r cronfeydd a reolir yn weithredol sy’n rhagori ar y farchnad neu hyd yn oed yn gwneud cystal â hi – felly efallai y byddai’n well gennych dracio’r farchnad – os bydd y mynegai yn cynyddu, felly hefyd y bydd gwerth eich cronfa, ond bydd yn disgyn hefyd yn unol â’r mynegai.
Mae ‘traciwr mynegai marchnad’ yn olrhain perfformiad yr holl gyfranddaliadau mewn marchnad benodol. Yn y DU, y mynegai marchnad mwyaf cyffredin yw’r FTSE 100, sef grŵp o’r 100 o gwmnïau mwyaf yn seiliedig ar werth cyfranddaliadau. Os bydd cronfa’n prynu cyfranddaliadau ym mhob un o’r 100 o gwmnïau, yn yr un cyfrannau â’u gwerth ar y farchnad, bydd ei gwerth yn cynyddu neu’n gostwng yn unol â’r newid yng ngwerth y FTSE 100.
Gelwir cronfeydd sy’n olrhain mynegai yn gronfeydd tracio.
Nid oes angen i gronfeydd tracio gael eu rheoli mor weithredol. Byddwch yn dal i dalu rhywfaint o ffioedd, ond nid cymaint ag y byddech gyda chronfa a reolir yn weithredol.
Oherwydd y ffioedd, nid yw eich adenillion gwirioneddol cystal â’r twf gwirioneddol yn y farchnad – ond dylent fod yn agos.
Byddwch yn ofalus! Nid yw rhai cronfeydd a gaiff eu marchnata fel rhai tracio yn prynu’r cyfranddaliadau yn y cwmnïau yn y mynegai maent yn eu tracio mewn gwirionedd. Maent yn gyfuniad o fuddsoddiadau a deilliadau eraill a gynlluniwyd i efelychu’r farchnad. Mae’r ‘tracwyr synthetig’ hyn yn peri mwy o risg - dylech sicrhau eich bod yn eu deall cyn buddsoddi.
Ffioedd rheoli cronfeydd
Ni allwch fuddsoddi mewn cronfeydd am ddim. Mae llawer o gostau i’w hystyried, fel ffioedd rheoli blynyddol a ffioedd trafod pan gaiff cyfranddaliadau o fewn y gronfa eu prynu a’u gwerthu.
Er y gallech fod yn barod i dalu rhywun i wneud popeth ar eich rhan, mae ffioedd yn llyncu eich adenillion. Felly mae’n bwysig cadarnhau ffioedd llawn pob cronfa, a dewis y rhai sy’n cynnig y nodweddion rydych yn chwilio amdanynt am y pris gorau.
- Gofynnwch gwestiynau – gall y costau gwirioneddol fod yn fwy na’r taliadau cyhoeddedig.
- Os ydych yn buddsoddi drwy ISA stociau a chyfranddaliadau banc neu gymdeithas adeiladau, gofynnwch am ddadansoddiad llawn o’r ffioedd a godir gan y banc a ffioedd y gronfa ei hun.
Darllenwch ein canllaw isod i ddeall mwy am sut y gall ffioedd erydu adenillion eich buddsoddiad.
Mesur risg
Mae gan gronfeydd gwahanol lefelau gwahanol o risg. Mae rhai ohonynt yn peri risg gymharol fach – er enghraifft efallai y byddant yn buddsoddi mewn arian parod yn bennaf. Mae cronfeydd eraill yn peri risg fawr, ac yn buddsoddi mewn cwmnïau neu farchnadoedd ansicr gyda’r gobaith o sicrhau mwy o dwf neu dwf yn gynt. Maent yn mynd o un eithaf i’r llall. Cyn i chi ddewis unrhyw gronfa, sicrhewch ei bod yn cynnig y lefel gywir o risg i chi.
O dan reolau’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol dim ond os ydynt yn deall y canlynol y dylai cynghorwyr ariannol wneud argymhellion:
- eich amcanion o ran buddsoddi, gan gynnwys faint o risg rydych yn barod i’w chymryd, (h.y. pa mor barod ydych chi i fentro)
- eich sefyllfa ariannol (e.e. faint o arian y gallwch fforddio ei golli)
- eich gwybodaeth a’ch profiad o’r hyn rydych yn buddsoddi ynddo
P’un a ydych yn prynu drwy gynghorydd neu’n gwneud y cyfan drosoch chi eich hun, dylech bob amser ystyried pa mor barod ydych chi i fentro, eich sefyllfa ariannol, eich nodau o ran buddsoddi, a’ch gwybodaeth am y gronfa. A gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio proffil risg y gronfa sy’n addas i chi.
Gwybodaeth y dylech ei chael
Bydd llawer o gronfeydd yn darparu ‘ffeithiau allweddol’ neu ‘wybodaeth allweddol i fuddsoddwyr’, yn cwmpasu pwyntiau fel:
- sut mae’r gronfa’n gweithio
- y strategaeth fuddsoddi (er enghraifft a yw’n weithredol neu’n oddefol – ac os yw’n weithredol, pa fath o bethau y bydd rheolwr y gronfa yn buddsoddi ynddynt)
- y proffil risg
- y prif daliadau (ffioedd)
- y trefniadau ar gyfer delio â chwynion ac a fydd gennych chi’r hawl i ddefnyddio Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol
- a allech gael iawndal drwy Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol
- p’un a oes gennych yr hawl i ganslo ai peidio, am ba hyd, a sut i’w wneud
Ffyrdd o fuddsoddi mewn cronfeydd
Gallwch fuddsoddi mewn cronfeydd yn uniongyrchol, neu eu prynu fel rhan o gynnyrch buddsoddi fel ISA stociau a chyfranddaliadau, polisi gwaddol neu bensiwn. Os byddwch yn prynu’n uniongyrchol, gellir rhoi eich cronfeydd mewn pecyn treth effeithlon fel pecyn ISA.
Dylech gadarnhau’r canlynol bob amser:
- lefel lawn y ffioedd
- eich bod yn fodlon â’r proffil risg
- bod y cwmni buddsoddi wedi’i awdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol
- bod y gronfa yn cyflawni eich amcanion buddsoddi
Er mwyn dysgu mwy ynghylch ble y gallwch brynu cronfeydd, darllenwch yr erthygl isod.
Cael cyngor ariannol
Os nad ydych yn deall cynnyrch buddsoddi, ceisiwch gyngor ariannol annibynnol cyn i chi brynu.