Dysgwch fwy am sut mae Cynllun Rheoli Dyledion yn gweithio ac ar gyfer pa ddyledion allwch chi ei ddefnyddio. Yna siaradwch gyda chynghorydd dyledion am p’un ai dyma’r ffordd orau i glirio eich dyledion.
Sut mae Cynllun Rheoli Dyledion yn gweithio
Mae Cynllun Rheoli Dyledion (DMP) yn eich caniatáu i dalu eich dyledion ar gyfradd y gallwch fforddio.
Mae’n addas os oes gennych ddyledion nad ydynt yn flaenoriaeth fel cardiau credyd neu siop, gorddrafftiau a benthyciadau personol.
Bydd eich darparwr DMP yn helpu cyfrifo taliad fforddiadwy i chi ac yn siarad gyda’ch credydwyr.
Byddwch yn gwneud un taliad misol i’r darparwr DMP, sydd yn ei dro yn talu credydwyr ar eich rhan.
Pa ddyledion allaf i eu talu gyda Chynllun Rheoli Dyledion?
Ar gyfer dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth yn unig allwch chi ddefnyddio Cynllun Rheoli Dyledion. Mae’r rhain yn cynnwys:
- dyledion cerdyn credyd, cerdyn siop neu fenthyciadau diwrnod cyflog
- dyledion catalog, credyd cartref neu gredyd mewn siop
- gorddrafftiau
- benthyciadau banc neu gymdeithas adeiladu
- benthyciadau personol
- arian wedi’i fenthyca gan ffrindiau neu deulu
Pa ddyledion na allaf i eu talu gyda Chynllun Rheoli Dyledion?
?
Ymunwch â’n grŵp
Rydym wedi sefydlu grŵp Facebook preifat Cymuned Cymorth Dyled i helpu i roi syniadau newydd i chi fynd i’r afael â dyledion a’ch cadw’n frwdfrydig. Cais i ymuno yma.
Ni allwch ddefnyddio Cynllun Rheoli Dyledion i dalu dyledion blaenoriaeth. Mae’r rhain yn cynnwys:
- morgais, rhent ac unrhyw fenthyciadau a sicrhawyd yn erbyn eich cartref
- Treth Incwm, Yswiriant Gwladol a TAW
- Y Dreth Gyngor
- biliau nwy a thrydan
- cynhaliaeth a chynnal plentyn
- Trwydded Deledu
- cytundebau hurbryniant, os yw’r hyn rydych yn ei brynu â nhw yn hanfodol
- dirwyon llys
Pwy sy’n cynnig Cynlluniau Rheoli Dyledion?
Gall nifer o sefydliadau cyngor ar ddyledion am ddim drefnu Cynllun Rheoli Dyledion i sicrhau bod yr holl arian fyddwch chi’n talu i mewn iddo yn mynd tuag at dalu eich dyledion. Mae hyn yn golygu y gallech fod yn rhydd o ddyledion yn gynt nag y gobeithioch.
Mae cynghorwyr am ddim ar ddyledion yn rhoi cyngor arbenigol i gannoedd o filoedd o bobl bob blwyddyn a byddant yn deall eich sefyllfa. Maent yn alluog iawn a byddant yn gallu rhoi’r cymorth rydych ei angen i reoli a lleihau’ch dyledion i chi.
Os byddwch yn dewis darparwr sy’n codi ffi, dylech fod yn ymwybodol bod yn rhaid i bob darparwr DMP gael ei awdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) i sicrhau eu bod yn bodloni’r safonau a gytunwyd.
Cyn eich bod yn cytuno i dderbyn cynllun gyda darparwr sy’n codi ffi, gwiriwch eu bod wedi eu hawdurdodi.
Cael cyngor am ddim am Gynllun Rheoli Dyledion
Mae’n well trafod pethau gyda chynghorydd dyledion profiadol cyn i chi benderfynu cymryd cynllun rheoli dyledion.
Mae hyn oherwydd bod y datrysiad dyledion sydd orau i chi yn ddibynnol ar eich amgylchiadau personol.
Gall cynghorwyr dyledion am ddim eich helpu i wneud y penderfyniadau cywir sy’n golygu y gallech fod yn rhydd o ddyledion yn gynt nag yr ystyrioch.
Bydd cynghorydd dyledion:
- yn trin popeth a ddywedwch yn gyfrinachol
- byth yn eich barnu na’n gwneud i chi deimlo’n wael am eich sefyllfa
- yn hapus i siarad gyda chi, waeth pa mor fawr neu fach yw’ch problem
- awgrymu ffyrdd i ddelio â dyledion nad oeddech chi’n ymwybodol ohonynt efallai
- yn gwirio eich bod wedi ymgeisio am yr holl fudd-daliadau a hawliau sydd ar gael i chi
- yn rhoi cyngor ar ffyrdd gwell o reoli eich arian
Efallai mai dim ond un sgwrs gyda chynghorydd dyledion profiadol fyddwch chi angen i sicrhau bod eich cynllun i reoli neu glirio eich dyledion yr un iawn i chi.
Os ydych chi angen mwy o gefnogaeth neu os nad ydych yn gwybod ble i gychwyn, mae yna bobl eraill yn yr un sefyllfa â chi. Mae bron i hanner y bobl mewn dyled wedi dweud wrthym nad ydynt yn siŵr am y ffordd orau i dalu eu dyledion, a dyna ble gall cynghorydd dyledion wir eich helpu.
Mae mwy nag wyth o bob deg o bobl sydd wedi cael cyngor ar ddyledion yn dweud ei bod yn teimlo dan lai o bwysau neu’n llai pryderus a gyda mwy o reolaeth ar eu bywydau eto.
Mae’r bobl sy’n gadael i’w dyledion gronni cyn gofyn am help yn aml yn teimlo bod pethau wedi mynd allan o reolaeth, mae eu cardiau wedi cyrraedd y terfyn, does yna neb eisiau benthyg arian iddyn nhw ac mae’n cymryd llawer mwy o amser i dalu eu dyledion yn ôl.
Gallwch gysylltu â chynghorydd dyledion am ddim yn y ffordd sydd orau i chi – ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?