Dysgwch fwy am sut mae Gorchymyn Gweinyddu yn gweithio ac ar gyfer pa ddyledion allwch chi ei ddefnyddio. Yna siaradwch gyda chynghorydd dyledion am p’un ai dyma’r ffordd orau i glirio eich dyledion.
Sut mae Gorchymyn Gweinyddu yn gweithio
Gallwch wneud cais i’r Llys Sirol am Orchymyn Gweinyddu os:
- mae gennych un Dyfarniad Llys Sirol neu Un Dyfarniad Uchel Lys yn eich herbyn o leiaf
- rydych yn dymuno atal y bobl y mae arnoch arian iddynt (eich credydwyr) rhag gweithredu ymhellach yn eich erbyn
Bydd barnwr yn penderfynu pa un ai i gymeradwyo Gorchymyn Gweinyddu neu beidio. Yn ddibynnol ar y sefyllfa, efallai y bydd y barnwr yn gofyn i chi fynychu gwrandawiad llys
Os cytunir ar y Gorchymyn, bydd eich holl ddyledion yn cael eu trin gyda’i gilydd.
Cytunwch i wneud taliadau misol rheolaidd i’r llys am y swm llawn sy’n ddyledus i’ch holl gredydwyr.
Yna mae’r llys yn rhannu’r arian ymysg y credydwyr hynny.
Gwaherddir eich credydwyr rhag cysylltu â chi heb ganiatâd y llys.
A gaf i ymgeisio am Orchymyn Gweinyddu?
Efallai y gallech wneud cais i’r Llys Sirol am Orchymyn Gweinyddu:
- os oes gennych chi ddwy ddyled o leiaf
- mae gennych un Dyfarniad Llys Sirol neu Un Dyfarniad Uchel Lys yn eich herbyn o leiaf
- os oes arnoch chi lai na chyfanswm o £5,000
- os allwch chi fforddio gwneud taliadau rheolaidd tuag at eich dyledion – gall hyn fod cyn lleied ag £1 fesul dyled
Beth yw Gorchymyn Cyfansawdd?
Os yw’n annhebygol y byddwch yn gallu talu’r ddyled yn llawn dros gyfnod rhesymol, gall y llys gytuno i warantu Gorchymyn Cyfansawdd.
Mae’r Gorchymyn hwn yn caniatáu i chi dalu rhan o’r hyn sy’n ddyledus gennych yn ôl, ac fe gaiff y gweddill ei ddileu.
Ceisiwch gyngor dyledion rhad ac am ddim
Mae’n well trafod pethau gyda chynghorydd dyledion profiadol cyn i chi benderfynu ymgeisio am Orchymyn Gweinyddu neu Gyfansawdd.
Mae hyn oherwydd bod y datrysiad dyledion sydd orau i chi yn ddibynnol ar eich amgylchiadau personol.
Gall cynghorwyr dyledion am ddim eich helpu i wneud y penderfyniadau cywir – sy’n golygu y gallech fod yn rhydd o ddyledion yn gynt nag yr ystyrioch.
Bydd cynghorydd ar ddyledion:
- yn trin popeth a ddywedwch yn gyfrinachol
- byth yn eich barnu na’n gwneud i chi deimlo’n wael am eich sefyllfa
- bob amser yn hapus i siarad â chi, waeth pa mor fach neu fawr yw eich problem
- awgrymu ffyrdd i ddelio â dyledion nad oeddech chi’n ymwybodol ohonynt efallai
- yn gwirio eich bod wedi ymgeisio am yr holl fudd-daliadau a hawliau sydd ar gael i chi
- yn rhoi cyngor ar ffyrdd gwell o reoli eich arian
Efallai mai dim ond un sgwrs gyda chynghorydd dyledion profiadol fyddwch chi angen i sicrhau bod eich cynllun i reoli neu glirio eich dyledion yr un iawn i chi.
Os ydych chi angen mwy o gefnogaeth neu os nad ydych yn gwybod ble i gychwyn, mae yna bobl eraill yn yr un sefyllfa â chi.
Mae bron i hanner y bobl mewn dyled wedi dweud wrthym nad ydynt yn siŵr am y ffordd orau i dalu eu dyledion, a dyna ble gall cynghorydd dyledion wir eich helpu.
Mae wyth o bob deg o bobl sydd wedi cael cyngor ar ddyledion yn dweud eu bod yn teimlo dan lai o bwysau neu’n llai pryderus a gyda mwy o reolaeth ar eu bywydau eto.
Mae’r bobl hynny sy’n caniatau i ddyledion waethygu cyn ceisio cyngor, yn aml yn canfod fod pethau’n mynd allan o reolaeth, ni chânt ddefnyddio eu cardiau credyd mwyach ac ni fydd neb arall yn benthyca arian iddynt ac mae’n cymryd mwy o amser i dalu’r hyn sy’n ddyledus ganddynt.
Gallwch gysylltu â chynghorydd dyledion yn y ffordd sydd orau i chi – ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.
Felly ymunwch â’r cannoedd o filoedd o bobl y byddwn yn eu helpu bob blwyddyn a chymryd y cam cyntaf i fod yn rhydd o ddyledion.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?