Nid yw prynu car yn benderfyniad syml. O brynu’r car yn gyfan gwbl i brynu car ar gyllid, mae sawl opsiwn. Rhaid i chi ystyried costau rhedeg hefyd. Yn wir, mae’n debyg mai dyma’r ail beth drutaf y byddwch chi’n ei brynu - ar ôl eich cartref. Felly mae’n bwysig gwneud yn siwr eich bod chi’n dewis y ffordd orau i chi brynu car.
Pam ddylwn i ddefnyddio arian neu cynilion wrth brynu car?
Defnyddiwch ein Cyfrifiannell costau car i gyfrifo’r gost o foduro.
Y ffordd rataf i brynu car yw cyllido’r cyfan ohono, neu ran ohono, gydag arian parod.
Y rheswm dros hyn yw y bydd yn rhaid i chi dalu llog ar unrhyw fenthyciad neu gytundeb cyllido.
Os byddwch chi’n penderfynu defnyddio arian parod, cofiwch:
- Sicrhau bod digon o gynilion yn weddill gennych ar gyfer argyfwng ar ôl i chi dalu am eich car.
- Os nad oes gennych chi ddigon o gynilon i brynu’r car yn llawn, defnyddiwch beth y gallwch chi ei fforddio er mwyn rhoi’r blaendal mwyaf y gallwch chi.
- Hyd yn oed os ydych chi’n defnyddio arian o’ch cynilion efallai y byddai’n well i chi dalu am ychydig o’r car ar eich cerdyn credyd er mwyn i chi gael budd amddiffyniad prynu ar gerdyn credyd – byddai rhoi dim ond £100 o gost cerdyn yn golygu y byddai’r cwmni cardiau yn rhannu cyfrifoldeb gyda’r manwerthwr os aiff rhywbeth o’i le. Dylech dalu’r bil yn llawn yn ystod y mis nesaf.
Prynu car gan ddefnyddio benthyciad personol
?
A wyddech chi?
Os na allwch chi fforddio arian parod, fel arfer benthyciad personol yw’r ffordd rataf o gyllido car – ond dim ond os oes gennych chi sgôr credyd da.
Gallwch gael benthyciad personol o fanc, cymdeithas adeiladu neu ddarparwr cyllid os yw’ch sgôr credyd yn dda. Gallwch ledaenu’r gost dros un i saith mlynedd.
Gwnewch yn siŵr nad yw’r benthyciad wedi’i warantu yn erbyn eich cartref. Fel arall byddwch yn rhoi’ch cartref dan risg os byddwch chi’n methu talu’r ad-daliadau.
Edrychwch o gwmpas am y gyfradd log orau trwy gymharu’r APR (neu gyfradd ganrannol flynyddol, sy’n cynnwys costau eraill sy’n rhaid i chi eu talu ar ben llog).
Manteision
- Fel arfer y dewis amgen rhataf yw prynu gydag arian parod.
- Gellir trefnu dros y ffôn, ar y rhyngrwyd neu wyneb yn wyneb.
- Gellir defnyddio’r benthyciad i dalu am y car i gyd (ond nid oes raid).
- Gallwch gael cyfradd llog sefydlog cystadleuol os byddwch chi’n edrych o gwmpas.
Anfanteision
- Efallai y bydd angen i chi aros i’r arian gael ei dalu i’ch cyfrif banc ond mae rhai darparwyr benthyciadau yn sicrhau bod arian ar gael ymron ar unwaith.
- Gallai effeithio ar fenthyciadau eraill.
- Gall costau misol fod yn uwch na gydag opsiynau eraill.
Hurbwrcasu (HP) i gyllido car newydd
Mae hurbwrcasu yn ffordd o brynu car ar gyllid, ble y mae’r benthyciad wedi’i ddiogelu yn erbyn y car. Byddwch chi angen talu blaendal o tua 10%, ac yna gwneud taliadau misol sefydlog dros gyfnod penodol o amser.
Mae hyn yn golygu na fyddwch chi’n berchen arno hyd nes y bydd y taliad olaf wedi’i wneud.
Fel arfer mae trefniadau hurbwrcasu yn cael eu trefnu gan y deliwr car, ac felly maen nhw’n hwylus i’w trefnu a gallant fod yn gystadleuol iawn ar gyfer ceir newydd, ond yn llai cystadleuol ar gyfer rhai ail law.
Manteision
- Cyflym a hwylus i’w trefnu
- Blaendal isel (10% fel arfer)
- Cyfnodau ad-dalu hyblyg (rhwng 12 a 60 mis)
- Cyfraddau llog sefydlog a chystadleuol.
Anfanteision
- Ni fyddwch yn berchen ar y car tan y taliad olaf
- Mae’n tueddu i fod yn fwy drud ar gyfer cytundebau tymor byr
Prynu ar Gontract Personol (PCP)
Mae’r math hwn o ddêl cyllido car yn debyg i gytundeb hurbwrcasu ond fel arfer byddwch chi’n gwneud taliadau misol is. Cofiwch y bydd cyfanswm yr arian y byddwch chi’n ei dalu yn aml yn uwch.
Yn lle cael benthyciad am gost lawn y car, rydych chi’n cael benthyciad am y gwahaniaethu rhwng ei bris yn newydd sbon a gwerth disgwyliedig y car ar ddiwedd y contract personol. Mae hyn wedi’i seilio ar ragolwg o filltiroedd blynyddol yn ystod cyfnod y contract.
Ar ddiwedd y cyfnod gallwch wneud y canlynol:
- Cyfnewid y car a dechrau o’r dechrau eto.
- Rhoi’r car yn ôl i’r deliwr a thalu dim.
- Talu’r taliad terfynol, a elwir hefyd yn daliad balŵn, o bris ailwerthu’r car a’i gadw.
Cofiwch y bydd y taliad balŵn fel arfer yn amrywio o ychydig filoedd o bunnoedd i nifer o filoedd o bunnoedd ac yn fwy na’ch taliad misol.
Manteision
- Taliadau misol is
- Blaendal isel (10% fel arfer)
- Cyfnodau ad-dalu hyblyg (rhwng 12 a 48 mis).
- Dewis o beth i’w wneud ar ddiwedd y tymor ad-dalu.
Anfanteision
- Bydd gwneud mwy na’r milltiroedd fel arfer yn arwain at gostau ychwanegol.
- Gallai traul a difrod gormodol, megis crafiadau, olygu y byddwch chi’n talu ffioedd ychwanegol.
- Gallai’r cyfanswm y byddwch chi’n talu fod yn fwy na’r hyn y byddwch yn ei dalu gyda hurbwrcasu.
- Rhaid i chi dalu’r balans sy’n weddill i gadw’r car.
Prydlesu – Llogi contract personol (PCH)
Rydych chi’n talu swm misol sefydlog i’r deliwr am ddefnyddio’r car, gyda chostau gwasanaethu a chynnal a chadw wedi’u cynnwys, ond rhaid i chi gadw o fewn y milltiroedd a nodir.
Pan fydd y cytundeb yn dod i ben, rydych chi’n rhoi’r car yn ôl. Ni fydd y car byth yn eiddo i chi.
Fel arfer mae llogi (PCH) yn costio mwy bob mis na PCP. Serch hynny, bydd gennych fwy o hyblygrwydd i newid darparwr ac fe all cyfanswm y gost fod yn rhatach yn gyffredinol gan fod y taliad yn cynnwys costau gwasanaethu a chynnal a chadw.
Manteision
- Moduro am gost fisol sefydlog.
- Yn cynnwys costau gwasanaethu a chynnal a chadw.
- Does dim angen poeni am y car yn colli ei werth.
- Cyfnodau talu hyblyg (rhwng 12 a 36 mis).
Anfanteision
- Mae’r costau misol yn uwch gan fod y gwaith o wasanaethu’r car a’i gynnal a’i gadw yn gynwysedig.
- Rhaid talu blaendal o dri mis o rent fel arfer.
- Costau ychwanegol posibl os byddwch chi’n gwneud mwy o filltiroedd na’r cyfyngiad neu eisiau gorffen y cytundeb yn gynnar.
- Nid yw’r car byth yn dod yn eiddo i chi.
Gallwch weld popeth y mae angen i chi wybod amdano yn llogi car yma.
Defnyddio cerdyn credyd i brynu car
Bydd defnyddio cerdyn credyd i dalu am bris cyfan eich car, neu ran ohono, yn rhoi amddiffyniad ychwanegol i chi os aiff rhywbeth o’i le – cyhyd â’ch bod chi’n talu o leiaf £100 ohono ar y cerdyn ac yn talu’ch taliadau cerdyn misol.
Serch hynny, bydd rhai delwyr yn codi ffi trafod – weithiau cymaint â 3% - ac efallai na fydd rhai yn derbyn cerdyn credyd o gwbl.
Defnyddio benthyciadau cyfoed-i-gyfoed i gyllido car newydd
Mae benthyciadau cyfoed-i-gyfoed, neu fenthyca cymdeithasol, yn caniatáu i bobl gael benthyg neu roi benthyg gan ei gilydd heb gynnwys banciau neu gymdeithasau adeiladu. Gallwch weld benthyciadau cyfoed-i-gyfoed ar wefannau megis Zopa.
Byddwch chi angen sgôr credyd da i gael y gyfradd orau, a bydd colli taliadau hefyd yn effeithio ar eich sgôr credyd. Bydd cyfraddau llog yn amrywio gan ddibynnu ar eich sgôr credyd hefyd, efallai y bydd benthyciadau cyfoed-i-gyfoed yn cynnig cyfraddau llog gwell na banciau, ond nid yw hyn bob amser yn wir.
Prynu car ar gyllid: pethau i gadw golwg amdanynt
?
Cofiwch eich bod chi’n cael y mwyaf am eich car cyfredol, p’un a ydych chi’n rhan-gyfnewid yn y delwriaeth neu’n gwerthu’n breifat.
Po fwyaf yr arian a dderbyniwch, po leiaf yr arian y bydd angen ichi ei godi ar gyfer eich car newydd.
Pan fyddwch chi’n cymharu deliau cyllido, mae rhai pethau allweddol i’w gwneud cyn gwneud y dewis terfynol.
- Sicrhewch eich bod chi’n gallu fforddio’r taliad misol, nid dim ond yn awr ond ar gyfer cyfnod cyfan y benthyciad. Gall ein cynlluniwr cyllideb eich helpu chi i gyfrifo hyn.
- Gofynnwch i’r cwmni sy’n cynnig y cyllid i chi beth fydd yn digwydd os byddwch chi’n cael anawsterau i dalu un mis, a pha opsiynau fyddai ar gael i chi os na fyddwch chi’n gallu fforddio talu.
- Cymharwch gyfanswm cost y benthyca, gan gynnwys yr holl gostau dros dymor llawn y benthyciad.
- Byddwch yn ymwybodol o gostau ad-dalu’n gynnar neu eraill, megis costau ar gyfer mynd dros y milltiroedd y rhagwelwyd mewn cynlluniau prynu contract personol a llogi personol.
- Cymharwch gyfraddau llog trwy edrych ar yr APR (cyfradd ganrannol flynyddol), sy’n cynnwys yr holl gostau y mae angen i chi eu talu. Cofiwch y bydd blaendal mwy fel arfer yn golygu cyfradd llog is.
- Ystyriwch yn ofalus cyn prynu yswiriant gwarchod taliadau (PPI) neu yswiriant arall, megis sicrwydd GAP, a all fod yn ddrud ac fe allai roi sicrwydd cyfyngedig. Mae sicrwydd GAP wedi’i gynllunio i dalu allan os yw’ch car yn cael ei ddifrodi’n llwyr a bod y cyllid sy’n weddill yn fwy na gwerth eich car.
- A fyddwch chi’n gallu fforddio costau rhedeg y car ar ben eich taliad misol? Defnyddiwch ein cyfrifiannell costau car i gyfrifo costau rhedeg gwirioneddol ac a allwch chi fforddio eu talu.
Defnyddio eich cynilion yw’r opsiwn rhataf ar gyfer prynu car, a benthyciadau personol yw’r ffordd rataf o gael benthyg arian i brynu car, ond dim ond os oes gennych chi statws credyd da.
Os oes gennych chi sgôr credyd gwael, efallai y bydd angen i chi ddewis un o’r dulliau cyllido amgen i brynu car.
Sut i edrych o gwmpas am y bargeinion cyllido car gorau
Y ffordd orau o chwilio am fargen dda yw defnyddio gwefan gymharu.
Dyma rai o’r safleoedd y gallech eu hystyried.
Gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer cyllido car
Eich cam nesaf
Os na allwch chi wneud eich ad-daliadau, fe allech chi golli’ch car.