Ble i brynu car ail-law
Os ydych wedi penderfynu prynu car ail-law, mae nifer o ffyrdd y gallwch wneud hyn – rhai ohonyn nhw yn fwy peryglus na’i gilydd. Darllenwch ymlaen i gael gwybod am y gwahanol fanteision ac anfanteision o brynu gan werthwr ceir ail-law, gwerthwr preifat, arwerthiant ceir neu wefan arwerthiant ceir.
Gwerthwyr ceir – rhyddfraint ac annibynnol
Os ydych yn ystyried prynu car ail-law gan werthwr ceir, gallwch fynd at werthwr ceir rhyddfraint sy’n gwerthu ceir ail-law hefyd, gwerthwr ceir ail-law annibynnol neu archfarchnad ceir.
Manteision prynu trwy werthwr ceir
- Mae eich hawliau defnyddiwr yn gryfach nag wrth brynu yn breifat.
- Mae’n debygol y bydd gan gar a brynir gan werthwr ceir warant.
- Rydych yn debygol o fedru cyfnewid eich car presennol.
- Efallai y bydd dewisiadau cyllid ceir ar gael, gan gynnwys hur bwrcas a thaliad contract personol.
- Os ydych yn prynu rhywbeth bron yn newydd, efallai fod rhywfaint o warant y gweithgynhyrchwr yn dal ar ôl.
- Fel arfer bydd y gwerthwr wedi archwilio’r car a thrwsio unrhyw ddiffygion mawr.
- Gallwch fargeinio gyda gwerthwr ceir.
- Ar rai adegau o’r flwyddyn efallai y byddwch yn gallu cael bargen arbennig o dda os byddan nhw’n awyddus i gael gwared ar geir ail-law i gyrraedd eu targedau gwerthiant.
Anfanteision prynu trwy werthwr ceir
Prynu gan werthwr preifat
Gall prynu car ail-law yn breifat fod yn beryglus oherwydd pe byddai problemau wedyn mae gennych lai o hawliau cyfreithiol nag a fyddai gennych gyda gwerthwr ceir. Felly mae ‘brynwr bydd ofalus’ yn wir iawn!
Manteision prynu yn breifat
- Rydych yn debygol o dalu llai na phetaech wedi prynu’r un car gan werthwr ceir.
- Os bydd y gwerthwr ar ben ei dennyn angen canfod prynwr fe allwch chi gael disgownt mawr mae’n debyg.
- Fe fyddwch yn cael cyfarfod y perchennog blaenorol.
Anfanteision prynu yn breifat
- Ni fydd gennych y sicrwydd o warant oni bai fod y car yn dod gydag amser ar ôl ar warant y gweithgynhyrchwr – felly efallai y byddwch am brynu rhywfaint o yswiriant ar ei gyfer.
- Ni fydd gennych y dewis o gynllun cyllido car, felly byddai angen i chi drefnu eich benthyciad eich hun os oes arnoch angen un.
- Mae gennych lai o hawliau defnyddiwr – dim ond angen bod yn addas ar gyfer y ffyrdd ac ‘fel mae’n cael ei ddisgrifio’ sydd, ac mae’n rhaid bod gan y gwerthwr yr hawl gyfreithiol i’w werthu ichi.
- Mae eich ymchwil a gwiriadau yn hanfodol – os byddwch yn cael lemwn a’r gwerthwr heb wneud dim o’i le, ychydig iawn allwch chi ei wneud am y peth.
- Ni fydd gennych y dewis o gyfnewid eich car presennol.
Arwerthiannau ceir
I’r rhai nad ydyn nhw’n ofalus, arwerthiannau yw un o’r ffyrdd mwyaf peryglus o brynu car ail-law. Ond fe allan nhw fod yn lle gwych i gael bargeinion, cyn belled â’ch bod yn cadw o fewn eich cyllideb ac yn cymryd rhai camau sylfaenol.
Arwerthiannau byw i geir
?
Brynwr bydd yn ofalus!
Ble bynnag y byddwch yn prynu car ail-law, gwnewch yn siŵr eich bod yn:
- Gwneud eich gwaith ymchwil a’ch gwiriadau
- Gofyn llawer o gwestiynau
- Rhoi prawf gyrru i’r car cyn penderfynu
Mae tua 1.4 miliwn o geir yn cael eu gwerthu mewn arwerthiannau byw yn y Deyrnas Unedig yn flynyddol. Mae llawer o’r ceir yma yn geir cyfnewid gan werthwyr ceir neu gerbydau a ddefnyddiwyd gan gwmnïau prydlesu a rheolwyr ceir fflyd. Bydd gwerthwyr ceir annibynnol yn cael dwy ran o dair o’u ceir ail-law mewn arwerthiannau.
Mae un o’r tai arwerthu mwyaf, British Car Auctions, yn cynnwys adroddiad peirianyddol gyda Sicrwydd y BCA ar y rhan fwyaf o geir y bydd yn eu gwerthu sydd dan wyth mlwydd oed. Bydd y gwiriad yn cael ei wneud gan yr AA ac mae’n cynnwys: breciau (trwy yrru ar y safle), goleuadau rhybudd, dyfnder y teiars, sŵn y peiriant, gwirio blwch gêr, hongiad y cerbyd a lefelau hylifau.
Os byddwch yn prynu car nad yw’n cyfateb i’w adroddiad BCA, mae gennych hyd at 48 awr neu 500 milltir o yrru i roi gwybod i BCA. Fe fyddan nhw wedyn yn cywiro’r diffyg/diffygion ac mewn achosion drwg iawn yn rhoi ad-daliad llawn.
Manteision arwerthiannau byw i geir
- Mannau gwych i ddod o hyd i fargeinion, cyn belled â’ch bod yn gwneud ymchwil yn gyntaf ac yn rhoi prawf gyrru i’r car os gallwch chi.
Anfanteision arwerthiannau byw i geir
- Ar ôl i’r morthwyl gael ei daro ni allwch newid eich meddwl.
- Oni bai nad yw’r car yn eiddo i’r gwerthwr neu wedi ei ddisgrifio yn gywir, rydych yn annhebygol o fod â llawer o hawliau defnyddwyr – gwiriwch wefan yr arwerthwr am hyn.
- Mae’n hawdd iawn colli arnoch eich hun a mynd dros eich cyllideb.
Arwerthiannau ar-lein
Mae arwerthiannau ar-lein yn dod yn fwyfwy poblogaidd, gydag eBay Motorsopens in new window yn un o’r hoff safleoedd. Mae’r manteision a’r anfanteision yn debyg i brynu yn breifat, gydag ychydig o rai ychwanegol isod.
Os ydych chi’n ystyried prynu car trwy arwerthiant ar-lein, mae’n arbennig o bwysig gwneud ymchwil i’r car yr ydych am ei brynu ymlaen llaw. Yna gwnewch yn siŵr eich bod wedi edrych yn iawn arno a rhoi prawf gyrru iddo cyn rhoi bid.
Manteision arwerthiannau ar-lein
- Hawdd eu chwilio trwy ddefnyddio hidlenni.
- Lle da i ganfod bargeinion.
Anfanteision arwerthiannau ar-lein
- I sicrhau bod car yn union yr hyn y mae’n ymddangos, mae angen i chi ei archwilio cyn rhoi bid – ond nid yw hyn yn bosibl bob tro.
- Ychydig neu ddim hawliau cyfreithiol sydd gennych, ar wahân i adegau pan na fydd y car yn cyfateb i’r disgrifiad neu os na fydd y gwerthwr yn berchennog cyfreithlon.
Eich cam nesaf
Darllenwch pryd i brynu car, fel eich bod yn gwneud y mwyaf o gynigion tymhorol y gwerthwyr.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?