Mae blwydd-dal cysylltiedig â buddsoddiadau yn fath o flwydd-dal oes ble mae’ch incwm ymddeol yn amrywio i adlewyrchu newidiadau i werth buddsoddiadau fel stociau a chyfranddaliadau. Felly er y gallwch elwa o dwf y farchnad stoc, mae perygl hefyd y gallai’ch incwm ostwng. Fodd bynnag, mae pob blwydd-dal sy’n gysylltiedig â buddsoddiadau yn cynnig incwm gwarantedig.
Mathau o flwydd-dal sy’n gysylltiedig â buddsoddiadau
?
Mae risg yn gysylltiedig â blwydd-daliadau sy’n gysylltiedig â buddsoddiadau. Os byddwch yn ystyried y dewis hwn, sicrhewch y gallech fforddio i’ch incwm ar ôl ymddeol ostwng.
Gall blwydd-daliadau sy’n gysylltiedig â buddsoddiadau fod fel a ganlyn:
-
Blwydd-dal gydag elw – mae hyn yn golygu bod eich incwm wedi’i gysylltu â pherfformiad cronfa ag elw’r darparwr blwydd-daliadau
-
Blwydd-dal yn gysylltiedig ag unedau – mae hyn yn golygu bod eich incwm wedi’i gysylltu â’r cronfeydd rydych yn buddsoddi ynddynt yn benodol
Os byddwch yn dewis blwydd-dal sy’n gysylltiedig ag unedau, bydd yn rhaid i chi ddewis o amrywiaeth o wahanol gronfeydd sy’n cynnwys gwahanol asedau buddsoddi fel rheol.
Mae’r pob blwydd-dal sy’n gysylltiedig â buddsoddiadau yn cynnwys sail isafswm incwm gwarantedig. Dyma’r lefel isaf y gallai eich incwm ostwng iddi pan fydd y farchnad stoc yn perfformio’n wael. Mae’n syniad da sicrhau y byddai gennych ddigon o incwm i fyw o hyd pe bai eich blwydd-dal sy’n gysylltiedig â buddsoddiadau yn gostwng i’r lefel hon.
Nodweddion incwm y gallwch eu dewis
Gyda blwydd-daliadau cysylltiedig â buddsoddi, fel gyda blwydd-daliadau gydol oes sylfaenol, gallwch ddewis:
- Cael talu’r incwm i rywun arall wedi i chi farw – a elwir yn flwydd-dal oes ar y cyd
- Gwarantau am ba hyd fydd eich pensiwn yn talu os byddwch yn marw yn gynt na’r disgwyl – a elwir yn gyfnod gwarant
- ‘Sicrwydd gwerth’ ble mae’ch ystâd yn cael unrhyw werth na ddefnyddiwyd o’ch cronfa bensiwn yn ôl pan fyddwch yn marw
- Cyfraddau uwch os oes gennych ddisgwyliad oes byr oherwydd salwch neu ffordd o fyw – a elwir yn flwydd-dal gwell
Nid yw pob darparwr yn cynnig yr opsiynau hyn. Rydym yn argymell eich bod yn cael cyngor ariannol i’ch helpu i gymharu beth sydd ar gael – gweler yr adran hwyrach ar gael cyngor.
Costau ar gyfer blwydd-daliadau sy’n gysylltiedig â buddsoddiadau
Mae rhai o’r blwydd-daliadau sy’n gysylltiedig â buddsoddiadau mwy cymhleth yn cynnwys costau uwch na blwydd-dal oes sylfaenol. Bydd y rhain yn lleihau’ch incwm ymddeoliad yn sylweddol.
Dylech gael cyngor ariannol arbenigol os ydych chi’n ystyried prynu blwydd-dal cysylltiedig â buddsoddi – gweler yr adran hwyrach ar gael cyngor. Bydd cynghorydd yn pwyso a mesur sut allai unrhyw daliadau effeithio ar eich incwm.
Pethau eraill i feddwl amdanynt
I ddeall beth sy’n digwydd am dreth a rhyddhad treth wrth brynu blwydd-dal oes (yn cynnwys yr un cysylltiedig â buddsoddiad) neu basio un pan fyddwch yn marw, gweler ein canllaw ‘Defnyddio eich cronfa bensiwn i brynu blwydd-dal oes’.
Ceisiwch gyngor cyn cymryd blwydd-dal
Unwaith y cymerwch chi flwydd-dal ni allwch newid eich meddwl – a dyma un allan o nifer o opsiynau sydd gennych wrth gymryd eich pensiwn. Felly mae’n bwysig gwneud yn siŵr mai hwn yw’r dewis iawn i chi.
Os ydych chi’n ystyried blwydd-dal cysylltiedig â buddsoddiad yn weithredol, rydym yn argymell eich bod yn siarad â chynghorydd ariannol.
Gallwch ddod o hyd i gynghorwyr ariannol cofrestredig y FCA sy’n arbenigo mewn cynllunio ar gyfer ymddeoliad yn ein Cyfeirlyfr cynghorydd ymddeoliadopens in new window.
Eich dewisiadau incwm ymddeol eraill
I gael trosolwg o’ch holl opsiynau ac i gael gwybod lle i gael cymorth a chyngor, yn cynnwys canllaw yn rhad ac am ddim ac a gefnogir gan y llywodraeth o Pension Wise, gweler ein canllawiau isod.
Opsiynau ar gyfer defnyddio’ch cronfa bensiwn
Deall beth yw Pension Wise a sut i’w ddefnyddio
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?