Mae Bondiau Cynilo yn gynhyrchion adneuon sy’n talu llog a gynigir gan fanciau a chymdeithasau adeiladu ac ar brydiau Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I) am dymor penodedig. Mewn gwirionedd, benthyciad tymor sefydlog gennych chi i’r darparwr (dyroddwr y bond) yw bond o’r math hwn, fel arfer yn gyfnewid am gyfradd llog uwch nag y byddech o bosibl yn ei chael gan gyfrifon adnau traddodiadol.
Pryd y gallai Bond Cynilo fod yn addas ar eich cyfer chi?
?
Fe’u gelwir hefyd yn ‘fondiau cyfradd sefydlog’ neu ‘adneuon tymor sefydlog’.
Gallai Bond Cynilo fod yn addas ar eich cyfer chi:
- os oes gennych £1,000 neu fwy mewn arian parod y gallwch ei ymrwymo am o leiaf chwe mis neu gyfnod y bond
- os ydych am adenillion uwch o bosibl na’r adenillion ar eich cyfrif cynilo rheolaidd
- os nad ydych am fentro colli unrhyw gyfran o’ch cyfalaf
Pa fathau o Fondiau Cynilo sydd ar gael?
Mae Bondiau Cynilo Cyfradd Sefydlog yn gwarantu cyfradd llog benodedig dros dymor penodol – mae’r rhan fwyaf o fondiau cynilo yn talu llog sefydlog.
Mae Bondiau Tracio yn tracio mynegai neu gyfradd benodol (er enghraifft chwyddiant neu gyfradd sylfaen Banc Lloegr) dros gyfnod penodedig, rhwng chwe mis a phum mlynedd.
Er mai £1 yw’r isafswm y gellir ei fuddsoddi ar gyfer rhai Bondiau Cynilo, fel arfer gofynnir am isafswm adnau o £1,000 neu £2,000, gydag uchafswm nodweddiadol o £500,000. Weithiau cynigir cyfraddau llog mewn haenau yn ôl y swm y byddwch yn ei roi fel adnau.
Weithiau caiff adneuon strwythuredig eu hysbysebu fel bond cynilo. Maent yn aml yn addo adenillion uwch, ond gall fod mwy o risg ynghlwm na bondiau cynilo traddodiadol. Os credwch y gallai’r bond rydych yn ei ystyried fod yn gynnyrch strwythuredig, darllenwch ein canllaw.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth rydych yn ei brynu.
Risg ac elw
- Byddwch yn cael eich cyfalaf gwreiddiol yn ôl ar ddiwedd y tymor ynghyd â’r llog cronedig.
- Mae’r cynhyrchion hyn yn tueddu i gynnig cyfraddau llog uwch na chyfrifon dim rhybudd.
- Gyda Bondiau Cynilo Cyfradd Sefydlog, byddwch yn gwybod o’r cychwyn cyntaf faint y byddwch yn ei gael pan fydd y bond yn aeddfedu (fodd bynnag, nid dyma’r achos gyda bondiau tracio).
- Ni fydd eich buddsoddiad gwreiddiol yn cadw ei werth mewn termau real (ei ‘bŵer prynu’) os bydd y llog rydych yn ei gael yn is na’r gyfradd chwyddiant dros gyfnod y buddsoddiad.
Os yw’r bond rydych yn ei ystyried yn adnau strwythuredig, bydd y risgiau yn wahanol. Darllenwch ein canllaw
Cynhyrchion strwythuredig a byddwch yn siŵr eich bod yn deall beth rydych yn ei brynu.
Cael gafael ar eich arian
- Fel arfer mae’r cynhyrchion hyn yn ei gwneud yn ofynnol i chi ymrwymo eich arian am gyfnod o rhwng chwe mis a phum mlynedd.
- Gall fod cosbau mawr am godi arian yn gynnar felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r cosbau hyn ac y gallwch ymdopi cyn i chi ymrwymo eich arian.
- Mewn rhai achosion, mae’n bosibl na fyddwch yn gallu cael gafael ar unrhyw ran o’ch cyfalaf tan ddiwedd y tymor – darllenwch y ffeithiau cyn i chi ymrwymo.
Taliadau
Darllenwch lenyddiaeth y cynnyrch i weld a oes unrhyw daliadau os byddwch yn codi eich arian yn gynnar. Efallai na fyddwch yn gallu codi eich arian yn achos rhai cynhyrchion.
Diogel a Sicr?
Caiff arian parod a roddwch mewn banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU (a awdurdodir gan Awdurdod Rheoleiddio Prudential) ei ddiogelu gan Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol (FSCS). Terfyn diogelwch cynilion yr FSCS yw £85,000 (neu £170,000 ar gyfer cyfrifon ar y cyd) fesul cwmni awdurdodedig.
Mae’n werth nodi bod rhai banciau yn rhan o’r un cwmni awdurdodedig. Os oes gennych fwy na’r terfyn o fewn yr un banc, neu gwmni awdurdodedig, mae’n syniad da symud y gormodedd i sicrhau bod eich arian wedi’i ddiogelu.
Ble i gael Bond Cynilo Arian Parod
Gallwch brynu Bondiau Cynilo yn uniongyrchol gan fanc neu gymdeithas adeiladu neu NS&I. Bydd pob dyroddiad bond yn gyfyngedig felly cadwch lygad allan am fargeinion da.
Prynwch ar-lein, drwy gangen, drwy’r post neu dros y ffôn gan ddibynnu ar y cynnyrch a’r darparwr.
Mae gwefannau cymharu yn lle da i gychwyn ar gyfer unrhyw un sy’n ceisio dod o hyd i gyfrif cynilo addas.
Argymhellwn y gwefannau canlynol er mwyn cymharu cyfrifon cynilo:
Cofiwch:
- Ni fydd pob un gwefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly cofiwch ddefnyddio mwy nag un gwefan cyn gwneud penderfyniad.
- Felly mae’n bwysig gwneud tipyn o waith ymchwil i mewn i’r math o gynnyrch neu nodweddion a ddymunwch cyn prynu neu newid darparwr.
- Dysgwch ragor yn ein canllaw ar wefannau cymharu.
Treth
Telir llog ar eich cynilion yn gros ac efallai y bydd rhaid i chi dalu treth arnynt os ydynt yn uwch na’ch Lwfans Cynilion Personol.
Mae rhai bondiau cynilo ar gael fel cyfrifon ISA di-dreth.
Dysgwch ragor am y Lwfans Cynilion Personol ar dreth a chynilion ar
GOV.UKopens in new window.
Os bydd pethau’n mynd o chwith
Os byddwch yn anfodlon â’r gwasanaeth a gewch neu os byddwch am wneud cwyn am Fond Cynilo rydych wedi’i brynu, darllenwch ein tudalen Datrys problem ariannol, gwneud cwyn neu gael iawndal.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?