Broceriaid credyd a benthyciadau diwrnod cyflog

Os ydych chi’n chwilio am fenthyciad diwrnod cyflog, gall defnyddio brocer credyd i ddod o hyd i un gostio arian i chi mewn ffioedd diangen. Mae’r dudalen hon yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am beth ddylech chi ei ystyried cyn i chi ddefnyddio brocer credyd i ddod o hyd i fenthyciad diwrnod cyflog.

Beth yw broceriaid credyd?

Mae broceriaid credyd yn gwmnïau sy’n gallu’ch helpu i ddod o hyd i fenthyciad, er enghraifft, oherwydd bod gennych chi hanes credyd gwael. Mae rhai broceriaid credyd yn gweithredu ar-lein trwy wefannau ac yn arbenigo mewn benthyciadau diwrnod cyflog a chredyd tymor byr, cost uchel arall. Mae rhai yn derbyn comisiwn gan ddarparwyr ond mae eraill yn codi ffi am eu gwasanaethau.

Pam y cafwyd problemau gyda rhai broceriaid credyd?

Nid yw rhai cwmnïau wedi egluro’n ddigon clir i gwsmeriaid mai brocer credyd ydynt – mae eu gwefannau wedi awgrymu eu bod yn ddarparwyr sy’n gallu cynnig benthyciad yn uniongyrchol. Nid yw eraill yn egluro y byddant yn codi ffi am eu gwasanaethau, neu faint fydd hyn.

Ac fe gymerodd rhai daliadau o gyfrifon banc defnyddwyr, heb ganiatâd, a heb ddarparu’r gwasanaethau a addawyd.

Yn aml, nid oedd y bobl yn ymwybodol eu bod yn arwyddo am wasanaeth gan frocer credyd. Fe roddont eu manylion banc oherwydd y dywedwyd wrthynt i wneud hyn i gadarnhau eu hunaniaeth, neu i ganiatáu i’r darparwr benthyciad i gyflawni gwiriad credyd. Nid oeddynt yn sylweddoli y byddai arian yn cael ei gymryd o’u cyfrif.

Unwaith roedd rhywun wedi rhoi manylion personol, byddai rhai broceriaid credyd yn pasio’r rhain ymlaen i froceriaid credyd eraill, hefyd heb wybodaeth na chydsyniad y cwsmer. Yna byddai pobl yn darganfod fod cwmnïau eraill hefyd wedi codi ffioedd.

Mewn sawl achos, roedd y nifer o ffioedd wedi eu tynnu o gyfrif y cwsmer, ond nid oedd wedi cael y benthyciad. Pan fyddont yn cwyno, yn aml roeddynt yn ei chael yn anodd cysylltu â’r cwmni, neu’n cael esgusodion dros pam na ellid talu ad-daliad – er bod gan y cwsmer hawl i’w arian yn ôl dan y gyfraith yn aml.

Nid oedd rhai o’r broceriaid credyd hyn wedi cofrestru gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), neu roeddynt yn masnachu’n anghyfreithlon dan enw gwahanol.

A ddylech chi ddefnyddio brocer credyd i ddod o hyd i fenthyciad diwrnod cyflog?

Nid oes raid i chi ddefnyddio brocer credyd i chwilio am fenthyciad diwrnod cyflog. Mae’n eithaf hawdd cymharu’r farchnad eich hun – er enghraifft, trwy ymweld â gwefannau darparwyr unigol, neu ddefnyddio gwefan cymharu prisiau. Gallwch ofyn i ddarparwyr am ddyfynbris, yn dangos faint fydd yn ei gostio i fenthyg y swm o arian ydych chi eisiau, dros y cyfnod ydych chi ei eisiau – bydd hyn yn cael ei ddangos fel ‘y cyfanswm sy’n daladwy’.

Hefyd, meddyliwch yn ofalus cyn mynd am fenthyciad diwrnod cyflog. Cofiwch fod cyfraddau llog yn uchel ac y gall y ddyled fynd allan o reolaeth yn gyflym. Os na allwch chi ad-dalu’r benthyciad cyn diwedd y cyfnod a gytunwyd arno gallech wynebu rhagor o ddyled.

Dylech edrych o ddifri ar ddulliau eraill o dalu neu geisio cyngor am ddim ar ddyledion. Mae nifer o ffyrdd eraill i fenthyca arian neu ad-dalu dyledion a fydd yn costio llawer iawn llai i chi yn yr hirdymor.

Canfyddwch beth sydd angen i chi ei wybod am fenthyciadau diwrnod cyflog.

Dysgwch ble i gael cyngor am ddim ar ddyledion.

Sut i stopio broceriaid credyd rhag cymryd taliadau heb awdurdod

Canslo’r gwasanaeth brocer credyd

Os ydych chi wedi cytuno i wasanaeth brocer credyd ar-lein, neu dros y ffôn, ac yn penderfynu nad ydych chi ei angen bellach, gallwch ganslo a gofyn am eich arian yn ôl. Mae hyn dan reolau marchnata o bell yr FCA – ond rhaid i chi ganslo o fewn 14 niwrnod.

Nid yw’n ofynnol i chi roi rheswm pam eich bod yn dymuno canslo a dylai’r brocer credyd ad-dalu unrhyw ffioedd a dalwyd gennych cyn pen 30 diwrnod. Dim ond os yw wedi eich darparu â gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyn i chi ganslo y gall gadw’r ffi.

Os ydych chi’n cael trafferth cael ad-daliad, gallwch gwyno am y brocer credyd i wasanaeth defnyddwyr yr Ombwdsmon Ariannol.

Cysylltwch â’ch banc i stopio taliadau

Cyn i chi ddefnyddio gwasanaeth brocer credyd dylech wirio a yw’r cwmni wedi ei awdurdodi gyda’r FCA. Gallwch wneud hyn drwy wirio cofrestr yr FCA.

Gwiriwch Gofrestr Credyd Defnyddwyr yr FCA.

Gwiriwch Gofrestr Gwasanaethau Ariannol yr FCA.

Os nad yw brocer credyd wedi ei awdurdodi gan yr FCA

Os nad yw’r brocer credyd wedi ei awdurdodi, gallwch hysbysu Safonau Masnach neu hysbysu [llinell gymorth defnyddwyr yr FCA]. Ni fyddant yn gallu ymgymryd â chwynion unigol, na chael iawndal i chi, ond gallant weithredu yn erbyn y brocer credyd os oes tystiolaeth o gamymddwyn.

Neu gallwch gysylltu ag Action Fraud sy’n delio â thwyll a throseddau rhyngrwyd a ysgogwyd gan arian.

I gael gwybod rhagor, ewch i wefan Action Fraud.

Cysylltwch â’ch banc i stopio taliadau

Os yw’r brocer credyd eisoes wedi dechrau cymryd taliadau rheolaidd, mae’n debygol eich bod wedi cytuno i Awdurdod Talu Parhaus (CPA). Ni fydd y taliad a gesglir trwy’r dull hwn yn ymddangos fel debyd uniongyrchol nac archeb sefydlog ar eich cyfrif.
Yn gyntaf dylech ofyn i’r brocer credyd ganslo’r CPA. Os na fydd yn fodlon gwneud hyn, gallwch ofyn i’ch banc neu gymdeithas adeiladu i ganslo’r CPA a stopio taliadau pellach. Dylai’ch banc gydymffurfio â’ch cais. Os bydd yn gwrthod, dylech fynnu ei fod yn canslo’r CPA am fod gennych hawl cyfreithiol i ddefnyddio’ch banc i ganslo’r cyfarwyddyd.
Os cewch anhawster defnyddio’ch banc i ganslo CPA, defnyddiwch eu gweithdrefn gwynion ffurfiol i gwyno. Os na fyddwch yn fodlon ar ganlyniad y gŵyn, gallwch gwyno i’r Ombwdsmon Ariannol.

Sut mae’r gyfraith yn eich diogelu

Ers Ionawr 2015, mae yna amddiffyniadau atodol wedi bod yn rheolau’r FCA. Mae’r rhain yn gofyn i bob brocer credyd esbonio’n glir pwy ydynt a pha wasanaeth maent yn ei gynnig. Yn ogystal, nid yw broceriaid credyd yn cael codi ffi arnoch chi na chymryd manylion taliad oni bai eu bod wedi eich darparu â hysbysiad gwybodaeth yn gyntaf, yn ysgrifenedig (neu trwy e-bost), sy’n datgan yn glir:

  • Enw cyfreithiol y cwmni (ac nid yr enw masnachu yn unig)
  • Bod y cwmni yn frocer credyd (neu’n gweithredu fel un) yn hytrach na darparwr benthyciadau
  • Eu bod yn bwriadu codi ffi arnoch
  • Faint fydd y ffi
  • Sut a phryd fydd y ffi yn cael ei chodi.

Dim ond os ydych chi wedi cydnabod (trwy lythyr neu e-bost) eich bod wedi derbyn yr hysbysiad hwn y gallant godi ffi arnoch, neu basio manylion talu ymlaen at rywun arall.

Os byddwch yn penderfynu bwrw ymlaen, ac os nad yw’r brocer yn cael benthyciad i chi (o fewn chwe mis), rhaid iddynt ad-dalu’r ffi yma i chi llai £5 – mae hyn dan Adran 155 y Ddeddf Credyd Defnyddwyr. Dylent ddweud hyn wrthych chi wrth i chi cofrestru.

A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?