Buddsoddi mewn eiddo
Mae buddsoddi mewn eiddo – ar y cyd ag arian parod, bondiau a chyfranddaliadau – ymhlith y pedwar math mwyaf cyffredin o fuddsoddiad. Mae sawl math o fuddsoddi mewn eiddo, o brynu i osod i fuddsoddiad mewn cronfa eiddo. Yma gallwch ganfod popeth sydd ei angen arnoch ynglŷn â sut i fuddsoddi mewn eiddo, y gwahanol fathau ynghlwm â hyn a’r risgiau.
Pam buddsoddi mewn eiddo?
Yn achos eiddo, mae dwy brif ffordd o wneud adenillion:
- Rhent – gallwch ennill incwm drwy osod eiddo i denantiaid
- Gwerthu am elw – os byddwch yn prynu eiddo ac yn ei werthu’n ddiweddarach am bris uwch.
Hyd yn oed os nad ydych am brynu eiddo i chi eich hun, gallwch gael y buddiannau posibl hyn yn anuniongyrchol drwy fuddsoddi mewn cronfa eiddo sy’n buddsoddi’n uniongyrchol mewn eiddo.
Mae ffyrdd cysylltiedig eraill o fuddsoddi hefyd, er enghraifft drwy wasanaethau cynnal a chadw a rheoli eiddo.
Risgiau sy’n gysylltiedig a buddsoddi mewn eiddo
Gall prisiau eiddo a’r galw am eiddo ar rent gynyddu a gostwng, ac mae’n gwneud hynny. Oherwydd hynny, mae buddsoddi’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol mewn eiddo yn ddewis hirdymor. Os ydych yn barod i aros, gallwch dderbyn y colledion mewn marchnad dai araf a gwneud elw unwaith eto pan fydd pethau’n well.
Os ydych wedi gorfuddsoddi mewn eiddo – er enghraifft, os ydych wedi buddsoddi’r rhan fwyaf o’ch arian mewn eiddo prynu i osod, efallai y byddwch mewn dyfroedd dyfnion pan fydd y marchnadoedd tai yn arafu. Er mwyn osgoi hyn, dylech arallgyfeirio eich portffolio drwy fuddsoddi mewn mathau gwahanol o bethau.
Sut i fuddsoddi mewn eiddo
Prynu eiddo’n uniongyrchol
Mae llawer o risgiau yn gysylltiedig â phrynu eiddo yn uniongyrchol, boed hynny i chi eich hun neu fel buddsoddiad prynu i osod.
- Arian wedi ei glymu – yn wahanol i gyfranddaliadau neu fondiau, mae’n cymryd llawer o amser i werthu eiddo.
- Mae’n ymrwymiad mawr – pan fyddwch yn prynu eiddo, byddwch yn rhoi llawer o’ch wyau yn yr un fasged.
- Costau prynu a gwerthu – dylech ystyried ffioedd asiant tai a syrfëwyr, treth stamp, cyfreithwyr a ffioedd trawsgludo. O 1 Ebrill 2016, bydd unrhyw un sy’n prynu cartref ychwanegol neu eiddo preswyl prynu i osod yn gorfod talu 3% yn rhagor ar ben pob band Treth Stamp.
- Mae’n waith llafurus – mae cynnal a chadw a rheoli eiddo yn cymryd amser ac arian. Efallai y bydd angen i chi ymestyn y brydles - os nad ydych yn berchen ar y rhydd-ddaliad yn llwyr. Mae hon yn gost arall a gall gymryd rhywfaint o amser i negodi.
Os byddwch yn defnyddio morgais neu fenthyciad i brynu eiddo, mae risgiau ychwanegol:
- Nid oes sicrwydd y byddwch yn cael digon o rent i ad-dalu’r benthyciad.
- Efallai y bydd cost y morgais yn cynyddu.
- Os na fyddwch yn gwneud yr ad-daliadau, gall y banc neu’r gymdeithas adeiladu adfeddiannu’r eiddo.
Cronfeydd buddsoddi mewn eiddo
Yn achos cronfa eiddo gyfun (neu ar y cyd), bydd rheolwr proffesiynol yn casglu arian gan lawer o fuddsoddwyr, ac yna’n buddsoddi’r arian yn uniongyrchol mewn eiddo neu mewn cyfranddaliadau eiddo. Mae rheolwyr cronfeydd yn codi ffi am y gwasanaeth hwn, a fydd yn effeithio ar eich enillion.
Mae’r rhain i gyd yn enghreifftiau cyffredin o gronfeydd eiddo:
- Ymddiriedolaethau buddsoddi mewn eiddo tiriog (REITs)
- Cyfranddaliadau mewn cwmnïau eiddo a restrir
- Ymddiriedolaethau buddsoddi eiddo
- Cronfeydd eiddo cwmnïau yswiriant
- Ymddiriedolaethau uned eiddo
- Cwmnïau eiddo alltraeth
Cyn buddsoddi mewn eiddo
Cyn i chi wneud unrhyw benderfyniad ynghylch buddsoddi mewn eiddo, dylech gael cymaint o wybodaeth â phosibl. Gallwch ymchwilio i’r manteision a’r anfanteision posibl ar eich pen eich hun, neu gael cyngor. Byddwch hefyd am ystyried a fyddai math gwahanol o fuddsoddiad yn cyflawni eich nodau yn well. Bydd y canllawiau hyn yn eich rhoi ar ben ffordd:
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?