Mae rheoli arian a chael dau ben llinyn ynghyd pan fyddwch ar incwm isel yn gofyn am waith trefnu gofalus. Rydym wedi casglu ynghyd rhai o’r ffyrdd gorau i wneud yn siŵr eich bod yn defnyddio’r holl driciau posibl i’ch helpu i gadw mewn rheolaeth pan fyddwch ar gyllideb dynn.
Cyfrifwch eich cyllideb
Y cam cyntaf wrth gymryd rheolaeth o’ch arian yw cyfrifo eich costau byw, yn cynnwys gwybod beth sy’n dod i mewn, beth sy’n mynd allan a phryd.
Mae llunio cyllideb yn rhoi darlun clir i chi o ble mae eich arian yn mynd, ac yn dangos i chi ble gallai cyfle fodoli i chi arbed arian. Bydd hefyd yn eich helpu i weld p’un ai ydych yn byw o fewn eich incwm ai peidio.
Edrychwch ar ffyrdd i gwtogi ar gostau
Gall fod yn anodd newid faint o arian sydd gennych yn dod i mewn, ond mae gennych fwy o reolaeth dros beth sy’n mynd allan.
Yn ôl ymchwil gan Santander, mae cartrefi yn y Deyrnas Unedig yn gwario cyfartaledd o £3,329 y flwyddyn ar filiau’r dreth gyngor, ynni, trydan, dŵr a band eang. Gallwch dorri cannoedd o bunnoedd oddi ar eich gwariant trwy newid darparwyr gwasanaethau a chwilio am fargen well ar lawer o bethau, yn cynnwys eich siopa a gwyliau.
Hawliwch yr holl fudd-daliadau mae gennych hawl iddynt
Mae’n haws nag y gallech feddwl i wirio eich bod yn derbyn yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt os ydych ar incwm isel.
?
Ymunwch â’n grŵp
Rydym wedi sefydlu grŵp Facebook preifat Cymuned Cymorth Dyled i helpu i roi syniadau newydd i chi fynd i’r afael â dyledion a’ch cadw’n frwdfrydig. Cais i ymuno yma.
Mae rhai budd-daliadau’n daliadau unwaith ac am byth i helpu gyda set benodol o amgylchiadau fel tywydd oer. Mae rhai eraill, fel Cymhorthdal Incwm, yn ychwanegu at eich incwm rheolaidd.
Dilynwch y ddolen isod am olwg gyffredinol ar beth sydd ar gael a sut i weld os ydych ar eich colled.
Benthyciadau brys er mwyn cael dau ben llinyn ynghyd
Mewn rhai amgylchiadau, mae’n bosibl y medrech gael benthyciad di-log gan y llywodraeth i’ch helpu i gael dau ben llinyn ynghyd ar adeg anodd.
Benthyciadau Cyllidebu
Os ydych chi ar incwm isel ac yn hawlio budd-daliadau mae’n bosibl y gallwch dderbyn Benthyciad Cyllidebu di-log oddi wrth y Gronfa Gymdeithasol. Gall hyn helpu gyda phethau fel:
- dodrefn neu offer at y tŷ
- dillad neu esgidiau
- rhent o flaen llaw neu dreuliau symud ar gyfer cartref newydd
- treuliau teithio
- arian i’ch helpu i chwilio am neu ddechrau gwaith
- gwella, cynnal a chadw neu ddiogelu eich cartref.
Canfyddwch am Fenthyciadau Cyllidebu a chael ffurflen gais ar
wefan GOV.UK.
Benthyciadau eraill
Byddwch yn ofalus dros ben gyda mathau eraill o fenthyciadau. Gall pethau fel benthyciadau diwrnod cyflog, benthyciadau llyfr log a benthyca ar stepen drws ymddangos fel ateb parod, ond gallant waethygu sefyllfa sydd eisoes yn un anodd.
Yn aml, maent yn ddull drud iawn o fenthyca arian – felly ceisiwch bob amser i ganfod ffyrdd eraill o fenthyca.
Gofynnwch i’ch teulu a allan nhw eich helpu, neu ystyriwch ymuno ag undeb credyd. Mae Undebau Credyd wedi eu sefydlu er mwyn cynnig gwasanaethau bancio i bobl a fyddent, fel arall, yn ei chael yn anodd eu cyrchu.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?