Mae cael babi’n beth gwych, ond nid yw’r daith yn rhwydd bob amser. Cynlluniwch ar gyfer y dyfodol nawr i wneud yn siŵr na fydd materion sy’n ymwneud â rheoli cyllideb y cartref yn achosi problemau’n ddiweddarach.
Torri’n ôl i helpu gyda chost babi newydd
?
Awgrym da
“Pan gewch chi fabi, mae’n beth naturiol bod yn gyffrous ond dylech yn sicr ystyried y goblygiadau ariannol.”
Emma
Os ydych chi’n ennill llai o arian fel cartref (os bydd yn rhaid i un ohonoch gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith pan gaiff y babi ei eni) ond yn wynebu costau ychwanegol, rhaid i rywbeth newid. Ystyriwch ym mha ffyrdd allech chi arbed arian - efallai rhoi’r gorau i’r tecawê ar nos Wener, yr aelodaeth o’r gampfa nad oedd yn cael ei defnyddio ryw lawer, neu roi’r gorau i feddwl am soffa neu deledu newydd.
Trafodwch yr heriau hyn â’ch partner. Os bydd y ddau ohonoch chi’n ymwybodol o’r problemau a’r cyfrifoldebau o’ch blaen, mae’n fwy tebygol y byddwch yn gallu’u datrys gyda’ch gilydd.
Cynllunydd cyllideb y teulu
?
Awgrym da
Gall fod yn anodd gwneud amser pan fydd gennych fabi, ond mae pobl sy’n rhoi amser o’r neilltu i gyllidebu ac yna dal ati bob wythnos neu’n fwy aml, yn sylwi’n gyflym ar y manteision.
Nid yw ceisio cael trefn ar gyllideb y teulu yn hawdd bob amser, ond mae help wrth law.
Astudiaeth achos
“Pan ddaethon ni at ein gilydd i ddechrau, roedd cyllidebu i ni’n golygu peidio â mynd allan gyda ffrindiau pan oedd yr arian yn dod i ben bob mis. Ond erbyn hyn, ar ôl i’n babi, Yasmin, gyrraedd, mae’n rhaid i ni fod yn fwy gofalus â’n harian. Eisteddon ni i lawr un noson gan wneud rhestr o’n holl incwm a gwariant. Cymerodd ychydig o amser, a chawsom sioc o weld bod pethau bach yn medru codi’n swm sylweddol. Wrth reswm, mae ‘na hanfodion, ond hefyd gwelson ni ble gallen ni dorri’n ôl rywfaint. Dydy’r gweddill yn y banc ddim yn iach bob tro ar ddiwedd y mis o hyd ond rwyf wedi gallu rhoi ychydig mewn cyfrif cynilo ar gyfer argyfyngau.”
– Chandra
Mae rhannu problem yn ei haneru
Mae cyfrifoldebau sy’n cael eu rhannu, fel babi newydd, yn golygu bod yn rhaid gwneud penderfyniadau ar y cyd am gyllideb y cartref.
-
Siaradwch yn agored am arian – peidiwch â chadw unrhyw gyfrinachau ariannol. Drwy wneud hyn wnewch chi ddim wynebu dim byd annisgwyl.
-
Gosodwch rai rheolau sylfaenol – cytunwch i beidio â phrynu dim byd uwchben terfyn penodol, £50 er enghraifft, heb drafod hynny â’ch gilydd i ddechrau.
-
Neilltuwch amser – mae cyllidebu ar gyfer y teulu’n bwysig. Felly, neilltuwch amser yn rheolaidd i drafod materion ariannol a chytuno yn eu cylch.
Rhaid i bob cwpl sydd wedi cael babi newydd addasu i’r heriau, nid dim ond chi.
Defnyddiwch system rhannu arian sy’n gweithio i chi
?
Awgrym da
Efallai y bydd angen i chi’ch dau dorri’n ôl ar eich gwariant er mwyn ymdopi â chost babi. Mae cyplau sydd â phlant yn gwario £289 yr wythnos yr un, o’i gymharu â £170 yr wythnos yr un ar gyfer cyplau heb blant. Mae absenoldeb mamolaeth yn iawn, ond fel arfer mae’n golygu bod llai o arian yn dod i mewn. I gyplau, gallai hyn olygu rhannu’r biliau a’r costau ar lai o incwm. Wedyn mae gennych chi ofal plant a phopeth y bydd angen ei brynu ar gyfer y babi. A mam neu thad newydd sydd ddim eisiau colli eu hannibyniaeth ariannol.
Mewn perthynas, mae sawl ffordd ar gael o rannu cyllideb y teulu. Rydym wedi disgrifio’r pedair prif ffordd isod.
Ystyriwch bob un ohonyn nhw – mae gan bob un ei fanteision a’i anfanteision – a phenderfynwch pa un sy’n addas i’ch amgylchiadau chi.
Os na fydd y ffordd honno’n gweithio, rhowch gynnig ar un arall nes dod o hyd i’r un sy’n gweithio i chi a’ch partner:
Opsiwn 1: Cadw popeth ar wahân a rhannu’r biliau’n gyfartal
Mae’r ddau ohonoch yn gofalu am eich arian eich hun ond yn cytuno naill ai i rannu pob bil neu i un ohonoch dalu am rai pethau, fel y bil siopa wythnosol, tra bydd y llall yn talu am bethau eraill, fel y rhent neu’r morgais.
Opsiwn 2: Rhannu popeth
Os ydych chi’n agored ac yn ymddiried 100% yn eich gilydd gydag arian, gallwch gyfuno’ch incwm cartref mewn cyfrif banc ar y cyd. Bydd popeth yn cael ei dalu wedyn o’r cyfrif hwnnw.
Opsiwn 3: Rhannu’ch incwm i fi, ti a ni
Fel hyn, bydd gan y ddau ohonoch eich cyfrif eich hun. Ond bydd y ddau ohonoch hefyd yn talu arian i mewn i gyfrif banc ar gyfer talu biliau’r cartref a threuliau teuluol.
Opsiwn 4: Dilyn y llwybr lwfans personol
Bydd y sawl sy’n ennill y cyflog mwyaf yn trosglwyddo swm y cytunir arno bob wythnos neu bob mis i’w partner. Bydd unrhyw arian sy’n weddill ar ôl talu treuliau’r cartref ar gael i’r partner wneud fel y mynno ag ef, gan roi rhywfaint o annibyniaeth ariannol i’r partner hwnnw.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?