Cael trefn ar yr ystâd pan nad oes ewyllys

Mae cael trefn ar ystâd os nad oes yna ewyllys yn mynd i gymryd mwy o amser na phe byddai yna ewyllys. Ond nid yw mor galed na brawychus ag y byddech yn disgwyl. Bydd ein canllaw yn dweud wrthych chi beth i’w wneud, a sut i’w wneud.

Pwy ddylai gael trefn ar yr ystâd?

Pan fydd rhywun yn marw heb lunio ewyllys gelwir hyn yn ‘farw’n ddiewyllys’.

Gall hyn olygu bod rhoi trefn ar eu hystâd ychydig yn fwy cymhleth oherwydd y gyfraith sy’n penderfynu pwy sy’n etifeddu’r ystâd yn ôl meini prawf penodol o’r enw ‘rheolau diewyllys’.

Os oes yna berthynas neu ffrind sy’n fodlon ac yn gallu rhoi trefn ar yr ystâd, yna gall wneud cais am ‘grant gweinyddu’ - a elwir hefyd yn grant cynrychioli, grant profiant, neu gadarnhad (yn yr Alban).

Mae’r grant hwn yn ei wneud yn ‘weinyddwr’ yr ystâd ac yn ei alluogi i werthuso’r ystâd, talu unrhyw ddyledion a dosbarthu’r ystâd yn unol â’r rheolau diewyllys.

Mae cael trefn ar ystâd fel arfer yn cymryd mwy o amser. Felly, gorau po gyntaf y byddwch yn ymgeisio am brofiant, er mwyn gallu dosbarthu’r ystâd i’r etifeddion.

Os nad oes unrhyw berthnasau wedi goroesi, mae ystâd yr unigolyn yn cael ei basio i’r Goron.

Yna mae Trysorlys EM yn gyfrifol am ddelio â’r ystâd.

Os byddwch yn dewis ymgymryd â’r gwaith o weinyddu’r ystâd, gallwch:

Defnyddio cyfreithiwr neu arbenigwr profiant

Mae cael trefn ar ystâd pan nad oes ewyllys yn waith anodd weithiau.

Yn arbennig os nad yw’n glir pa asedau oedd gan yr ymadawedig, neu os oes yna berthnasau teuluol cymhleth sy’n gwneud dosbarthu’r ystâd dan reolau diewyllys yn anodd.

O dan yr amgylchiadau hyn, mae’n synhwyrol ystyried defnyddio cyfreithiwr neu gyfrifydd sy’n arbenigo mewn profiant.

Gall defnyddio arbenigwr profiant hefyd wneud y broses o gael trefn ar ddiffyg ewyllys yn haws ac ychydig yn gynt, hyd yn oed ar gyfer ystadau llai cymhleth.

Os byddwch chi’n penderfynu defnyddio arbenigwr profiant, dylech gyllidebu ar gyfer nifer o filoedd o bunnoedd ar gyfer eu gwasanaethau.

Dysgwch fwy yn Pryd i ddefnyddio arbenigwr profiant.

Cael trefn ar yr ystâd eich hun

Os byddwch chi’n penderfynu mynd i’r afael â gweinyddu’r ystâd eich hun, rydych yn dal i allu talu cyfreithiwr am ei amser, os oes angen gwneud pethau fel bwrw golwg dros y cais profiant, neu gyfrifo sut i ddosbarthu’r ystâd.

Mae’r broses o gael trefn ar ystâd heb ewyllys bron yr un fath â phan fydd yna ewyllys. Gallwch ddefnyddio ein canllaw isod i gael trefn ar yr ystâd eich hun.

Mae yna hefyd ragor o wybodaeth a help ar ddelio gydag ystâd heb ewyllys ar y wefan GOV.UK.

Paratoi ar gyfer grant profiant

Mae’r cam cyntaf wrth ymgeisio am brofiant yn cynnwys rhywfaint o ‘hela’ ac ychydig o waith papur. Yn benodol, mae angen i chi ddod o hyd i rai dogfennau a gwneud copïau.

Mae angen y dogfennau hyn wrth i chi fynd trwy’r broses o gael profiant.

Chwilio am a gwneud copïau o ddogfennau pwysig

Bydd angen i chi gael o leiaf chwe chopi ardystiedig o’r dogfennau canlynol:

  • tystysgrif marwolaeth
  • tystysgrif geni
  • tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil, os oedd yr unigolyn yn briod.

Bydd angen i chi atodi copïau o’r amrywiol ddogfennau hyn i ffurflenni profiant, a chael mynediad at gyfrifon banc, buddsoddiadau neu yswiriant bywyd yr ymadawedig.

Gwerthuso’r ystâd

Cyn i chi fedru ymgeisio am brofiant, neu gadarnhad os ydych yn byw yn yr Alban, bydd angen i chi roi gwerth ar yr ystâd.

Pan gwblhewch y ffurflenni profiant, bydd angen i chi nodi beth yw gwerth yr ystâd.

I werthuso’r ystâd, rhaid i chi:

  1. Ddod o hyd i werth unrhyw asedau, fel eiddo, pensiynau preifat, cynilion, cyfranddaliadau, gemwaith, neu eitemau gwerthfawr.
    Os ydych chi’n meddwl bod eitem yn werth mwy na £500, dylech gael ei brisio’n broffesiynol.
  2. Dysgwch beth yw gwerth unrhyw roddion a roddodd yr unigolyn yn y saith mlynedd cyn marw. Bydd angen i chi gynnwys y rhain yng ngwerth yr ystâd. Mae mathau penodol o roddion a roddwyd cyn i’r person farw yn gallu arwain at dalu Treth Etifeddiant.
  3. Dysgwch faint o ddyled sydd os o gwbl, fel morgais, cardiau credyd neu fenthyciadau. Dylech gynnwys costau angladd yn rhan o’r ddyled os yw’r ystâd yn talu am yr angladd. Os oes dyled ar y cyd, bydd angen i chi gyfrifo faint yw cyfran yr ymadawedig o’r ddyled honno.
  4. Cyfrifwch faint yw gwerth yr ystâd wedi talu unrhyw ddyled.

Bydd hefyd angen i chi gyfrifo os oedd unrhyw asedau oedd dan berchnogaeth gyfunol, fel cyfrif banc neu eiddo.

Yn ddibynnol ar y math o berchnogaeth, efallai y bydd rhaid i chi ei gynnwys yng ngwerth yr ystâd.

Prisio cyd asedau

Cyn y gallwch gyfrifo gwerth cyfran ased yr ymadawedig a oedd mewn cydberchnogaeth, rhaid i chi ganfod pa fath o berchnogaeth oedd iddo.

Ymysg yr enghreifftiau o’r math yma o ased mae car, tŷ neu ddarn o dir.

Efallai y bydd wedi bod yn berchen ar yr ased hwn un ai fel:

Ased sy’n berchen fel ‘cyd-denantiaid’

  • bod gan y ddau berchennog hawliau cyfartal dros yr ased cyfan
  • mae’r ased yn trosglwyddo’n awtomatig i’r cydberchennog arall os yw un yn marw
  • ni all yr ymadawedig drosglwyddo ei berchnogaeth o’r ased yn ei ewyllys.
  • rhaid i chi brisio’r ased a’i gynnwys wrth gyfrifo’r Dreth Etifeddiant.
    Ond efallai na fydd Treth Etifeddiant i’w dalu ar yr ased hwn os yw’r gwerth o fewn y lwfans di-dreth.

Mae cyfrifon banc ar y cyd bron bob tro yn cael eu cadw fel ‘tenantiaid ar y cyd’.

Felly, er bod perchnogaeth o’r cyfrif yn pasio’n awtomatig i gyd ddeiliad y cyfrif, rhaid i chi ei gynnwys yn rhan o werth ystâd yr ymadawedig.

I roi gwerth ar gyfran yr ymadawedig o gyfrif banc ar y cyd, bydd angen i chi gael gwybod beth oedd y swm yn weddill yn y cyfrif a’i rannu gyda’r nifer o ddeiliaid cyfrif.

Fel arfer mae HMRC yn craffu cyfrifon ar y cyd gan gyplau dibriod neu gyfuniadau eraill (e.e. rhiant a phlentyn) yn agosach.

Mae hyn oherwydd mae’n bosibl na fydd yr eithriadau arferol o Dreth Etifeddiant yn gymwys, ac y gallai’r cyd ddeiliaid sy’n goroesi fod yn gyfrifol am swm penodol o dreth.

Ased sy’n berchen fel ‘tenantiaid cydradd’

  • gall pob perchennog fod yn berchen ar wahanol gyfrannau o’r ased
  • nid yw’r ased yn trosglwyddo i’r perchennog arall fel mater o drefn os yw un yn marw
  • gall yr ymadawedig drosglwyddo ei berchnogaeth o’r ased yn ei ewyllys.
  • bydd angen i chi werthuso cyfran yr ymadawedig o’r ased a’i chynnwys wrth gyfrifo’r Dreth Etifeddiant.

Ddim yn siŵr sut mae ased dan gydberchnogaeth?

Os oedd gan yr ymadawedig unrhyw asedau eraill, megis cyfranddaliadau, bydd angen i chi gysylltu â’r cwmni:

  • i weld sut berchnogaeth oedd yn bodoli
  • i gyfrifo faint oedd cyfran yr ymadawedig o’r ased a chynnwys hynny fel rhan o’r ystâd.

Ar gyfer eiddo neu dir, os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon yn ei bapurau a chofnodion, gallwch ei gael, am ffi, gan

Cyfrifo Treth Etifeddiant

Unwaith y byddwch wedi cael gwerth yr ystâd a faint o ddyled oedd gan yr ymadawedig, bydd angen i chi gyfrifo faint o Dreth Etifeddiant sy’n daladwy.

Os yw cyfanswm gwerth yr ystâd ar ôl tynnu’r dyledion dros £325,000, yna mae angen talu Treth Etifeddiant.

Mae gan y wefan GOV.UK arweiniad ar gyfrifo pa ran o’r ystâd sy’n talu Treth Etifeddiant.

Mae’r dreth yn daladwy o fewn chwe mis i’r dyddiad pan fu farw’r unigolyn. Ac fe godir llog os nad yw’n cael ei dalu o fewn chwe mis.

Felly i helpu i osgoi talu’r llog hwn, ystyriwch dalu rhywfaint neu’r cyfan o’r Dreth Etifeddiant cyn i chi orffen gwerthuso’r ystâd. Os ydych chi’n talu am hyn o’ch cyfrif eich hun, gallwch ei hawlio yn ôl gan yr ystâd.

Gwneud cais am grant profiant

Wedi i chi werthuso’r ystâd, bydd angen i chi lenwi ambell ffurflen a’u hanfon at y swyddfa Cofrestrfa Profiant agosaf.

Bydd angen i chi dalu ffi ymgeisio hefyd.

Bydd faint fydd angen i chi dalu a pha ffurflenni fydd angen i chi eu llenwi yn ddibynnol ar:

Wedi iddynt dderbyn eich cais, bydd y swyddfa brofiant yn cysylltu â chi i drefnu i chi dyngu llw.

Gallwch wneud hyn naill ai yn y swyddfa brofiant leol neu mewn swyddfa comisiynydd llwon.

Fel arfer nid oes angen i chi wneud cais am brofiant os oedd yr ystâd naill ai:

  • dan gydberchnogaeth ac felly’n pasio i’r gŵr, gwraig neu bartner sifil sy’n goroesi, neu
  • nad yw’n cynnwys tir, eiddo na chyfranddaliadau.

Os ydych yn byw yng Nghymru a Lloegr

Ar hyn o bryd, mae ffi benodol o £215, neu £155 os yw ystâd yn defnyddio cyfreithiwr i wneud cais am brofiant, yn cael ei chodi ar bob ystâd dros £5,000. Nid oes unrhyw dâl am ystadau sy’n werth llai na £ 5,000.

O fis Ebrill, bydd ystadau â gwerth o rhwng £50,000 a £300,000 yn awr yn talu ffi o £250 (ni fydd llai na £49.99 yn costio unrhyw beth).

Bydd y rheini rhwng £300,001 a hanner miliwn o bunnau bellach yn talu £750. Bydd ystadau rhwng £500,001 a miliwn yn talu £2,500. Tra y bydd ystadau mewn safle i’w chwennych o fod gwerth mwy na £2 miliwn bellach yn talu £6,000 i wneud cais i ganiatáu profiant.

Bydd diwygiad i ganiatáu profiant hefyd yn caniatáu i deuluoedd mewn profedigaeth i wneud y cais ar-lein.

Mae angen i chi lenwi:

  • Ffurflen Gais Profiant PA1
  • Ffurflen Treth Etifeddiant IHT400 os yw’r ystâd yn werth mwy na £325,000
  • Ffurflen Treth Etifeddiant IHT205 os yw’r ystâd yn werth llai na £325,000

Mae’r ffurflenni hyn ar gael i’w lawrlwytho o wefan GOV.UK

Os bu farw’r unigolyn dramor, mae yna wahanol ffurflenni i’w llenwi.

Gallwch gysylltu â’r Llinell Gymorth Profiant a Threth Etifeddiant am gymorth i gwblhau’r ffurflenni’r hyn.

Os ydych yn byw yn yr Alban

Yn ddibynnol ar faint yr ystâd, mae yna wahanol ffurflenni i’w llenwi:

Mae’r ffi gadarnhad yn amrywio gan ddibynnu ar faint yr ystâd.

Cysylltwch â’ch clerc siryf lleol i gael gwybod faint sydd angen i chi ei dalu ac am help i gwblhau’r ffurflenni.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon

Bydd angen i chi ofyn am apwyntiad gyda’ch Swyddfa Profiant leol. Unwaith y bydd gennych apwyntiad, byddant yn eich helpu i lenwi’r ffurflenni priodol.

Bydd y Swyddfa Brofiant yn gofyn i chi ddod ag amrywiol ddogfennau fel yr ewyllys a thystysgrif marwolaeth pan fyddwch chi’n mynd am eich apwyntiad.

Mae’r ffi yn £296 ar gyfer ystadau sydd werth mwy na £10,000. Nid oes ffi i’w thalu os yw gwerth yr ystâd yn llai na £10,000.

Talu Treth Etifeddiant

Os yw’r ystâd yn werth mwy na £325,000, bydd angen i chi dalu o leiaf rhywfaint os nad y cyfan o’r Dreth Etifeddiant cyn cyhoeddi profiant.

Os ydych chi’n meddwl y byddwch yn cael anhawster talu’r dreth am fod angen i chi werthu asedau o’r ystâd yn gyntaf, gallech ofyn i HMRC am ganiatáu credyd.

Mae caniatáu credyd yn golygu y gallwch gael profiant gyntaf er mwyn gwerthu’r asedau i dalu treth.

Talu dyledion a threthi

Unwaith y byddwch wedi cael profiant, gallwch gysylltu â’r sefydliadau sy’n dal asedau’r ymadawedig, fel y banc neu ddarparwr pensiwn preifat.

Byddant yn gofyn am gopi o’r profiant neu lythyr cadarnhad cyn rhyddhau’r asedau.

Yna gallwch dalu’r amrywiol ddyledion (os o gwbl) a’r trethi sy’n ddyledus.

Os yw’r asedau ar ffurf eiddo neu gyfranddaliadau, mae’n bosibl y bydd angen i chi eu gwerthu er mwyn talu’r dyledion a’r trethi.

Os ydych chi’n bwriadu gwerthu eiddo:

  • gallwch gael cyngor ar brisio eiddo a’r costau cysylltiedig yn ogystal ag awgrymiadau gwerthu ar wefan Which?
  • darllenwch ein Canllaw i werthu tŷ yn gyflym os ydych chi’n meddwl defnyddio cwmni gwerthu tai yn gyflym yn lle hynny.

Os ydych yn cael gwared ar gyfranddaliadau:

  • mae’n bosibl y byddwch chi eisiau ystyried gwneud hyn eich hun, os yw swm y cyfranddaliadau yn rhy fach. Dysgwch fwy am sut i werthu cyfranddaliadau.
  • ar gyfer portffolio cymhleth neu os yw’r cyfranddaliadau yn werth cryn dipyn, mae’n syniad da ceisio cyngor proffesiynol.
    Gallech hefyd siarad gyda chynghorydd os nad ydych yn siŵr a ydych am werthu’r cyfraddiadau hyn. Darllenwch Dewis cynghorydd ariannol am ragor o gyngor.

Dosbarthu’r ystâd yn unol â’r rheolau diewyllys

Wedi i chi dalu’r dyledion a threthi, bydd yn rhaid i chi ddosbarthu’r ystâd yn unol â’r rheolau diewyllys.

Gall y gŵr, gwraig neu bartner sifil sy’n goroesi oedd yn dal yn briod i’r ymadawedig etifeddu’r ystâd.

Gallai plant yr ymadawedig etifeddu rhan o’r ystâd hefyd os yw ei werth yn fwy na swm penodol.

Gallai perthnasau agos megis rhieni sy’n goroesi neu frodyr neu chwiorydd yr ymadawedig hefyd etifeddu’r ystâd mewn rhai sefyllfaoedd.

Mae gan bob gwlad wahanol reol ar gyfer cyfrifo pwy sy’n cael beth a faint.

Am ragor o fanylion ar gyfrifo sut i ddosbarthu’r ystâd yn unol â’r rheolau diewyllys, mae offeryn ar gael ar wefan GOV.UK gwefan.

Yng Nghymru a Lloegr

Os yw’r ystâd yn werth llai na £250,000, bydd y cymar yn etifeddu’r ystâd gyfan.

Ond os yw’r ystâd yn werth mwy na £250,000 ac mae yna blant:

  • mae’r cymar yn etifeddu gwerth hyd at £250,000 o asedau, holl eiddo personol yr ymadawedig, hanner gweddill yr ystâd.
  • mae’r hanner arall yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng y plant.
    Os oes plentyn dan 18 oed pan fydd yr unigolyn yn marw, fe gedwir ei gyfran neu ei chyfran mewn ymddiriedolaeth statudol.
    Bydd ef neu hi yn derbyn yr etifeddiaeth pan fydd yn 18 oed, neu pan fydd yn priodi neu’n mynd i bartneriaeth sifil, pa bynnag un ddaw gyntaf.

· Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.citizensadvice.org.uk/family/death-and-wills/who-can-inherit-if-there-is-no-will-the-rules-of-intestacy/ (dim bwled)

Yng Ngogledd Iwerddon

Os yw’r ystâd yn werth llai na £250,000, bydd y cymar yn etifeddu’r ystâd gyfan.

Os yw’r ystâd yn werth mwy na £250,000 ac mae yna blant:

  • bydd y cymar yn cael gwerth hyd at £250,000 o asedau a holl eiddo personol yr ymadawedig. Pe na bai unrhyw blant, byddai’n £450,000.
  • os mai dim ond un plentyn sydd, yna mae’r cymar hefyd yn cael hanner yr ystâd sy’n weddill a’r plentyn yn cael yr hanner arall.
  • serch hynny, os oes mwy nac un plentyn, mae’r priod yn derbyn traean o’r ystâd sy’n weddill, ac mae’r ddau draean sy’n weddill yn cael eu rhannu rhwng y plant.

Am ragor o wybodaeth https://www.nidirect.gov.uk/articles/what-do-if-there-no-will

Yn yr Alban

Os nad oes unrhyw blant na pherthnasau agos sy’n goroesi, y cymar sy’n cael yr ystâd i gyd.

Os oes plant, mae gan y priod hawl i’r isod, gelwir y rhain yn ‘Hawliau Prior’:

  • y tŷ hyd at werth o £473,000, neu gyfandaliad o £473,000 os yw’r tŷ yn werth mwy
  • dodrefn a nwyddau’r cartref hyd at werth o £29,000
  • hyd at £50,000 mewn arian os adawodd yr ymadawedig blant. Os na adawodd yr ymadawedig blant, yna £89,000

Ar ôl yr ‘Hawliau Prior’ mae yna ‘Hawliau Cyfreithiol’ i’r ystâd sy’n weddill:

  • byddai’r priod yn derbyn traean o’r ystâd symudol os nad oes plant. Os oes plant, yna un hanner.
  • yn yr un modd mae gan blant hawl i draean o’r ystâd symudol os oes priod, ac un hanner os nad oes priod.

Ar ôl bodloni Hawliau Cyfreithiol, mae gweddill yr ystâd yn pasio yn unol â rhestr flaenoriaeth, a amlinellir yn y Ddeddf Olyniaeth (Yr Alban) 1964.

Mae Comisiwn Cyfraith yr Alban yn edrych ar symleiddio’r rheolau ar ddiewyllys.

Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.gov.scot/publications/death-scotland-practical-advice-times-bereavement-revised-11th-edition-2016-9781786522726/

A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?