Canllaw dechreuwr i dwyll

Mae twyllwyr yn dod yn fwyfwy soffistigedig felly mae’n werth gwybod am beth i gadw golwg. Gall sgamwyr gysylltu â chi dros y ffôn, trwy e-bost, trwy neges destun, neu hyd yn oed ar garreg eich drws. Yn y canllaw hwn, rydym yn edrych ar rai o’r sgamiau mwyaf cyffredin ac yn esbonio sut i gadw’n ddiogel.

Sut i nodi twyll

Daw sgamiau ar sawl ffurf ac maen nhw’n newid ac addasu’n gyson. Ond fe allwch chi fel arfer eu hosgoi trwy wybod beth i fod yn wyliadwrus ohono a bod yn ofalus.

Mae rhai arwyddion cyffredinol a ddylai eich rhybuddio pryd bynnag y byddwch yn eu gweld.

  • Rydych chi’n derbyn galwad, neges destun, e-bost neu lythyr heb rybudd
  • Gofynnir i chi roi manylion personol neu gyfrineiriau – ni fydd eich banc fyth yn gofyn am gyfrineiriau llawn, na’ch cod PIN
  • Rydych yn cael eich gwthio i wneud penderfyniad cyflym – nid yw twyllwyr am roi amser i chi feddwl
  • Gofynnir i chi dalu ymlaen llaw
  • Dydych chi erioed wedi clywed am y gystadleuaeth y dywedir eich bod wedi ei hennill
  • Dywedir wrthych am ei gadw yn gyfrinach
  • Rydych yn cael addewid o rywbeth sy’n swnio’n rhy dda

Sut i osgoi cael eich twyllo

Os yw rhywbeth yn swnio’n rhy dda, mae’n debyg ei fod e!

  • Peidiwch ag ateb llythyrau amheus a dderbyniwch trwy’r post.
  • Os ydych chi’n derbyn galwad ffôn amheus, rhowch y ffôn i lawr a pheidiwch â datgelu unrhyw fanylion personol.
  • Mae’r un peth yn wir am negeseuon e-bost amheus – peidiwch ag ateb a pheidiwch â chlicio ar ddolenni rhyfedd, na lawrlwytho atodiadau.
  • Os oes unrhyw un yn ymddangos ar garreg eich drws a’ch bod yn amau nad yw o’r cwmni y maen nhw’n dweud ei fod yn gweithio iddo, gofynnwch i gael gweld ei gerdyn adnabod.
  • Os oes cwmni nad ydych chi’n siŵr ohono yn cysylltu â chi, gwiriwch a ydynt yn ddilys. Gallwch chwilio amdanynt ar Tŷ’r Cwmnïau, neu ddarllen adolygiadau ar-lein.
  • Cadwch eich dyfeisiau ar-lein yn ddiogel. Defnyddiwch gyfrineiriau bob amser ac osgowch rannu mynediad gydag eraill.
  • Dewiswch eich cyfrineiriau’n ofalus – defnyddiwch dri gair ar hap a pheidiwch ag ailddefnyddio’r un cyfrinair ar gyfer gwahanol gyfrifon Stora
  • Yn olaf, darllenwch y print mân bob amser. Weithiau mae’n gudd am reswm.

Beth i’w wneud os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi dioddef o dwyll

Os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi dioddef o dwyll, mae tri pheth y mae angen i chi ei wneud:

  • Rhowch y gorau i anfon arian i’r cwmni neu’r unigolion ar unwaith. Os ydych chi wedi rhannu unrhyw fanylion banc, ffoniwch eich banc a dweud wrthynt ar unwaith.
  • Adroddwch y sgiâm. Cysylltwch ag Action Fraud, canolfan adrodd ar dwyll a throsedd y DU, ar 0300 123 2040, neu defnyddiwch eu hofferyn adrodd ar-lein.
  • Byddwch yn ofalus o sgiâm ddilynol. Unwaith y byddwch wedi dioddef o sgiâm unwaith, fe allwch chi gael eich targedu gan dwyllwr gwahanol, sy’n honni y gall eich helpu i gael eich arian yn ôl.

Triciau cyffredin a beth i fod yn ymwybodol ohonynt

Gall gwybod am y triciau cyffredin mae twyllwyr yn ceisio eu defnyddio i ddwyn eich arian olygu’ch bod yn osgoi cael eich cafflo. Dyma restr o rai cyffredin i chi fod yn wyliadwrus ohonynt.

Mae cyfres o fideos byr am y gwahanol fathau o sgamiau sydd i’w cael i weld ar wefan Get Safe Online.

Gwe-rwydo

Gwe-rwydo yw pan fydd rhywun yn ceisio’ch twyllo i ddatgelu gwybodaeth bersonol fel manylion eich cyfrif banc.

Tric cyffredin yw anfon e-bost ffug atoch yn honni i fod gan eich banc neu sefydliad neu gwmni arall yr ydych yn ymddiried ynddo, fel Cyllid a Thollau EM neu PayPal, yn gofyn i chi ymweld â gwefan a mewngofnodi gyda manylion eich cyfrif banc. Mae’r safle yn edrych yn union yr un peth â gwefan eich banc, ond mewn gwirionedd safle ffug ydyw a grëwyd gan droseddwyr i gael eich manylion.

E-bost yw’r ffordd fwyaf cyffredin o wneud hyn, ond efallai y byddwch yn cael eich targedu gan negeseuon testun neu dros y ffôn. Os ydych yn amheus, gofynnwch i’w ffonio ac edrychwch i weld a yw’r rhif yn cyfateb i rif ffôn go iawn eich banc. Sicrhewch eich bod yn cael tôn ddeialu cyn i chi ffonio, rhag ofn bod y twyllwr wedi aros ar y llinell.

Rhagor o wybodaeth am we-rwydo ar wefan Action Fraud

Gwe-gorlannu

Dyma pryd fydd hacwyr yn ailgyfeirio traffig o wefan ddilys i un arall, fel safle e-fasnach neu fancio ffug.

Mae hyn yn fath llechwraidd iawn o ymosodiad, oherwydd er eich bod wedi rhoi’r wybodaeth gywir i’r safle cywir, rydych yn dal i gael eich anfon at un ffug i geisio casglu eich gwybodaeth bersonol.

Rhagor o wybodaeth am we-gorlannu gan Norton Security

Twyll ffi o flaen llaw

Gelwir hyn hefyd yn ‘dwyll 419’ neu’r ‘twyll banc Nigeraidd’.

Byddwch yn derbyn negeseuon e-bost gan bobl yn hawlio i fod yn gyn weinidogion neu’n deulu brenhinol o wledydd eraill, yn aml yn Affrica, yn gofyn a allant ddefnyddio eich cyfrif banc i adneuo swm mawr o arian er mwyn ei gael allan o’r wlad. Fel arfer byddant yn cynnig talu ffi fechan i chi.

Byddant yn gofyn am eich manylion banc ac efallai hefyd y gofynnir i chi anfon arian i dalu am ffioedd cyfreithiol ac ati. Ond nid oes unrhyw arian a byddwch ar eich colled. Mae yna hefyd dwyll tebyg yn dod o Tsiena yn ymwneud ag ewyllysiau.

Mwy o wybodaeth am negeseuon e-bost a llythyrau 419 ar wefan Action Fraud

Hysbysiad twyll Sgêm Llythyr Tsieineaidd gan wefan yr Heddlu Metropolitan

Twyll canlyn

Bydd rhai twyllwyr yn cysylltu â chi ar wefan i chwilio am gariadon. Byddant yn dweud o’r cychwyn eu bod yn byw dramor ac yn anfon e-bost atoch, gan ddod i’ch adnabod dros gyfnod o amser a bod yn gariadus a rhamantus.

Wedi sefydlu cyswllt gyda chi, byddant yn dechrau gofyn am arian ar gyfer perthynas sy’n sâl neu am docyn awyren i ddod i ymweld â chi – ac yn fodlon cymryd eich arian ond byth yn ymddangos.

Rhagor o wybodaeth am dwyll canlyn ar wefan Action Fraud

Mulod Arian

Yma fe allech fod yn torri’r gyfraith yn ddiarwybod i chi ac yn helpu troseddwyr trwy ddefnyddio eich cyfrif banc i dderbyn arian sydd wedi ei ddwyn, ac yna ei anfon ymlaen a derbyn comisiwn am helpu. Byddech yn torri’r gyfraith trwy wyngalchu arian.

Rhagor am Fulod Arian ar wefan Action Fraud

Ystafelloedd boeler

Gelwir hefyd yn ‘pwmpio a dympio’, dyma dwyll ble mae rhywun yn cysylltu â chi yn ddirybudd yn honni i fod yn fasnachwyr y farchnad stoc ac yn ceisio’ch darbwyllo i brynu cyfranddaliadau sydd naill ai ddim yn bodoli neu bron a bod yn ddiwerth ac yn anodd eu gwerthu.

Efallai y cynigir awgrymau da cyfrinachol ar y farchnad stoc i chi i wneud y cyfan yn fwy credadwy ac yr anfonir tystysgrifau ffug atoch i geisio gwneud i’r busnes edrych yn fwy cyfreithlon. Yna bydd y twyllwyr yn diflannu gyda’ch arian.

Popeth am sgamiau twyll ystafell boeler ar wefan Action Fraud

Twyll cerbyd

Mae yna sawl twyll yn ymwneud â phrynu a gwerthu ceir.

Efallai y byddwch wedi prynu cerbyd gafodd ei ddwyn neu gar wedi ei glonio ble newidiwyd manylion y car i gyd-fynd â cherbyd cyfreithlon. Gallech fod yn talu am gar na fyddwch fyth yn ei weld neu un nad yw’n cyd-fynd â’r hyn y taloch amdano.

Cyngor am brynu a gwerthu cerbydau yn ddiogel o wefan yr Heddlu Metropolitan

Twyll ocsiwn ar-lein

Gyda thwf mewn safleoedd ocsiwn ar-lein, mae yna dwyllwyr fydd yn cofrestru fel twyllwyr ffug sy’n edrych fel pe baent wedi talu am y nwyddau y byddwch yn anfon atynt. Y broblem yw bod y taliad yn cael ei wrthod. Neu efallai y bydd gwerthwyr ffug sy’n cymryd eich arian ond yna ni fyddant yn anfon y nwyddau, neu’n anfon rhywbeth sy’n llai gwerthfawr neu’n wahanol iawn i’r disgrifiad.

Awgrymiadau i brynwyr a gwerthwyr i osgoi twyll ocsiwn o wefan Action Fraud

Twyll swyddi

Mae yna sawl math o dwyll swyddi sy’n amrywio o addewid o yrfa newydd, ble gofynnir i chi dalu o flaen llaw am hyfforddiant neu ddeunyddiau, i gael cynnig swyddi dramor nad ydynt yn bodoli ble gofynnir i chi dalu am ffi i drefnu fisâu a llety.

Cyngor ar osgoi twyll cyflogaeth o wefan Action Fraud

Efallai y byddwch hefyd yn cael eich dal gan gynllun gweithio o gartref ble dywedir wrthych y byddwch yn gwneud arian hawdd ac efallai y bydd rhaid i chi dalu ffi o flaen llaw i gofrestru. Fodd bynnag, mae’r ‘addewid’ neu gynnyrch yn profi i fod yn ddiwerth ac – yn waeth fyth – efallai y gwerthir eich manylion cofrestru i dwyllwyr eraill.

Hysbysiad twyll gweithio-gartref o wefan yr Heddlu Metropolitan

Twyll iechyd

Os byddwch yn gweld neges e-bost neu hysbyseb yn cynnig ‘iachâd gwyrthiol’ ar gyfer moelni, canser, analluedd, acne neu golli pwysau, yna cadwch yn glir.

  • Efallai y cynigir rhywbeth i chi sy’n ymddangos i fod yn feddyginiaeth amgen cyfreithiol, ond nid yw’n gweithio mewn gwirionedd
  • Neu efallai’ch bod yn meddwl eich bod yn cael cyffuriau a meddyginiaethau yn rhad iawn neu heb bresgripsiwn ond mae’n bosibl na fyddant y peth go iawn – os byddant yn cyrraedd o gwbl

Mewn rhai achosion, gall y meddyginiaethau hyn niweidio’ch iechyd.

Rhagor am sgamiau ar wefan Action Fraud

Twyll cystadlaethau tynnu tocyn, swîp a loteri

Efallai y byddwch yn derbyn llythyr neu e-bost yn dweud eich bod wedi ennill loteri, swîp neu gystadleuaeth arall ac yn cynnig gwobr fawr i chi. Yna gall y twyll fod ar sawl ffurf wahanol:

  • Efallai y gofynnir i chi anfon swm bychan o arian er mwyn ei hawlio fel ffi brosesu neu ffi gyfreithiol – ond mewn gwirionedd nid oes unrhyw wobr a byddwch yn colli’r arian
  • Efallai y gofynnir i chi brofi’ch hunaniaeth gyda phasbort – sydd yna’n cael ei ddefnyddio gan y twyllwyr i ddwyn eich hunaniaeth
  • Efallai y gofynnir i chi ddarparu manylion eich cyfrif banc er mwyn iddynt allu talu’r arian i mewn, ond yna fe ddefnyddir yr wybodaeth hon i glirio’ch cyfrif
  • Efallai y dywedir wrthych eich bod wedi ennill gwobr a bod angen i chi ffonio rhif arbennig i’w hawlio. Yna bydd yr alwad yn mynd i rif cyfradd premiwm, yn cymryd amser maith ac yn costio mwy na gwerth y wobr yr ydych wedi ei hennill

Rhagor am sgamiau raffl ar wefan Action Fraud

Twyll eiddo

Os bydd rhywun yn cynnig cynllun eiddo i’ch gwneud yn gyfoethog yn gyflym, yna mae sawl ffordd ble gallent fod yn ceisio’ch twyllo.

  • Efallai y cynigir ffordd i chi brynu i mewn i ddatblygiad nad yw wedi ei adeiladu eto gyda phob math o honiadau am yr elw a wnewch – ond mae’r tir naill ai’n dir fferm neu’n ddiffaith ac ni fydd fyth yn cael caniatâd cynllunio, neu nid yw’n addas i’w ddatblygu felly byddwch yn colli’ch arian. Weithiau fe elwir y math hwn o dwyll yn ‘bancio tir’ hefyd
  • Efallai y bydd twyllwr yn dwyn gweithred eiddo rhywle ac yn esgus mai nhw yw’r perchennog ac yna’n ceisio benthyg arian yn erbyn yr eiddo

Dysgwch fwy am y gwahanol fathau o dwyll eiddo ar wefan Action Fraud

Darllenwch am sgamiau bancio tir ar wefan yr Awdurdod Ymddygiad Gwasanaethau Ariannol

Twyll wyneb yn wyneb

Mae yna nifer o staff cyfreithlon sy’n gwerthu o ddrws i ddrws – ond nid yw bwriadau rhai o’r gweddill cystal. Efallai y byddwch yn cael eich pwyso i brynu rhywbeth nad ydych eisiau neu nad yw werth yr arian y byddwch yn talu amdano.

Gall fod sawl ffurf i dwyll gan fasnachwyr ffug:

  • Casglwyr elusen ffug
  • Gwerthu contractau annheg neu anaddas i chi
  • Gwaith cynnal a chadw neu welliannau ble codir gormod arnoch neu fydd wedi eu gwneud yn wael, neu
  • Lladron posibl sy’n dod i edrych a oes gennych bethau gwerthfawr yn eich cartref

Rhagor am dwyll gan fasnachwyr ffug ar wefan Action Fraud

Twyll pensiwn

Bydd twyllwyr pensiwn yn dweud wrthych eu bod yn gwybod am ddihangfa sy’n eich galluogi i gael gafael ar rywfaint o’ch arian pensiwn cyn i chi ymddeol. Er y gallwch wneud trefniadau i gael arian allan os ydych yn 55 oed neu’n hŷn, mae’n debygol o fod yn dwyll os gwelwch honiadau sy’n dweud:

  • Gallwch gael arian parod cyn eich bod yn 55 oed
  • Gallwch gael mwy o arian parod nag y gallech dan eich cynllun cyfredol, neu
  • Gallwch drefnu i fwy na 25% o werth y pensiwn gael ei “ryddhau”

Efallai y byddant yn codi ffi arnoch neu achosi bil treth mawr ichi.

Gwelwch ragor am dwyll pensiwn ar wefan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol

Twyll a sgamiau ffôn

Sgiâm ffôn yw pan fydd twyllwyr yn eich ffonio chi ac yn ceisio’ch cael i rannu gwybodaeth bersonol, cyfrineiriau, neu eich cael i awdurdodi trosglwyddiad banc hyd yn oed. Maen nhw’n aml yn gwneud hyn trwy honni eu bod yn gynrychiolwyr o’r banc, neu’r heddlu hyd yn oed.

Cofiwch, ni fydd eich banc fyth yn gofyn i chi am gyfrineiriau llawn, codau PIN, nac i drosglwyddo arian i gyfrif arall.

Mewn rhai achosion gallai’r twyllwr esgus ei fod yn cynrychioli’ch banc, gan ddweud wrthych fod eich cyfrif wedi’i beryglu a bydd yn gofyn i chi ei ffonio’n ôl ar rif ffôn cywir y banc. Serch hynny, bydd y twyllwr yn aros ar y llinell ac yn rhyng-gipio’ch galwad, felly mae’r wybodaeth yr ydych chi’n meddwl eich bod yn ei rhoi i’ch banc yn mynd i’r twyllwr mewn gwirionedd.

Os credwch chi fod rhywun yn ceisio’ch twyllo chi ar y ffôn, y peth gorau i’w wneud yw rhoi’r ffôn i lawr a pheidio â ffonio yn ôl. Serch hynny, os byddwch chi’n penderfynu galw yn ôl:

  • Arhoswch 10 munud, neu hyd yn oed yn well, ffoniwch yn ôl ar linell wahanol
  • Ffoniwch yn ôl ar rif swyddogol. Er enghraifft, defnyddiwch y rhif ar gefn eich cerdyn banc

Ym mis Gorffennaf 2015, rhybuddiodd yr Ombwdsmon Ariannol nad yw banciau gan amlaf yn atebol am golledion oherwydd twyll ffôn.

Mae rhagor o wybodaeth am dwyll ffôn ar y wefan Get Safe Online.

Camau nesaf

Mae yna sawl ffordd o’ch perswadio i wario’ch arian. Edrychwch ar ragor o sefyllfaoedd twyll posibl fel eich bod yn gwybod beth i’w osgoi.

Canfyddwch ragor am sgamiau posibl ar wefan Action Fraudyn agor mewn ffenestr newydd

Mwy o sgamiau posibl

Mae yna sawl ffordd i dwyllwyr geisio eich cael i roi eich arian iddynt. Efallai y byddant yn dwyn gwybodaeth o’ch cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, trwy gysylltiadau Diwifr cyhoeddus, neu hyd yn oed trwy amrywiol fathau o dwyll yswiriant.

A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?