Beth yw’r cap budd-daliadau? Faint ydyw? Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybod i chi am y cap budd-daliadau, yn cynnwys pwy sy’n cael ei effeithio a phwy sydd wedi’i eithrio.
Beth yw’r cap budd-daliadau?
Os ydych rhwng 16 a 64 oed, efallai y bydd terfyn ar gyfanswm y budd-daliadau y gall eich cartref eu cael. Yr enw ar hwn yw cap budd-daliadau. Os yw eich incwm dros y terfyn hwn, efallai y bydd eich Budd-dal Tai yn cael ei leihau.
Sut mae’r cap budd-daliadau yn gweithio?
Os ydych yn cael budd-daliadau penodol, mae yna derfyn ar faint o incwm y gallwch gael.
Os yw’ch incwm yn mynd uwchben y swm hwn, bydd eich Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol yn dal wedi ei ostwng nes bydd eich incwm yn syrthio islaw’r terfyn.
Byddwch wedi eich eithrio o’r cap budd-daliadau os ydych yn cael Credyd Treth Gwaith neu rai budd-daliadau anabledd.
Os nad ydych yn cael Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol, ni fyddwch wedi eich effeithio gan y cap ar fudd-daliadau.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon
Cafodd y cap budd-daliadau ei gyflwyno yng Ngogledd Iwerddon ar 31 Mai 2016.
Darganfyddwch ragor am y cap budd-daliadau yng Ngogledd Iwerddon ar wefan nidrect
Faint yw’r cap budd-daliadau?
Mae yna wahanol derfynau, yn ddibynnol ar p’un a ydych yn byw yn Llundain neu yn rhywle arall. Efallai yr effeithir arnoch os ydych yn derbyn mwy na’r symiau dilynol mewn budd-daliadau:
Uchafswm budd-daliadau |
Pwy fydd hyn yn effeithio arnynt |
£1,916.67 y mis (£442.31 yr wythnos) yn Llundain; £1,284.17 y mis (£384.62 yr wythnos) tu allan i Lundain |
- Os yw’ch cartref yn cynnwys cwpl (gyda neu heb blant), neu
- Os ydych yn rhiant sengl (ac mae gennych blant sy’n byw gyda chi yr ydych yn gyfrifol amdanynt wrth gyfrifo’ch Budd-dal Tai)
|
£1,666.67 y mis (£296.35 yr wythnos) yn Llundain; £1116.67 y mis (£257.69 yr wythnos) tu allan i Lundain |
Os ydych yn berson sengl a naill ai:
- Nad oes gennych blant, neu
- Nad oes gennych blant sy’n byw gyda chi yr ydych yn gyfrifol amdanynt wrth gyfrifo’ch Budd-dal Tai
|
Eithriadau i’r cap budd-daliadau
Ni fydd y cap budd-daliadau yn effeithio arnoch os ydych chi neu’ch partner:
- yn hawlio Credyd Treth Gwaith, hyd yn oed os dyfarnir dim byd o gwbl i chi
- dros oed Credyd Pensiwn
- yn cael Credyd Cynhwysol yn sgil anabledd neu gyflwr iechyd sy’n eich atal rhag gweithio, neu oherwydd eich bod yn gofalu am rywun sydd ag anabledd
- yn cael Credyd Cynhwysol a bod incwm misol eich cartref yn fwy na £520 ar ôl treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Ni chewch eich effeithio gan y cap budd-daliadau os ydych chi, eich partner neu unrhyw blant dan 18 oed sy’n byw gyda chi yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau hyn:
- Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- Lwfans Gweini
- Lwfans Gofalwr
- Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (os cewch yr elfen gymorth)
- Lwfans Gwarcheidwad
- Budd-daliadau Anafiadau Diwydiannol (a thaliadau cyfwerth fel rhan o Bensiwn Anabledd Rhyfel neu Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog)
- Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP)
- Pensiynau rhyfel
- Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw neu Ŵr Gweddw.
Os nad ydych yn hawlio unrhyw un o’r budd-daliadau hyn ac yn meddwl bod gennych hawl i wneud, gallai fod o fudd i gyflwyno cais.
Pa fudd-daliadau a gynhwysir yn y cap budd-daliadau?
Cynhwysir y budd-daliadau dilynol wrth gyfrifo a yw uchafswm eich incwm o fudd-daliadau’n fwy na’r cap:
- Lwfans Profedigaeth
- Budd-dal plant
- Credyd Treth Plant
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (oni bai eich bod yn cael yr elfen cymorth)
- Budd-dal Tai
- Budd-dal Analluogrwydd
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith
- Lwfans Mamolaeth
- Lwfans Anabledd Difrifol
- Lwfans Rhiant Gweddw
- Lwfans Mam Weddw
- Pensiwn Gweddw
- Lwfans Mam Weddw
- Pensiwn Gweddw.
Pa fudd-daliadau nas cynhwysir yn y cap?
- Taliad Profedigaeth
- Taliad Tai Dewisol
- Help gyda’r Dreth Gyngor (er enghraifft gan gynllun cymorth eich cyngor lleol)
- Credyd Pensiwn
- Taliadau gorchymyn preswyliad
- Taliadau’r Gronfa Gymdeithasol (er enghraifft, Benthyciadau Cyllidebu, Taliadau Tywydd Oer, Taliadau Angladd)
- Blaendaliadau Tymor Byr tra’ch bod yn aros am eich taliad budd-dal cyntaf
- Pensiwn Ymddeoliad y Wladwriaeth
- Taliad Tanwydd Gaeaf
- Taliadau un-tro a wneir gan eich awdurdod lleol i’ch helpu mewn argyfwng
- Buddion anariannol, er enghraifft, prydau ysgol am ddim
- Tâl Statudol (er enghraifft Tâl Salwch, Tâl Mamolaeth, Tâl Tadolaeth neu Dâl Mabwysiadu).
Sut mae’r cap budd-daliadau yn gweithio?
Os ydych yn cael mwy na’r cap budd-daliadau, bydd eich Budd-dal Tai yn gostwng i sicrhau nad yw cyfanswm eich budd-daliadau yn uwch na lefel y cap.
Os bydd hyn yn digwydd bydd yn rhaid ichi ddefnyddio arian o’ch budd-daliadau eraill i dalu tuag at y rhent am eich cartref.
Yn yr hirdymor, caiff y cap budd-daliadau ei weithredu fel rhan o’r system Credyd Cynhwysol newydd.
Gweithredwch
Gwyliwch ein fideo - Poeni am dalu’r rhent?
Cysylltwch â’ch landlord
Os ydych yn poeni am ddod o hyd i’r arian i dalu’ch rhent, y peth cyntaf y dylech ei wneud yw siarad â’ch landlord i egluro’ch sefyllfa ac i siarad am eich opsiynau.
Os ydych yn rhentu eiddo tai cymdeithasol, mae’n bosibl y bydd eich cyngor neu gymdeithas adeiladu’n gallu cynnig eiddo rhatach ichi (os oes rhai ar gael).
Gwenwch gais i’ch awdurdod lleol am Daliad Tai Dewisol
Efallai y gallech wneud cais i’ch cyngor am gymorth yn y tymor byr gyda Thaliad Tai yn ôl Disgresiwn.
Lluniwch gyllideb
Os nad oes gennych gyllideb i’ch aelwyd eisoes (rhestr o’ch holl incwm a thaliadau) yna dyma’r adeg i lunio un.
Ac os oes gennych gyllideb, bydd angen i chi weld a allwch chi gael dau ben llinyn ynghyd ar ôl i’ch Budd-dal Tai gael ei ostwng.
Edrychwch ar ffyrdd i gwtogi ar gostau
Hefyd efallai y bydd yn ddefnyddiol ichi ddarllen rhai o’n tudalennau ar arbed arian ar filiau’r cartref.
Siopa’n graff: awgrymiadau syml a chyngor ar sut i arbed arian i chi
Mynnwch help wrth ichi chwilio am swydd
Darllenwch fwy am ddod o hyd i swydd ar wefan GOV.UK.
Ysgwyddwch ragor o waith
Gallech hefyd ystyried cymryd swydd arall, neu weithio mwy o oriau yn eich swydd bresennol.
Darllenwch ein canllaw Treth a thâl ail swydd i ddysgu rhagor am dreth pan fyddwch chi’n gweithio mewn mwy nag un swydd.
Cael rhagor o wybodaeth
Darganfyddwch ragor am y cap budd-daliadau ar y wefan GOV.UKopens in new window.