Os ydych wedi datblygu cyflwr iechyd neu wedi dod yn anabl, mae’n debyg y byddwch yn dymuno gwybod a allwch gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith, gweithio oriau mwy hyblyg, neu wneud addasiadau i’ch swydd neu i’ch gweithle. Dyma grynodeb o’ch hawliau cyfreithiol yn y gwaith a chefnogaeth i’ch cadw mewn gwaith.
Eich hawliau cyfreithiol fel gweithiwr anabl
Mae gan bob cyflogai hawliau. Er enghraifft, mae gennych hawl i gael gwyliau â thâl a chael eich talu’r isafswm cyflog cenedlaethol o leiaf. Os ydych yn weithiwr anabl, mae gennych hawliau ychwanegol yn y gwaith.
Beth yw eich hawliau fel gweithiwr anabl?
Yn gyfreithiol, ni all eich cyflogwr:
- wahaniaethu yn eich erbyn gan eich bod yn anabl
- rhaid i’ch cyflogwr gadw’ch swydd yn agored ar eich cyfer ac ni all roi pwysau arnoch i adael y swydd wrth eich bod yn anabl bellach
- rhaid i’ch cyflogwr wneud addasiadau rhesymol yn eich gweithle, i’ch swydd, neu i amodau a thelerau eich cyflogaeth
Ar gyfer pwy mae deddfwriaeth anabledd yn gymwys?
Mae’n bosibl y bydd yr hawliau ychwanegol hyn yn gymwys i chi, hyd yn oed os nad ydych yn ystyried eich hun yn unigolyn anabl. Er enghraifft os oes gennych gyflwr corfforol fel canser, MS neu HIV, neu salwch meddwl fel iselder.
Mae’r ddeddfwriaeth yn gymwys i unrhyw unigolyn sydd ag ‘amhariad corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a hirdymor’ ar ei allu i gynnal gweithgareddau beunyddiol. Am ragor o wybodaeth am yr hyn sy’n gymwys fel amhariad corfforol neu feddyliol, gofynnwch i gynghorwr profiadol fel un o Gyngor ar Bopeth.
Addasiadau rhesymol
?
A wyddech chi?
Mae gan un o bob pedwar gweithiwr yn y DU gyflwr neu amhariad iechyd hirdymor.
Ffynhonnell: Arolwg o’r Llafurlu
Mae’n rhaid i’ch cyflogwr wneud ‘addasiadau rhesymol’ fel nad ydych yn cael eich rhoi mewn sefyllfa o anfantais yn y gweithle.
Gallai’r rhain gynnwys:
- oriau gweithio hyblyg, amser i ffwrdd ar gyfer apwyntiadau neu ragor o gyfnodau o’r gwaith
- rhoi dyletswyddau amgen i chi neu eich symud i weithle mwy addas
- defnyddio cyfarpar a addasir yn arbennig - er enghraifft eich cyfrifiadur, bysellfwrdd, ffôn, cadair neu ddesg
- addasu’r gweithle, er enghraifft drwy ddarparu rampiau
- darparu gwasanaethau ychwanegol, fel rhywun i ddehongli
Cyn gofyn i’ch cyflogwr am addasiadau o’r fath, mae’n syniad da canfod beth lwyddodd eraill yn eich sefyllfa i’w gael a oedd yn ddefnyddiol. Os ydych yn aelod o undeb llafur, efallai y gall fod o gymorth. Neu, cysylltwch â sefydliad ar gyfer pobl sydd ag anaf, salwch neu anabledd tebyg.
Dewch o hyd i ddolenni i grwpiau anabledd a sefydliadau penodol ar
wefan Scope.
Nid oes yn rhaid i’ch cyflogwr wneud popeth a ofynnwch amdano. Rhaid i’r addasiad fod yn ‘rhesymol’ ac os bydd rhywbeth yn rhy ddrud efallai na fydd yn gymwys felly.
Os bydd eich cyflogwr yn gwrthod gwneud addasiadau rhesymol
Os bydd eich cyflogwr yn gwrthod gwneud addasiadau rhesymol y gofynnoch amdanynt, dylech geisio cyngor ynglŷn â sut i ddatrys y broblem. Os na fyddwch yn llwyddiannus wedi hynny, gallwch fynd â’r mater ymhellach.
Amser i ffwrdd o’r gwaith
Tâl Salwch Statudol
Os ydych wedi datblygu anabledd neu gyflwr iechyd sy’n golygu na allwch weithio, efallai y gallwch gael Tâl Salwch Statudol. Dyma’r isafswm yr ydych yn gymwys i’w gael. Mae gan rai cyflogwyr eu cynllun tâl salwch eu hunain sydd yn fwy hael.
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a Chredyd Cyffredinol
Os na allwch weithio wedi 28 wythnos gallwch wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Credyd Cyffredinol.
Dysgwch a allech chi hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar
wefan GOV.UK.
Absenoldeb Anabledd
Nid yw’n ofynnol i’ch cyflogwr adael i chi gael absenoldeb salwch â thâl ychwanegol gan fod eich amser i ffwrdd yn gysylltiedig ag anabledd.
Serch hynny, gallwch ofyn iddynt:
- ymestyn eich tâl salwch
- adael i chi gymryd yr amser ychwanegol i ffwrdd fel gwyliau blynyddo
- gynnig ‘Absenoldeb Anabledd’ â thâl i chi
Nid yw pob cyflogwr yn cynnig Absenoldeb Anabledd. Mae’r rhai sydd yn ei gynnig yn ei gofnodi ar wahân i’ch absenoldeb salwch. Gallwch ddefnyddio eich Absenoldeb Anabledd:
- i gymryd amser i ffwrdd am driniaeth neu asesiad
- i’ch galluogi i wella o’r driniaeth
- i gymryd amser heb ei drefnu i ffwrdd o’r gwaith mewn perthynas â’ch anabledd neu’ch cyflwr, a fyddai wedi ei gofnodi fel absenoldeb salwch fel arall
Os ydych yn aelod o undeb llafur, efallai y gallent fedru negodi eich Absenoldeb Anabledd gyda’ch cyflogwr ar eich rhan.
Os ydych yn disgwyl am addasiadau rhesymol gael eu cwblhau
Os ydych yn absennol o’r gwaith wrth i’ch cyflogwr drefnu addasiadau rhesymol gael eu gwneud, dylid cofnodi hyn fel ‘absennol o’r gwaith’.
Dychwelyd i’r gwaith yn raddol
Mae cynyddu eich oriau gweithio, neu weithio o adref cyn i chi ddychwelyd i’r swyddfa yn ddwy ffordd gyffredin o roi cymorth i bobl ddod yn ôl i weithio ar ôl bod ar absenoldeb salwch.
Mae’r dychwelyd i’r gwaith yn raddol yma yn cyfrif fel addasiad rhesymol. Gallwch ei drefnu’n uniongyrchol â’ch cyflogwr, gyda chyngor gan eich meddyg teulu, nyrs neu therapydd galwedigaethol.
Y cynllun Mynediad i Waith
?
Siaradwch  chynghorwr cyflogaeth i’r anabl
Cysylltwch â’ch Canolfan Byd Gwaith leol i siarad â chynghorwr cyflogaeth i’r anabl a all roi cymorth i chi gael mynediad at gynlluniau gan y llywodraeth ar gyfer pobl anabl.
Gall grant Mynediad i Waith gael ei ddefnyddio i dalu am gymorth ymarferol i’ch helpu i ddiogelu’ch swydd os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd.
Gall yr arian gael ei ddefnyddio i dalu am bethau fel:
- addasu’r offer a ddefnyddiwch yn y gwaith
- prynu offer arbenigol newydd
- rhoi cymorth gyda chostau teithio os na fedrwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i ddod i’r gwaith
- cael gweithiwr cymorth neu hyfforddwr swydd i roi cymorth i chi yn eich gweithle
Os oes gennych chi gyflwr iechyd meddwl ac yn absennol o’r gwaith neu’n cael anhawster yn y gwaith, mae cymorth ar gael gan wasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl y Gweithle. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhan o’r cynllun Mynediad i Waith.
Dysgwch ragor am y gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl y Gweithle ar
wefan Remployopens in new window.