Cipolwg ar gynilion arian parod
Mae dewis rhwng opsiynau cynilo yn haws na’r disgwyl. Mae cannoedd o gyfrifon, ond dim ond rhai mathau o gyfrifon – rhai er mwyn cael mynediad hawdd at arian mewn argyfwng, rhai ar gyfer cynilo’n rheolaidd a rhai ar gyfer tyfu eich arian. Edrychwch ar y tabl i weld pa un sydd fwyaf addas ar eich cyfer chi..
Cyfrifon cynilo unigol
|
Mathau o gyfrifon cynilo arian parod |
Cyfrifon dim rhybudd a chyfrifon lle bydd eich arian ar gael yn hawdd |
Y lle ar gyfer eich cynilion ar gyfer argyfwng. Efallai y byddant yn talu mwy o log na chyfrif cyfredol cyffredin, a bydd yr arian wrth law pan fydd ei angen arnoch. |
Cyfrifon cynilo rheolaidd |
Er mwyn cynilo cyfran fisol o’ch incwm. Ceir rheolau o ran faint y gallwch ei dalu i mewn a’i godi, ond byddwch yn cael cyfradd llog ychydig yn uwch. |
Cyfrifon adnau tymor sefydlog |
Er mwyn rhoi arian o’r neilltu am gyfnod penodedig. Pennir cyfradd llog sefydlog ymlaen llaw, felly byddwch yn gwybod yn union faint y byddwch yn ei gael. |
Cyfrifon sy’n gysylltiedig â mynegeion |
Fel cyfrifon adnau tymor sefydlog, ond bydd y gyfradd llog yn newid yn unol â chwyddiant – ni fyddwch yn gwbl siŵr faint y byddwch yn ei gael ar ddiwedd y tymor. |
Cyfrifon ISA Arian Parod (di-dreth) |
Cynilion didreth. Byddwch yn cael lwfans blynyddol – felly manteisiwch i’r eithaf! Fel arfer mae ISA Arian Parod yn gyfrif cynilo neu gyfrif adnau syml. Gallwch gael ISA Arian Parod o 16 oed, neu ISA i Bobl Iau i blant o dan 18 oed. |
Mae gwefannau cymharu yn lle da i gychwyn ar gyfer unrhyw un sy’n ceisio dod o hyd i gyfrif cynilo addas.
Argymhellwn y gwefannau canlynol er mwyn cymharu cyfrifon cynilo:
Cofiwch:
- Ni fydd pob un gwefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly cofiwch ddefnyddio mwy nag un gwefan cyn gwneud penderfyniad.
- Felly mae’n bwysig gwneud tipyn o waith ymchwil i mewn i’r math o gynnyrch neu nodweddion a ddymunwch cyn prynu neu newid darparwr.
- Dysgwch ragor yn ein canllaw ar wefannau cymharu.
Y camau nesaf
- Yn ansicr beth i’w ddewis? Cliciwch ar y mathau o gyfrifon yn y tabl i ddarllen mwy
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?