Yn Lloegr, caniatawyd i werthwyr tai, cwmnïau symud a chludwyr i ailagor. Fodd bynnag, yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon mae cyfyngiadau mewn lle o hyd sy’n atal pobl rhag edrych ar dai a chyfyngu ar werthiannau tai.
Rhentwyr a landlordiaid
Yn Lloegr, nid yw rhentwyr sy’n edrych i symud i mewn i eiddo newydd a landlordiaid sy’n ceisio rhentu eiddo allan bellach yn wynebu cyfyngiadau ar hysbysebu, edrych ar eiddo a symud.
Fodd bynnag, gallai’r broses hon fod yn anoddach nag o’r blaen, felly anogir pawb sy’n cymryd rhan i fod yn hyblyg.
Yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, mae cyfyngiadau yn dal i fodoli, felly dylech ohirio cynlluniau ar gyfer symud neu rentu eiddo nes i’r cyfyngiadau gael eu codi.
?
A oes gennych chi gwestiwn?
Bydd ein cynghorwyr yn rhoi’r arweiniad cywir i chi.
Dechreuwch wesgwrs ar-lein neu ffoniwch ni ar 0800 138 1677
Os ydych yn landlord, gallwch gymryd mantais o’r gwyliau talu morgais am dri mis os ydych yn cael trafferth i dalu eich ad-daliadau morgais ar eich eiddo prynu i osod.
Os ydych yn rhentu ar hyn o bryd ac yn edrych i symud i eiddo newydd, siaradwch â’ch landlord presennol i weld os gallwch ymestyn eich tenantiaeth.
Os ydych eisoes wedi cytuno’r gwerthiant
?
Ymunwch â’n grŵp Facebook, Coronafeirws a’ch Arian, am newyddion ariannol a’r wybodaeth ddiweddaraf cyn gynted ag y byddwn yn eu cael, yn ogystal â lle i ofyn cwestiynau ariannol, rhannu pryderon a helpu pobl eraill.
Os ydych eisoes wedi cytuno ar werthiant, nid oes angen i chi dynnu allan o’r trosglwyddiad.
Fodd bynnag, gallai symud tŷ fod yn anoddach nag o’r blaen, felly anogir pawb i fod yn hyblyg
Os yw’r eiddo rydych yn symud iddo yn wag, yna gallwch barhau i fynd yn eich blaen, ond dylech ddilyn canllawiau’r llywodraeth er mwyn osgoi dod i gysylltiad â phobl eraill i leihau lledaeniad coronafeirws.
Os yw’r eiddo eisoes wedi’i feddiannu, yna dylai’r holl bartïon weithio gyda’i gilydd i ohirio’r dyddiad tan ar ôl i’r cyfyngiadau gael eu codi.
Mae UK Finance wedi cyhoeddi bod pob benthyciwr morgais yn gweithio gyda chwsmeriaid i ymestyn cynigion morgais hyd at dri mis er mwyn caniatáu iddynt symud i mewn yn nes ymlaen.
Bydd benthycwyr hefyd yn gweithio gyda chi os bydd eich amgylchiadau’n newid yn ystod y tri mis hyn, neu os bydd telerau pryniant tŷ yn newid yn sylweddol.
Os na ellir osgoi symud cartref, fe’ch anogir i gadw draw oddi wrth eraill i leihau lledaeniad coronafeirws.
Os yw eich tŷ ar y farchnad
Yn Lloegr, os yw eich tŷ eisoes ar y farchnad, gallwch barhau i’w hysbysebu a gall gwerthwyr tai gynnal gwyliadau o dan reolau pellhau cymdeithasol.
Gallwch gwblhau gwerthiannau, fodd bynnag fe allai’r broses, gan gynnwys symud tŷ, fod yn anoddach, felly mae’n bwysig bod pawb sy’n cymryd rhan yn parhau i fod yn hyblyg.
Os ydych yn byw yn yr Alban, Cymru neu Ogledd Iwerddon, a bod eich tŷ eisoes ar y farchnad, gallwch barhau i’w hysbysebu.
Ond, yn unol â chanllawiau’r llywodraeth ar bellhau cymdeithasol, ni fyddwch yn gallu cynnal ymweliadau personol i’w weld. Os ydych yn defnyddio gwerthwr tai, efallai y byddant nhw’n gallu cynnig rhith-deithiau.
Gallwch barhau i dderbyn cynigion ar eich eiddo o hyd. Fodd bynnag, gallai’r gwerthiant gymryd mwy o amser ac fe’ch anogir i beidio â symud cartref ar y pryd.
Os ydych eisiau gwerthu eich cartref
Os ydych am werthu eich cartref, byddwch nawr yn gallu ei roi ar y farchnad os ydych yn byw yn Lloegr.
Bydd gwerthwyr tai yn gallu ei hysbysebu a chynnal gwyliadau tŷ o dan reolau pellhau cymdeithasol.
Os ydych yn byw yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon ac eisiau gwerthu’ch tŷ, mae’n debyg y bydd yn rhaid i chi aros.
Darganfyddwch fwy o gyngor ar brynu, gwerthu a symud cartref ar y
wefan Gov.ukopens in new window.
‑