Gallai lledaeniad coronafeirws, a elwir hefyd yn COVID-19, yn y DU ac ar draws y byd fod â goblygiadau i’ch gwaith, budd-daliadau a chynlluniau teithio. Bydd y canllaw hwn yn edrych ar eich hawliau i dâl salwch, pa fudd-daliadau y gallwch wneud cais amdanynt os ydych yn hunangyflogedig neu nad oes gennych hawl i gael Tâl Salwch Statudol (SSP). Bydd y dudalen hon yn eich helpu i ddod o hyd i ba help sydd ar gael i chi yn seiliedig ar eich amgylchiadau.
Cyflogedig
Os ydych yn weithiwr cyflogedig, gall y cynllun cadw swyddi gwmpasu dros 80 y can o’ch cyflog hyd at £2,500 y mis. Efallai y bydd gennych hawl i Dâl Salwch Statudol (SSP) os ydych yn sâl.
Hunangyflogedig
?
A oes gennych chi gwestiwn?
Bydd ein cynghorwyr yn rhoi’r arweiniad cywir i chi.
Dechreuwch wesgwrs ar-lein neu ffoniwch ni ar 0800 138 1677
Os ydych yn hunangyflogedig efallai y gall y cynllun cymorth incwm hunangyflogaeth gynnig rhywfaint o gymorth i chi. Ond os yw eich incwm wedi gostwng yn sylweddol, mae ystod o fudd-daliadau y gallech efallai wneud cais amdanynt.
Eich arian
Nid argyfwng iechyd yn unig yw hwn, ond argyfwng ariannol hefyd. Darganfyddwch fwy am sut i reoli’ch arian yn ystod yr argyfwng hwn, yn ogystal â pha gymorth a allai fod ar gael i chi gan eich banc a’ch benthycwyr o ran gorddrafftiau, benthyciadau a chardiau credyd.
Costau tai
?
Ymunwch â’n grŵp Facebook, Coronafeirws a’ch Arianopens in new window, am newyddion ariannol a’r wybodaeth ddiweddaraf cyn gynted ag y byddwn yn eu cael, yn ogystal â lle i ofyn cwestiynau ariannol, rhannu pryderon a helpu pobl eraill.
Mae taliadau rhent a morgais yn debygol o fod yn un o’ch treuliau misol mwyaf. Os oes gennych forgais mae gwyliau talu eisoes wedi’u cyhoeddi, ynghyd â rhywfaint o gefnogaeth os ydych yn rhentwr preifat. Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael rhywfaint o help os ydych yn cael trafferth talu’ch Treth Cyngor, neu Drethi os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon.
Eich biliau
Os yw’r achos o goronafeirws yn cael effaith ddifrifol ar eich cyllid, mae rhywfaint o help ar gael os ydych yn cael trafferth talu’ch biliau nwy, trydan a dŵr. Os ydych ar fesurydd rhagdalu, mae help ar gael os nad ydych yn gallu ychwanegu at eich mesurydd.
Taliadau cyllid car
Os ydych yn cael trafferthion gyda’ch taliadau cyllid car, efallai y gallech gael gwyliau talu am dri mis. Ni fydd hyn yn addas i bawb ac os gallwch fforddio’r ad-daliadau, dylech barhau i’w gwneud.
Coronafeirws os oes gennych blant
Os oes gennych blant gall hyn fod yn amser anodd iawn. Pa help sydd ar gael os yw eu hysgol wedi cau, beth mae hyn yn golygu i’ch costau gofal plant a beth sy’n digwydd os oes gennych hawl i brydau ysgol am ddim?
Symud tŷ
Mae cyfyngiadau difrifol wedi cael eu rhoi mewn lle ynglŷn â phrynu, gwerthu a symud tŷ yn ystod yr achos o goronafeirws. Os oeddech eisoes wedi cytuno ar y gwerthiant ond na allwch symud i mewn, dylech allu ymestyn eich cynnig morgais hyd at dri mis.
Yswiriant teithio
Gyda’r cyfyngiadau llym ar deithio, mae’r achos o goronafeirws yn debygol o gael effaith ar unrhyw deithiau roeddech eisoes wedi’u trefnu. Mae llawer o yswirwyr yn cyfyngu neu’n newid y gorchudd sydd ar gael trwy eich polisi.
Pensiynau
Mae’r achos o goronafeirws wedi cael effaith fawr ar y farchnad stoc a chronfeydd pensiwn. Felly efallai eich bod yn pendroni pa benderfyniadau y dylech fod yn eu gwneud ynglŷn â’ch pensiwn.
Sgamiau
Yn anffodus, mae’r achos o goronafeirws wedi arwain at gynnydd yn nifer y sgamiau ariannol. Mae’r rhain yn cynnwys twyllwyr sy’n honni eu bod yn cynnig grantiau gan y llywodraeth a mathau eraill o gymorth ariannol.
Coronafeirws a’ch lles meddyliol
Bydd coronafeirws yn cael effaith fawr ar gyllid llawer ohonom, a allai effeithio’n negyddol ar ein lles meddyliol.
Gallai lles meddyliol gwael olygu eich bod yn cael trafferth gwneud y penderfyniadau yn seiliedig ar arian sydd orau i chi, yn ogystal â gweithredu arnynt.
Os ydych yn teimlo dan straen, edrychwch ar ein canllaw Problemau arian a lles meddyliol gwael i gael awgrymiadau ymarferol ar sut i ymdopi’n ariannol trwy’r pandemig, yn ogystal â lle gallwch gael cymorth arbenigol am ddim.
Cofiwch, os ydych yn cael trafferth, mae bob amser yn werth cysylltu â’ch banc, cymdeithas adeiladu, benthyciwr neu bwy bynnag sydd arnoch arian iddynt, i drafod eich opsiynau.
Mae llawer o gwmnïau’n ymwybodol bod eu cwsmeriaid yn cael trafferth gydag arian ar hyn o bryd ac wedi rhoi prosesau mewn lle i helpu. Fodd bynnag, ni allwch elwa o’r help hwnnw os na fyddwch yn rhoi gwybod iddynt am eich sefyllfa.
Os ydych yn teimlo’n isel iawn neu’n hunanladdol oherwydd eich pryderon ariannol, mae angen i chi siarad â rhywun nawr. Ffoniwch 999 os ydych mewn perygl uniongyrchol neu rhowch alwad i’r Samariaid ar 166 123.