Mae rhieni nawr yn talu cyfartaledd o dros £6,600 y flwyddyn, dim ond am leoliad rhan amser mewn meithrinfa, felly mae’n cymryd cyfran fawr o gyllideb y teulu. Maewn ardaloedd fel Llundain gall costau fod yn llawer uwch. Os ydych chi’n bwriadu dychwelyd i’r gwaith mae’n allweddol eich bod yn cyllidebu’n ofalus ar gyfer eich costau gofal plant ac yn hawlio’r holl gymorth sydd ar gael.
Faint mae gofal plant yn ei gostio?
?
Dewis y gofal plant cywir
Chwiliwch am y dewis gofal plant cywir i chi gyda’n tudalen gymharu gofal plant.
Ym Mhrydain, cost gyfartalog anfon plentyn dan ddwy oed i feithrinfa yw:
- £127 yr wythnos - rhan-amser
- £242 yr wythnos - llawn amser
Y gost gyfartalog i deuluoedd o ddefnyddio clwb ar ôl ysgol am bum diwrnod yw £59 yr wythnos.
Ond mae help y gallwch ei gael gyda chostau gofal plant, er enghraifft gyda gofal plant di-dreth gallwch gael hyd at £2,000.
Mae’r tablau isod yn rhoi syniad i chi o faint mae gwahanol fathau o ofal plant yn ei gostio ar gyfartaledd os yw eich plant yn rhy ifanc i fod yn gymwys am addysg cynnar am ddim yn y DU.
Costau gofal plant rhan-amser
Math o ofal plant |
Faint mae’n ei gostio? (Cyfartaledd y Deyrnas Unedig) |
Faint mae’n ei gostio? (Cyfartaledd Llundain) |
Gwarchodwr cofrestredig (25 awr ar gyfer plentyn dan 2) |
£113 yr wythnos |
£159 yr wythnos |
Meithrinfa ddydd (25 awr ar gyfer plentyn dan 2) |
£127 yr wythnos |
£174 yr wythnos |
Nani rhan-amser (25 awr) |
£250-£400 yr wythnos gan gynnwys treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol |
|
Au pair |
‘Arian poced’ o oddeutu £70-£85 yr wythnos ac ystafell a phrydau bwyd |
|
Ffynhonnell: Costau gwarchodwr plant a meithrinfa gan Ymddiriedolaeth y Teulu a Gofal Plant, 2020; Cyflogau nanis rhan-amser gan Nannyplus.co.uk; Cyfraddau arian poced au pair gan GOV.UK
Costau gofal plant amser llawn
Math o ofal plant |
Faint mae’n ei gostio? (Cyfartaledd y Deyrnas Unedig) |
Faint mae’n ei gostio? (Cyfartaledd Llundain) |
Gwarchodwr cofrestredig (50 awr ar gyfer plentyn dan 2) |
£221 yr wythnos |
£303 yr wythnos |
Meithrinfa ddydd (50 awr ar gyfer plentyn dan 2) |
£242 yr wythnos |
£330 yr wythnos |
Nani yn byw i mewn (50 awr) |
£400- £650:
- treth
- Yswiriant Gwladol
- ystafell a bwyd
|
|
Nani ddyddiol (50 awr) |
£512 yr wythnos a:
- treth
- Yswiriant Gwladol
- ystafell a bwyd
|
£616 yr wythnos a:
- treth
- Yswiriant Gwladol
- ystafell a bwyd
|
Ffynhonnell: Costau gwarchodwr plant a meithrinfa gan Ymddiriedolaeth y Teulu a Gofal Plant, 2020; canllaw cyflogau nanis rhan-amser gan Nannyplus.co.uk.
Gofal plant anffurfiol neu am ddim
Trefniant teuluol |
Gall fod am ddim, ond, os ydych yn bwriadu talu i aelod o’ch teulu am ofal plant, efallai na fyddwch yn gymwys i gael help gyda chostau gofal plant |
Trefniant gofal plant a rennir |
Yn dechnegol, mae hwn yn drefniant di-dâl, ond bydd angen ichi ystyried yr incwm y byddwch yn ei golli, ac ni fyddwch yn cael unrhyw help gan y llywodraeth |
Ffynhonnell: Netmums playgroup/pre-school costs
Pris cyfartalog o glwb ar ôl ysgol
Y gost gyfartalog yn y DU yw £57, sydd bron i £2,200 y flwyddyn yn ystod amser tymor.
Mae’r tabl isod yn dangos y pris wythnosol ar gyfer clwb ar ôl ysgol a gwarchodwr plant ar gyfer plant rhwng pump ac 11 oed yn ystod amser tymor.
|
Clwb ar ôl ysgol |
Gwarchodwr plant hyd at 6pm |
Y DU |
£57.36 |
£65.70 |
Lloegr |
£58.17 |
£65.64 |
Yr Alban |
£54.17 |
£68.44 |
Cymru |
£48.77 |
£63.14 |
Ffynhonnell: Costau gwarchodwr plant a meithrinfa gan Ymddiriedolaeth y Teulu a Gofal Plant, 2019
Costau gofal plant yn ystod y gwyliau
Yn 2018, pris cyfartalog gofal plant yn y DU yn ystod y gwyliau oedd £133 yr wythnos.
Gwlad |
Prisiau cyfartelog gofal plant |
Lloegr |
£134.66 |
Yr Alban |
£124.44 |
Cymru |
£124.85 |
Y DU |
£133.34 |
Ffynhonnell: Costau gwarchodwr plant a meithrinfa gan Ymddiriedolaeth y Teulu a Gofal Plant, Holiadur gwyliau 2020.
Rhiant sy’n aros gartref
Pa un ai’ch bod yn dewis gweithio’n amser llawn neu’n rhan-amser neu fod yn rhiant aros gartref, mae’n ddewis personol iawn. Mae amrywiaeth eang o agweddau i’w hystyried. Un yw effaith incwm a chostau yn awr ac i’r dyfodol.
Defnyddiwch ein Cynllunydd cyllideb i weld sut mae costau gofal plant yn effeithio ar eich incwm.
Mae cymorth ar gael pan gewch fabi, yn cynnwys budd-daliadau a grantiau gan y llywodraeth a’ch cyflogwr. Felly darganfyddwch beth allwch chi ei hawlio.
Gall cymryd seibiant o’ch gyrfa effeithio ar eich dewisiadau cyflogaeth i’r dyfodol a’ch gallu i ennill arian. Dyma rai gwefannau allai fod o gymorth i chi wrth ystyried y manteision a’r anfanteision, Netmumsopens in new window, Babycentre, Mumsnet.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?