Os ydych yn cynilo’n rheolaidd neu’n buddsoddi cyfandaliad trwy ddefnyddio polisi yswiriant bywyd, efallai y byddwch yn dewis buddsoddi mewn cronfa gydag elw. Mae’r rhain yn anelu at roi adenillion ichi a gysylltir â’r farchnad stoc ond gyda llai o symudiadau i fyny ac i lawr na buddsoddi’n uniongyrchol mewn cyfranddaliadau. Fodd bynnag, maent yn gymhleth ac nid ydynt mor boblogaidd fel ffordd o fuddsoddi ag y buont yn y gorffennol.
Beth yw cronfa gydag elw?
?
Wyddech chi?
Mae cronfeydd gydag elw ar gyfer arian nad oes angen i chi gael gafael arno am gyfnod hir - yn aml mae cosbau am godi eich arian yn gynnar.
Mae polisïau gydag elw yn gronfeydd buddsoddi tymor canolig i hirdymor a gynigir gan gwmnïau yswiriant.
Mae’n bosibl y cewch gynnig cronfa gydag elw pan fyddwch yn trefnu:
- polisi gwaddol
- bond buddsoddi
- polisi oes gyfan
- polisïau pensiwn a blwydd-daliadau
Sut maent yn gweithio
- Caiff yr arian a fuddsoddir gennych ei gyfuno ag arian gan bobl eraill a’i fuddsoddi yng nghronfa gydag elw’r cwmni yswiriant.
- Rheolir y gronfa gan reolwr buddsoddiadau proffesiynol, sy’n buddsoddi arian y gronfa mewn gwahanol fathau o fuddsoddiad, megis cyfranddaliadau, eiddo, bondiau ac arian parod.
- Didynnir costau rhedeg busnes y cwmni yswiriant o’r gronfa ac mae’r hyn sydd ar ôl (yr elw) ar gael i’w dalu i’r buddsoddwyr gydag elw.
- Rydych yn derbyn eich cyfran o’r elw ar ffurf bonysau blynyddol a ychwanegir at eich polisi.
- Fel arfer mae’r cwmni’n ceisio osgoi newidiadau mawr ym maint y bonysau o’r naill flwyddyn i’r llall. Mae’n gwneud hyn trwy gadw rhywfaint o’r elw o flynyddoedd da er mwyn hybu’r elw mewn blynyddoedd gwael – gelwir y broses hon yn ‘llyfnhau’.
- Hefyd mae’n bosibl y cewch ‘fonws terfynol’ pan fydd eich polisi’n aeddfedu.
- Gallwch ofyn i’r cwmni yswiriant roi manylion ichi am ei bolisi bonws cyn ichi brynu.
- Gyda’r rhan fwyaf o bolisïau, bydd swm yr elw y byddwch yn ei ennill yn dibynnu’n bennaf ar berfformiad y buddsoddiadau yn y gronfa gydag elw.
- Fel arfer, ar ôl eu hychwanegu, ni ellir tynnu’r bonysau. Ond gall y cwmni yswiriant adfachu rhan neu’r cyfan o’r bonysau a delir trwy wneud Gostyngiad Gwerth y Farchnad (MVR) – neu Addasiad Gwerth y Farchnad (MVA) – i’ch polisi os byddwch yn ei ildio’n gynnar. Mae hyn yn fwy tebygol yn ystod adegau o amodau buddsoddi andwyol fel cwymp y farchnad stoc.
Mathau o gronfeydd gydag elw
Cronfeydd gydag elw confensiynol
- Caiff swm cychwynnol a gaiff ei aswirio (isafswm gwarantedig) ei gynyddu drwy ychwanegu bonysau blynyddol a bonws terfynol.
- Bydd maint y bonysau yn dibynnu ar berfformiad y gronfa, costau’r busnes yswiriant, a’r angen i gydbwyso bonysau rhwng blynyddoedd da a blynyddoedd gwael.
- Mae cyfraddau bonws wedi tueddu i ostwng o ganlyniad i amodau anodd yn y farchnad.
- Er y gellir cymhwyso gostyngiadau gwerth y farchnad ni fyddai hyn yn digwydd fel arfer. Yn lle byddai cosbau ildio’n gymwys fel arfer os terfynwyd y polisi yn gynnar heb gymhwyso gostyngiadau ar aeddfedu.
Cronfeydd gydag elw unedol
Bonysau
Ceir dau fath o fonws:
- bonysau blynyddol, y cyfeirir atynt hefyd fel bonysau rheolaidd neu gywirol
- bonws olaf, y cyfeirir ato hefyd fel y bonws terfynol
Dyma sut y caiff bonysau eu talu:
- Unwaith y bydd bonws blynyddol wedi cael ei ychwanegu, ni ellir ei dynnu oddi wrthych - hyd yn oed os bydd y gronfa yn perfformio’n wael yn y dyfodol - ar yr amod y byddwch yn parhau i fodloni telerau eich polisi.
- Gellir ychwanegu bonws terfynol ar ddiwedd eich polisi. Bydd pa un a gewch fonws terfynol a’i faint yn dibynnu ar lwyddiant y gronfa.
- Yn ystod blynyddoedd da, gall rheolwr y gronfa ddewis cadw rhywfaint o’r elw i helpu i wneud iawn am golledion yn ystod blynyddoedd gwael. Gelwir hyn yn broses llyfnhau. Mae hyn yn golygu os bydd cyfnodau hir heb elw, y gallech gael bonysau blynyddol a therfynol isel - neu hyd yn oed ddim bonysau o gwbl.
Gall y cwmni yswiriant wneud Gostyngiad Gwerth y Farchnad i’ch polisi os byddwch yn ildio’n gynnar, yn enwedig yn ystod adegau o amodau buddsoddi negyddol fel cwymp y farchnad stoc.
Os byddwch yn gadael polisi yn gynnar, gall y gostyngiad hwn adfachu rhan fawr - neu hyd yn oed y cyfan - o unrhyw fonysau a ychwanegwyd yn flaenorol.
Os ydych yn ystyried dod â pholisi gydag elw i ben yn gynnar, darllenwch ein canllaw Dod â’ch polisi gydag elw i ben yn gynnar.
Ystad etifeddedig - beth ydyw?
Mae angen i gronfa gadw digon o arian wrth law i dalu ei threuliau, i redeg y busnes ac i dalu’r hyn sy’n ddyledus ganddi i ddeiliaid polisi. Ond dros amser, bydd rhai cronfeydd yn cronni llawer mwy na’r hyn sydd ei angen arnynt - fel arfer drwy adenillion a ddaliwyd yn ôl er mwyn gwneud iawn am golledion na wnaethant ddigwydd. Gelwir y gwerth ychwanegol hwn yn ystad etifeddedig.
Gall y cwmni yswiriant ddefnyddio’r arian ychwanegol mewn un o ddwy ffordd – ar gyfer dosbarthiad neu ailathreuliad.
Dosbarthiad – dosbarthu’r cronfeydd ychwanegol
Bob blwyddyn, rhaid i gwmnïau yswiriant edrych ar eu hystad etifeddedig er mwyn penderfynu a oes ganddynt fwy na’r hyn sydd ei angen arnynt i gadw’r gronfa’n weithredol. Os bydd gormod ganddynt, gallant ddewis – neu mewn rhai achosion, bydd rhaid iddynt – dalu’r swm ychwanegol i ddeiliaid polisi. Gelwir hyn yn ddosbarthiad.
Gellir talu dosbarthiad dros amser neu fel taliad unigol. Gall y cwmni ddefnyddio’r arian ychwanegol naill ai:
- i gynyddu gwerth eich polisi
- i roi alldaliad arian parod i chi
Ni chaiff dosbarthiadau eu gwarantu – ni fyddwch o reidrwydd yn cael dosbarthiad hyd yn oed os byddwch yn dal y polisi hyd at ddiwedd y tymor.
Ailathreuliad – defnyddio cronfeydd ychwanegol i ailstrwythuro
Mewn achosion prin, gallai cwmni yswiriant ddefnyddio’r cronfeydd ychwanegol o’r ystad etifeddedig i newid strwythur y gronfa – er enghraifft, pe byddai strwythur gwahanol yn golygu y byddai’r gronfa yn rhatach i’w rheoli.
Os bydd y cwmni yn gwneud hyn, byddwch yn cael iawndal am y rhan o’r ystad etifeddedig rydych yn ei hildio i’r cwmni yswiriant. Fel arfer, taliad arian parod unigol fydd y taliad hwn.
Os bydd eich cronfa gydag elw yn destun ailathreuliad, rhaid i’ch yswiriwr ysgrifennu atoch gan roi gwybodaeth i chi am y canlynol:
- y broses ailathreulio – gan gynnwys dyddiadau a chrynodeb o bwy sy’n rhan o’r broses
- cynigion ailathreulio – beth y mae’r cwmnni yswiriant am i chi ei ildio a pha fuddiannau ac iawndal a gewch yn gyfnewid am hynny
- barn eiriolwr deiliaid polisi – bydd yr eiriolwr deiliaid polisi yn negodi ar ran deiliaid polisi gyda’r cwmni – bydd yn ysgrifennu atoch i egluro a yw cynigion y cwmni o fudd i chi neu beidio.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth yn ein canllawiau ar gynhyrchion gydag elw
Gwybodaeth y dylech ei chael
Rhaid i ddarparwyr cynhyrchion roi gwybodaeth am ‘ffeithiau allweddol’ i chi y gallwch ei deall. Dylai’r wybodaeth hon gynnwys:
- beth yw’r buddsoddiad a sut mae’n gweithio
- y risgiau allweddol gan gynnwys y risg o golli cyfalaf a risgiau gwrthbarti
- taliadau (y ffioedd a gaiff eu didynnu o’ch adenillion neu gyfalaf)
- pryd y bydd gennych yr hawl i ddefnyddio Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol a Chynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol
Cael cyngor ariannol
Os nad ydych yn deall cynnyrch buddsoddi, ceisiwch gyngor ariannol annibynnol cyn i chi brynu. Darllenwch y canllawiau hyn.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?