Cwblhewch ymarfer canfod ffeithiau ariannol
Er mwyn llunio cynllun cynilo a buddsoddi da, mae angen i chi: nodi eich sefyllfa ariannol. Asesu eich nodau a beth allai ddigwydd yn y dyfodol, ac ystyried eich profiad a’ch agweddau. Yna nodwch pa arian sydd ar gael. Holiadur canfod ffeithiau yw’r broses o gasglu gwybodaeth fel eich bod yn barod i lunio eich cynllun.
Manteision cwblhau holiadur canfod ffeithiau
Bydd cwblhau holiadur canfod ffeithiau ariannol yn rhoi cipolwg gwerthfawr i chi o’ch sefyllfa ariannol – yn ogystal â’ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae gennych ddau opsiwn:
- Cwblhewch y dasg yn gyflym i gael syniad o’ch sefyllfa ariannol a’ch nodau presennol. Os yw pethau’n ddigon syml, gall fod yn ddigon i’ch helpu i greu cynllun cynilo a buddsoddi.
-
Lawrlwythwch a chwblhewch holiadur canfod ffeithiau ariannol llawn. Nid pum munud o dasg mohoni – mae llawer o gwestiynau i chi eu hystyried – ond mae’n werth treulio amser yn eistedd i lawr a mynd drwyddo’n drwyadl, yn arbennig os yw eich anghenion yn gymhleth. Bydd gennych rywbeth i gyfeirio ato wedyn pan fydd yn amser i chi wneud dewisiadau, adolygu eich buddsoddiadau neu siarad â chynghorydd.
Cadarnhewch yn gyflym
Atebwch y cwestiynau isod i gael syniad o’ch sefyllfa ariannol a’ch nodau presennol. I gael darlun manylach, cwblhewch Holiadur Canfod Ffeithiau Ariannol llawn gan ddefnyddio’r ddolen isod.
Ystyried y presennol
- A yw eich cyllideb fisol yn addas i chi?
- A wyddoch pa asedau sydd gennych a beth y maent yn ei ennill? (arian parod, eiddo, cynilion, buddsoddiadau, pensiwn ac yswiriant bywyd)
- A wyddoch faint o ddyledion sydd gennych a beth y maent yn ei gostio? (morgais, cardiau credyd, benthyciadau personol)
Edrych ymlaen – eich nodau a’ch dyheadau
- A fydd eich incwm yn parhau i fod yn sefydlog?
- Beth yw eich nodau ariannol, eich symiau a’ch amserlenni?
- A oes pethau ar y gorwel a fydd yn newid eich bywyd?
Adnabod eich hun – eich profiadau, agweddau, yr arian sydd ar gael
- Beth oedd eich profiadau blaenorol o ran arian?
- Beth yw eich agwedd at risg a’ch capasiti i fod ar eich colled?
- Faint o amser yr hoffech ei dreulio yn rheoli eich arian?
- Faint sydd ar gael gennych i gynilo neu fuddsoddi?
Lawrlwythwch a chwblhewch yr holiadur canfod ffeithiau ariannol llawn
Lawrlwythwch yr holiadur canfod ffeithiau ariannol i’w gwblhau ac yna cwblhewch ef ar y sgrin neu ar bapur.
Canllawiau ac adnoddau cysylltiedig i’ch helpu
?
Gair o gyngor:
Os ewch chi â holiadur canfod ffeithiau wedi’i gwblhau ar ymweliad cyntaf â chynghorydd ariannol gall arbed amser ac arian.
Os ydych yn cwblhau eich holiadur canfod ffeithiau â llaw, defnyddiwch y dolenni isod i’ch helpu – byddant wedi’u cynnwys ar y ffurflen yn y mannau priodol. Os ydych yn cwblhau’r ffurflen ar-lein gallwch fynd iddynt yn uniongyrchol o fewn y ffurflen.
Y camau nesaf: llunio cynllun buddsoddi
Wedi cwblhau’r holiadur canfod ffeithiau ariannol? Dylech gael rhai nodau clir i anelu atynt ac amserlen yn eich meddwl – sydd fwy na thebyg yn cynnwys y geiriau ‘gorau po gyntaf’. Nawr mae’n bryd llunio eich cynllun.
Os mai’ch prif bryder yw cynilo digon ar gyfer ymddeoliad, gweler ein canllaw i wirio cynnydd eich cynllunio pensiwn hyd yn hyn.
Gall cwblhau eich holiadur canfod ffeithiau gwestiynu a ddylech ddefnyddio cynghorydd ariannol. Darllenwch ein canllaw i’ch helpu i benderfynu.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?