Cyflogedig ac wedi cael eich rhoi ar ffyrlo: Y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws
Os na all eich cyflogwr weithredu neu os nad oes ganddynt waith i chi oherwydd yr achos o goronafeirws, efallai y gallant eich cadw ar y gyflogres gan ddefnyddio cynllun cadw swyddi’r llywodraeth. Gelwir hyn yn cael eich rhoi ar ffyrlo.
Angen gwybod
- Bydd eich cyflogwr yn cael grant am 80% o’ch enillion misol neu £2,500 y mis p’un bynnag sydd isaf. Ni chynhwysir ffioedd, comisiwn na bonws. Felly, os ydych yn ennill £37,500 y flwyddyn / £3125 y mis neu’n uwch, cyn treth, byddwch yn cael y taliad uchaf o £2,500.
- Bydd y taliad yn cynnwys Cyfraniadau Yswiriant Gwladol eich cyflogwyr ac isafswm cyfraniadau pensiwn ymrestru awtomatig cyflogwr ar y cyflog hwnnw.
- Gall cyflogwyr ychwanegu at eich taliad i wneud eich cyflog i fyny i’r swm llawn rydych yn ei gael fel arfer - ond does dim rhaid iddynt wneud hynny.
- Byddwch yn talu treth ac yswiriant gwladol a byddwch yn parhau i gael cyfraniadau cynllun pensiwn eich cyflogwr wedi’u didynnu (oni bai eich bod wedi dewis eithrio allan).
- Os ydych yn dychwelyd o seibiant mamolaeth neu dadolaeth gallwch ddal i gael eich rhoi ar ffyrlo, hyd yn oed ar ôl y terfyn amser o 10 Mehefin ar gyfer ceisiadau olaf am gyllid gan y llywodraeth.
- Ni allwch wneud unrhyw waith i’r cwmni a wnaeth eich rhoi ar ffyrlo. Ond os oes gennych swydd arall, neu os yw’ch contract yn caniatáu i chi gymryd swydd arall, gallwch barhau i weithio a chael eich talu gan gwmni arall.
- O fis Awst, byddwch yn parhau i gael 80% o’ch cyflog, ond bydd yn rhaid i’ch cyflogwr gyfrannu yn ogystal â’r llywodraeth.
- Bydd y cynllun yn dod i ben ar ddiwedd mis Hydref ac yn cael ei ddisodli gan y Cynllun Cynnal Swyddi.
- I fod yn gymwys am y cynllun newydd mae’n rhaid i chi weithio o leiaf pumed (20%) o’ch oriau. Yna bydd y llywodraeth a’ch cyflogwr yn eich talu am ddwy rhan o dair (66%) o’r oriau nad ydych yn gweithio.
Sut i wneud cais
- Mae’n rhaid i chi a’ch cyflogwr gytuno i fod ar y cynllun ac mae’n rhaid i’ch cyflogwr wneud cais. Ni allwch chi wneud cais.
- Bydd unrhyw gyflogwr yn y DU sydd â chyfrif banc yn y DU ac sydd â Choronafeirws wedi effeithio ar eu busnes yn gallu gwneud cais, ond rhaid eich bod wedi bod ar gyflogres TWE eich cyflogwr ar 19 Mawrth 2020 neu cyn hynny.
- Roedd cyflogwyr yn gallu dechrau hawlio ar 20 Ebrill pan aeth y cynllun yn fyw.
- Gwneir taliadau tan ddiwedd mis Hydref a gellir eu hôl-ddyddio i 1 Mawrth 2020.
- Bydd y cynllun yn parhau yn ei ffurf bresennol tan ddiwedd Gorffennaf, gyda mwy o hyblygrwydd yn cael ei gyflwyno o ddechrau Awst.
- Os cawsoch eich diswyddo ar ôl 28 Chwefror ond cyn 19 Mawrth gall eich cyflogwr gytuno i’ch ail-gyflogi a’ch rhoi ar ffyrlo yn ei le.
Pwy all gael eu rhoi ar ffyrlo
- Gallwch fod ar unrhyw fath o gontract cyflogaeth, gan gynnwys contractau llawn amser, rhan-amser, tymor penodol, hyblyg neu sero oriau. Gall prentisiaid hefyd gael eu rhoi ar ffyrlo yn yr un modd a gallant barhau i hyfforddi i barhau tra maent wedi cael eu rhoi ar ffyrlo.
- Mae gwladolion tramor yn gymwys i gael eu rhoi ar ffyrlo. Nid yw grantiau o dan y cynllun yn cael eu cyfrif fel ‘mynediad at gronfeydd cyhoeddus’ ac felly gellir rhoi gweithwyr ar bob categori o fisa ar ffyrlo.
- Gall gweithwyr nad ydynt yn gallu gweithio oherwydd eu bod yn diogelu yn unol â chanllawiau iechyd cyhoeddus (neu sydd angen aros gartref gyda rhywun sy’n diogelu) gael eu rhoi ar ffyrlo.
- Gall pobl yn y grwpiau ‘ddim yn weithwyr cyflogedig’ canlynol hefyd gael eu rhoi ar ffyrlogan gynnwys deiliaid swyddi (fel cyfarwyddwyr cwmnïau), aelodau cyflogedig o Bartneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig, gweithwyr asiantaeth (gan gynnwys y rhai a gyflogir gan gwmnïau ymbarél), gweithwyr ‘Limb (b)’ ar yr amod eu bod yn cael eu talu trwy TWE.
- Os ydych chi ar absenoldeb salwch neu’n hunan-ynysu oherwydd coronafeirws, siaradwch â’ch cyflogwr ynghylch a ydych yn gymwys - dylech gael Tâl Salwch Statudol (SSP) tra’ch bod ar absenoldeb salwch neu’n hunan-ynysig, ond gellir eich rhoi ar ‘furlough ar ôl hyn.
- Os yw cwmni’n cael ei gymryd o dan reolaeth gweinyddwr, bydd y gweinyddwr yn gallu cael mynediad at y Cynllun Cadw Swyddi cyn belled â’i fod yn bwriadu cadw’r busnes ar agor wedi hynny.
- Ar gyfer y Cynllun Cynnal Swyddi sy’n dechrau ar 1 Tachwedd 2020, mae’n rhaid i chi weithio o leiaf traean (33%) o’ch oriau arferol.
Defnyddiol i’w wybod
Ar beth fydd fy nhaliad yn seiliedig ar os wyf yn gweithio oriau afreolaidd?
- Os ydych wedi gweithio i’ch cyflogwr am 12 mis neu fwy, byddwch yn cael yr uchaf o: yr enillion misol ar gyfartaledd ar gyfer blwyddyn dreth 2019/20 NEU enillion yr un mis o’r flwyddyn flaenorol.
- Os ydych wedi gweithio i’ch cyflogwr am lai na blwyddyn, dyna yw cyfartaledd eich enillion misol ers i chi ddechrau gweithio.
- Os mai dim ond ym mis Chwefror 2020 y gwnaethoch ddechrau, gall eich cyflogwr ddefnyddio swm pro-rata i gyfrifo faint y dylid ei dalu i chi.
- Ar ôl cytuno, rhaid i’ch cyflogwr ysgrifennu atoch yn cadarnhau eich bod wedi cael eich rhoi ar ffyrlo neu fel arall ni fyddant yn gymwys i wneud cais.
Gwyliau a buddion mewn gwaith
- Gallwch barhau i adeiladu’ch hawl i wyliau â thâl tra’ch bod ar ffyrlo.
- Os yn bosibl dylai gweithwyr ddefnyddio eu gwyliau blynyddol â thâl yn eu blwyddyn gwyliau cyfredol.
- Gellir cario hyd at bedair wythnos o wyliau â thâl i’r flwyddyn nesaf. Bydd yn rhaid defnyddio’r gwyliau ychwanegol hyn yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
- Dylai cyflogwyr ddal i annog eu gweithwyr i gymryd eu gwyliau â thâl ac mae ganddynt yr hawl i ddweud wrth weithwyr pryd i gymryd gwyliau.
- Os ydych yn bwriadu cymryd absenoldeb rhiant â thâl neu absenoldeb mabwysiadu, bydd hwn yn cael ei dalu ar sail eich enillion arferol, nid eich cyfradd ffyrlo .
Camau i’w cymryd
- Siaradwch â’ch cyflogwr os ydych yn meddwl y bydd eich cyflogaeth yn cael ei effeithio gan Covid19
- Gofynnwch iddynt a ydynt yn bwriadu cyflwyno cais am y cynllun cadw swyddi ac a ydych yn gymwys
- Os nad yw’ch cyflogwr wedi eich rhoi ar ffyrlo ac ni allwch fynd i’r gwaith neu weithio gartref gallwch gysylltu ag ACAS yn ACAS.org.ukopens in new window.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?