Cyflogedig, i ffwrdd yn sâl neu’n hunan-ynysu: Gwneud cais am Dâl Salwch Statudol
Os ydych yn weithiwr cyflogedig ac yn methu gweithio oherwydd eich bod yn sâl neu’n hunan-ynysu oherwydd bod gennych chi neu rywun sy’n byw gyda chi symptomau coronafeirws, neu’n diogelu oherwydd eich bod mewn grwp o berygl uchel, efallai y gallech gael Tâl Salwch Statudol.
Angen gwybod
I fod yn gymwys am Dâl Salwch Statudol (SSP) mae’n rhaid i chi:
- fod yn weithiwr cyflogedig, neu weithiwr, yn ennill o leiaf £120 yr wythnos / £520 y mis / £6240 y flwyddyn cyn treth yn y flwyddyn dreth 2020/21.
- fod wedi bod yn sâl, hunan-ynysu neu ddiogelu (ac yn methu gweithio o gartref) am o leiaf 4 diwrnod yn olynnol (yn cynnwys dyddiad sydd ddim yn ddyddiau gwaith).
- Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban a dywedir wrthych am hunan-ynysu gan Brofi ac Olrhain y GIG efallai y bydd gennych hawl i daliad o £500 os na allwch weithio gartref a’ch bod yn hawlio rhai budd-daliadau.
Darganfyddwch fwy am y cynllun os ydych yn byw yn Lloegr ar
wefan gov.uk.
Os ydych yn byw yn yr Alban, gallwch ddarganfod mwy am y cynllun ar
wefan mygov.scot.
Os ydych yn byw yng Nghymru, gallwch ddarganfod mwy am y cynllun ar
wefan gov.wales.
Faint fyddwch yn ei gael?
- £95.85 yr wythnos wedi’i dalu am hyd at 28 wythnos yn 2020/21.
O pryd?
- Os yw salwch sy’n gysylltiedig â Choronafeirws (Covid-19) neu os ydych yn hunan-ynysu - telir SSP o ddiwrnod cyntaf salwch/hunan-ynysu. Rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr bod eich absenoldeb yn gysylltiedig â Choronafeirws.
- Os ydych chi’n hunan-ynysu oherwydd eich bod wedi cael eich cynghori i wneud hynny gan feddyg neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol cyn mynd i’r ysbyty i gael llawdriniaeth, yna telir SSP o’r diwrnod cyntaf y byddwch chi’n dechrau cysgodi NEU 26 Awst 2020.
- Os nad yw salwch yn yn gysylltiedig â Choronafeirws – telir SSP o’r pedwerydd diwrnod o’r salwch.
Sut wyf yn ei gael?
- Bydd eich cyflogwr yn talu’r SSP y mae gennych hawl iddo. Dylid ei ddangos yn glir ar eich slip cyflog fel SSP
Defnyddiol i’w wybod
- Mae gennych hawl i gael SSP hyd yn oed os ydych yn gweithio oriau hyblyg neu afreolaidd, ar yr amod eich bod yn ennill mwy na £120 yr wythnos/£520 y mis/£6240 y flwyddyn.
- Os ydych yn hunan-ynysu oherwydd bod gan rywun rydych yn byw gyda coronafeirws neu symptomau, neu os ydych chi yn diogelu, ond rydych yn teimlo’n ddigon da i weithio, gofynnwch i’ch cyflogwr a allwch chi barhau i weithio o gartref. Os gallwch, nid oes angen i chi wneud cais am SSP a gellir talu eich tâl arferol i chi. Nid oes angen i chi ddarparu nodyn ynysu oni bai bod eich cyflogwr yn gofyn am un. Os na allwch weithio o gartref, efallai y bydd angen i chi gael nodyn ynysu i’w anfon at eich cyflogwr. Gallwch gael hwn o wefan y GIG neu GIG 111 ar-lein.
- Mae SSP yn fudd-dal y wladwriaeth y telir amdano drwy gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Mae’r llywodraeth wedi dweud y gall cyflogwyr llai (gyda gweithwyr o 250 neu lai) hawlio’n ôl unrhyw SSP maent yn ei dalu. Felly hyd yn oed os yw’ch cyflogwr yn ei chael hi’n anodd gallwch chi ddal i gael SSP.
- Mae SSP yn drethadwy ond os mai SSP yw eich unig incwm byddwch o dan y swm di-dreth, £12,500 yn 2020/21, y caniateir i chi eu hennill cyn mae’n rhaid i chi dalu treth.
- Mae gwahanol reolau tâl salwch i rai gweithwyr Amaethyddol.
Camau i’w cymryd
- Edrychwch ar eich contract cyflogaeth - SSP yw’r gofyniad statudol lleiaf ar gyfer pobl gyflogedig sy’n sâl neu’n hunan-ynysu. Mae gan lawer o gyflogwyr gynlluniau tâl salwch sy’n talu mwy nag ond SSP.
- Siaradwch â’ch cyflogwr – Gadewch i’ch cyflogwr wybod os ydych yn sâl neu’n hunan-ynysu neu’n diogelu a darparwch eich nodyn ynysu GIG 111 neu lythyr gan eich Meddyg Teulu neu GIG yn eich cynghori i ddiogelu.
Ddim yn gymwys?
- Os ydych yn gyflogedig a ddim yn gymwys am SSP, efallai y gallech wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Gredyd Cynhwysol.
- Os ydych yn hunangyflogedig, nid ydych yn gymwys am SSP, ond efallai y gallech gael mynediad i gynllun cymorth incwm a budd-daliadau eraill.
- Mae llawer o’r help sydd ar gael yn seiliedig ar eich statws cyflogaeth. Os nad ydych yn siwr, mae’n bwysig i chi gael gwybod.
Os ydych yn cael trafferth i ymdopi ar SSP yn unig, darganfyddwch fwy am y budd-daliadau eraill y gallech wneud cais amdanynt a faint allech chi eu cael ar gyfrifiannell budd-daliadau gwefan Policy In Practiceopens in new window.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?