Yn symud ymlaen i addysg uwch? Dylech fod yn gymwys i agor cyfrif banc myfyrwyr. Wedi i chi gwblhau’ch astudiaethau gellir uwchraddio hyn i gyfrif i raddedigion, gan gynnig gwobrwyon ac ysgogiadau newydd. Darllenwch ein canllaw i ddeall y prif wahaniaethau rhwng cyfrifon, penderfynu pa gyfrif sydd orau ar gyfer eich anghenion a sut i wneud y mwyaf o’r offeryn cyllidebu hwn, fel myfyriwr ac ar ôl hynny.
Cyfrifon cyfredol
Cyfrif cyfredol yw’r math o gyfrif a ddefnyddiwch ar gyfer bancio beunyddiol.
Mae pawb fwy neu lai yn gymwys i agor cyfrif cyfredol, sydd fel arfer yn cynnwys ystod o nodweddion safonol:
- Cerdyn debyd/cerdyn arian parod
- Bancio rhyngrwyd a ffôn
- Cyfriflenni ar-lein neu wedi eu hargraffu
- Cyfleusterau gorddrafft
- Llog ar yr arian sydd yn y cyfrif
- Y gallu i sefydlu debydau uniongyrchol ac archebion sefydlog
Cyfrifon i fyfyrwyr
Y gwahaniaeth mwyaf rhwng cyfrifon cyfredol a chyfrifon i fyfyrwyr yw’r cyfleuster gorddrafft.
Mae rhai cyfrifon i fyfyrwyr yn caniatáu gorddrafftiau o hyd at £3,000 yn gwbl ddi-log.
Mae hyn yn golygu na fydd yn rhaid i chi dalu llog ar unrhyw beth o dan y trothwy gorddrafft awdurdodedig tra byddwch yn fyfyriwr.
Ond cofiwch nid yw hwn yn arian am ddim.
Wedi i chi raddio byddwch yn dal yn gorfod ad-dalu’r hyn a fenthycwyd gennych.
Gall y terfyn gorddrafft a osodir gan y banc wrth i chi agor cyfrif fod ‘hyd at’ swm penodol gyda’r angen i gael caniatâd i’w gynyddu yn ystod eich blynyddoedd fel myfyriwr.
Os ewch y tu hwnt i drothwy awdurdodedig eich gorddrafft, gallech orfod talu costau ychwanegol.
Dylech siarad â’ch banc ar unwaith os bydd hyn yn debygol o ddigwydd, oherwydd gallai effeithio ar eich statws credyd a’ch gallu i fenthyca yn y dyfodol.
‘Pethau am ddim’
Er enghraifft, un ysgogiad a gynigir yw cerdyn rheilffordd 16-25 4-blynedd rhad ac am ddim (nid yw hwn ar gael yng Ngogledd Iwerddon). Gallwch ei ddefnyddio i gael traean oddi ar bris tocynnau trên a bydd hefyd yn arbed arian i chi ar brisiau oriau allfrig TfL.
Er geiriad yr enw, ma’e Cerdyn Rheilffordd 16-25 ar gael i unrhyw fyfyriwr amser llawn mewn addysg uwch.
Er y gall pethau a gynigir am ddim fod yn fonws braf, peidiwch â gadael iddynt ddylanwadu ar eich penderfyniad.
Sicrhewch fod y cyfrif banc a ddewiswch yn cynnig yr holl nodweddion sydd eu hangen arnoch.
Rheoli arian drwy eich cyfrif myfyriwr
Bydd y rhan fwyaf o’r taliadau a gewch ac a wnewch yn mynd trwy eich cyfrif myfyriwr.
Dylech osod a glynu wrth gyllideb gall er mwyn sicrhau eich bod yn aros o dan y terfyn gorddrafft awdurdodedig a gytunoch gyda’ch banc.
Agor mwy nag un cyfrif myfyriwr
Mae yna amryw o resymau pam y gallech benderfynu agor mwy nag un cyfrif:
- i reoli’ch cyllideb yn fwy effeithiol. Er enghraifft, talu ffioedd llety gydag un cyfrif a defnyddio un arall ar gyfer gwariant beunyddiol
- mae rhai myfyrwyr yn agor mwy nag un cyfrif er mwyn manteisio ar y cyfleusterau gorddrafft rhad ac am ddim sydd ar gael
Peidiwch ag anghofio: mae cael mwy nag un cyfrif yn golygu eich bod mewn perygl o fynd i ddyled. Cofiwch gadw llygad barcud ar eich gwariant.
Cardiau credyd gyda chyfrifon myfyrwyr
Mae gan rai banciau gardiau credyd i fyfyrwyr sydd ar gael i gydfynd â chyfrifon myfyrwyr.
Tra gall cardiau credyd roi cymorth i chi wneud taliadau mawr unwaith ac am byth i roi cymorth gyda’ch astudiaethau, ni ddylech eu hystyried fel rhywbeth sy’n disodli gwariant dydd i ddydd a chyllidebu.
Os byddwch yn methu taliad, yr isafswm hyd yn oed, byddwch yn gorfod talu costau cosb
a gallai hynny effeithio ar eich statws credyd.
Gwneud taliadau drwy eich cyfrif myfyriwr
Mae bancio ar-lein a symudol yn eich galluogi i wneud taliadau yn rhwydd os yw manylion y cyfrif gennych.
Mae’r gwasanaeth ‘Paym’ yn caniatáu taliadau rhwng pobl sydd wedi cofrestru eu rhifau symudol.
Bancio’n ddiogel
Dyma rai awgrymiadau i roi cymorth i chi reoli eich cyfrif yn ddiogel ac i osgoi twyll:
- Peidiwch fyth â chadw’ch Rhif Adnabod Personol (PIN) gyda’ch cardiau banc.
- Cuddiwch eich PIN wrth beiriannau arian parod
- Ceisiwch beidio â defnyddio cyfrifiaduron neu dabledi a rennir wrth fancio ar-lein
- Gwiriwch eich cyfriflen banc yn rheolaidd i sicrhau nad oes gwallau
- Os ydych yn bancio ar-lein, sicrhewch fod y feddalwedd ddiogelwch ar eich cyfrifiadur, ffôn clyfar neu dabled yn gyfredol
Dewis eich cyfrif myfyriwr neu raddedig
Mae gwefannau cymharu yn lle da i gychwyn ar gyfer unrhyw un sy’n ceisio dod o hyd i cyfrifon cyfredol.
Argymhellwn y gwefannau canlynol er mwyn cymharu cyfrifon cyfredol:
Yng Ngogledd Iwerddon, gallwch hefyd roi cynnig ar y Offeryn Cymharu Cyngor Defnyddwyropens in new window.
Cofiwch:
- ni fydd pob un gwefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly cofiwch ddefnyddio mwy nag un gwefan cyn gwneud penderfyniad.
- felly mae’n bwysig gwneud tipyn o waith ymchwil i mewn i’r math o gynnyrch neu nodweddion a ddymunwch cyn prynu neu newid darparwr.
Symud ymlaen i gyfrif i raddedigion
Y prif reswm yw i leihau swm y gorddrafft, a dyfodd efallai yn ystod eich cyfnod fel myfyriwr.
- Ar ôl graddio, gofynnwch y cwestiynau canlynol i’ch banc:
- Pa fargeinion sydd gennych ar gyfrifon i raddedigion?
- A fydd fy nherfyn gorddrafft yn cael ei gwtogi?Os felly, pa bryd?
- Pa bryd fydd llog yn cael ei godi ar fy ngorddrafft?
- A fyddaf yn cael fy uwchraddio i gyfrif i raddedigion fel mater o drefn?
Mae’r cyfrifon hyn yn dal i ddarparu gorddrafftiau hael iawn, ond mae’r cyfanswm o fenthyca di-log yn tueddu i leihau bob blwyddyn tra bydd y cyfrif yn weithredol.
Defnyddiwch hyn fel cyfle i reoli a rhoi trefn ar eich cyllideb wedi i chi raddio.
Dewis y cyfrif branc i raddedigion cywir i chi
Os agoroch gyfrif myfyriwr ar ddechrau’ch cwrs, mae’n debygol y cafodd ei newid yn gyfrif i raddedigion gyda’r un gangen, wedi i chi raddio.
Ystyriwch y canlynol wrth chwilio am y cyfrif banc gorau ar gyfer eich anghenion:
- Peidiwch fyth â mynd dros eich terfyn gorddrafft.
- Peidiwch â bod yn ffyddlon i’ch banc presennol – cymharwch beth sydd ar gael!
- Ewch am yr un sy’n cynnig y cyfnod hiraf o 0% o log ar orddrafft y gallwch ddod o hyd iddo.
- Canolbwyntiwch ar y manteision sy’n gysylltiedig ag agor cyfrif gyda banc neilltuol.
- Gwiriwch eich statws credyd cyn i chi wneud cais am gyfrif i raddedigion.
- Cyllidebwch i glirio’ch gorddrafft cyn gynted ag y gallwch (os oes gennych chi un).