Mae’r cyfrifon hyn yn talu llog ac yn caniatáu i chi godi arian pryd bynnag y bydd ei angen arnoch. Gallwch gynilo cyn lleied neu gymaint ag y dymunwch bob mis. Yn aml gallwch agor cyfrif gyda blaendal cychwynnol o gyn lleied â £1.
Ai cyfrif cynilo dim rhybudd yw’r cyfrif i chi?
Dylech agor cyfrif cynilo dim rhybudd os oes gennych arian sbâr a’ch bod am wneud y canlynol:
- cael adenillon gwell na’r adenillion ar eich cyfrif cyfredol
- cynilo ar eich cyflymder eich hun
- gallu codi arian pryd bynnag y dymunwch
- peidio â mentro gyda’ch arian
Risg ac elw
?
Os nad oes angen i chi allu cael gafael ar eich cynilion ar unwaith, gallech ennill mwy gydag opsiynau cynilo tymor sefydlog megis bondiau cynilo neu gyfrifon cynilo rheolaidd
- Fel arfer yn cynnig cyfraddau llog uwch na chyfrifon cyfredol.
- Nid yw’r gyfradd mor uchel â chyfrifon cynilo rheolaidd neu fondiau cynilo, a fyddai’n cloi eich arian.
- Ni fydd eich cynilion yn dal eu gwerth prynu yn yr hirdymor os bydd y gyfradd llog ar y cyfrif yn is na’r cynnydd mewn costau byw – chwyddiant.
Cael gafael ar eich arian
Gallwch godi arian pryd bynnag y byddwch am wneud hynny.
Taliadau
Ni fydd tâl am agor cyfrif nac am godi arian.
Diogel a sicr?
Caiff arian parod a roddwch mewn banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU (a awdurdodir gan Awdurdod Rheoleiddio Prudential) ei ddiogelu gan Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol (FSCS). Terfyn diogelwch cynilion yr FSCS yw £85,000 (neu £170,000 ar gyfer cyfrifon ar y cyd) fesul cwmni awdurdodedig.
Mae’n werth nodi bod rhai banciau yn rhan o’r un cwmni awdurdodedig. Os oes gennych fwy na’r terfyn o fewn yr un banc, neu gwmni awdurdodedig, mae’n syniad da symud y gormodedd i sicrhau bod eich arian wedi’i ddiogelu.
Sut i agor cyfrif cynilo dim rhybudd neu gyfrif cynilo lle bydd eich arian ar gael yn hawdd
?
Gallwch agor cyfrif cynilo dim rhybudd gyda chyn lleied â £1 a chynilo faint bynnag y byddwch am ei gynilo bob mis.
Gallwch agor cyfrif dim rhybudd neu gyfrif lle bydd eich arian ar gael yn hawdd yn uniongyrchol gyda banc neu gymdeithas adeiladu – bydd y rhan fwyaf ohonynt yn gadael i chi agor cyfrif naill ai ar-lein, dros y ffôn neu drwy fynd i gangen.
Efallai y bydd angen i chi gael cyfrif cyfredol gyda’ch banc neu gymdeithas adeiladu er mwyn agor cyfrif cynilo dim rhybudd. Gofynnwch iddynt cyn i chi ddechrau arni.
Treth
Mae angen i’r rhan fwyaf o bobl dalu treth incwm ar y llog a gânt felly fel arfer caiff treth ei didynnu ar y gyfradd sylfaenol fel mater o drefn o log cyfrifon cynilo.
Cyflwynwyd lwfans cynilo personol newydd o £1,000 ym mis Ebrill 2016, gan symud y £1,000 cyntaf o incwm cynilo o’r Dreth Incwm. Mae trethdalwyr cyfradd uwch yn elwa o lwfans cynilo personol llai o £500.
Os nad ydych yn talu treth, gallwch ofyn i log gael ei dalu heb unrhyw ddidyniadau treth. Dilynwch y ddolen isod i wefan Cyllid a Thollau EM (CThEM) i gael gwybod sut i wneud hynny.
Bydd cyfrifon dim rhybudd sy’n gyfrifon ISA arian parod yn rhoi llog di-dreth i chi felly ni fyddwch yn colli ceiniog o’ch adenillion.
Os bydd pethau’n mynd o chwith
Os byddwch yn fodlon â’r gwasanaeth gan eich banc neu gymdeithas adeiladu, gallwch gwyno i’r Ombwdsmon Ariannol os na allwch ddatrys y broblem yn uniongyrchol.
Cam nesaf
Mae gwefannau cymharu yn lle da i gychwyn ar gyfer unrhyw un sy’n ceisio dod o hyd i gyfrif cynilo addas.
Argymhellwn y gwefannau canlynol er mwyn cymharu cyfrifon cynilo:
Cofiwch:
- Ni fydd pob un gwefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly cofiwch ddefnyddio mwy nag un gwefan cyn gwneud penderfyniad.
- Felly mae’n bwysig gwneud tipyn o waith ymchwil i mewn i’r math o gynnyrch neu nodweddion a ddymunwch cyn prynu neu newid darparwr.
- Dysgwch ragor yn ein canllaw ar wefannau cymharu.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?