Cyfrifon cynilo i blant
Gyda chyfrifon cynilo i blant, mae plant yn dysgu i reoli arian – ac mae gan rieni, perthnasau a ffrindiau rywle i gynilo ar gyfer plentyn sy’n annwyl iddynt.
Anogwch eich plant i ddod i’r arfer a chynilo
?
Awgrym da
Drwy gynilo dim ond £5 y mis am 18 mlynedd, gallai eich plentyn gronni digon i dalu am wersi gyrru neu flaendal ar ei fflat cyntaf ar rent.
- Drwy gael eu cyfrif cynilo eu hunain, mae plant yn fwy ymwybodol o arian a gall eu hannog i ddatblygu arferion cynilo da fel oedolion.
- Hyd nes y bydd eich plant yn ddigon hen i gynilo rhywfaint o arian poced neu arian pen-blwydd eu hunain, gallwch gynilo ychydig iddynt bob mis. Trefnwch archeb sefydlog er mwyn cronni cyfandaliad iddynt dros ychydig flynyddoedd.
Sut mae cyfrifon cynilo i blant yn gweithio
- Mae cyfrifon cynilo i blant yn debyg iawn i’r rhai i oedolion ac fe’u cynigir gan fanciau a chymdeithasau adeiladu. Mae rhai amrywiadau, ond gan amlaf maent yn gyfrifon arian parod syml a diogel sydd fel arfer yn talu rhywfaint o log.
- Gallwch agor cyfrif cynilo gyda chyn lleied â £1 ar gyfer unrhyw blentyn dan 18 oed.
- Gall plant dros saith oed reoli eu cyfrif cynilo eu hunain – yn dibynnu ar y cyfrif, gallant godi arian a’i dalu i mewn.
- Ceir hefyd gyfrifon treth-effeithlon a elwir yn ISAs i Bobl Iau – cewch ragor o wybodaeth amdanynt yn ddiweddarach.
- Roedd plant a anwyd rhwng 1 Medi 2002 ac 2 Ionawr 2011 yn gymwys ar gyfer cynllun Cronfa Ymddiriedolaeth Plant y Llywodraeth.
Dewis y cyfrif cynilo cywir i blant
Mae dau brif fath o gyfrifon cynilo i blant: cyfrifon dim rhybudd a chyfrifon cynilo rheolaidd.
Mynediad rhwydd ac uniongyrchol at gyfrifon cynilo i blant
- Fel y mae’r enw’n ei awgrymu – gallwch chi neu eich plentyn godi neu adneuo arian unrhyw bryd.
- Fel arfer, cewch gyfradd llog is na mathau eraill o gyfrifon.
Cyfrifon cynilo rheolaidd
- Mae’r rhain wedi’u cynllunio i annog arferion cynilo rheolaidd – mae’n rhaid i chi gynilo arian yn y cyfrif bob mis, ac efallai na chewch ei godi’n hawdd.
- Fel arfer, maent yn talu cyfradd llog uwch na chyfrifon dim mynediad.
- Gyda’r rhan fwyaf o gyfrifon, os byddwch yn colli rhai o’r taliadau misol efallai y caiff y gyfradd llog ei gostwng.
Rhoddion am ddim gyda chyfrifon cynilo i blant
Mae llawer o fanciau a chymdeithasau adeiladu yn cynnig rhoddion am ddim fel teganau neu gadw-mi-gei, gyda’r nod o demtio plant, ond yn aml mae eu cyfrifon yn talu cyfradd llog isel. Nid oes dim yn eich atal rhag agor mwy nag un cyfrif – un sy’n cynnig y gyfradd llog orau, a’r llall er mwyn i’r plentyn gael ei rodd am ddim.
Treth ar gynilion plant
A oes angen i blant dalu treth?
Fel oedolion, mae gan blant Lwfans Personol ar gyfer treth incwm – £12,500 ar gyfer y flwyddyn dreth 2019-20. Ar yr amod bod eu hincwm blynyddol (gan gynnwys llog) islaw’r swm hwn, ni fydd yn rhaid iddynt dalu treth arno. Mae banciau’n didynnu’r dreth yn awtomatig, felly bydd angen i chi ofyn iddynt beidio â gwneud hynny.
Treth ar arian a roddir gan rieni, ffrindiau a theulu
Gallwch roi unrhyw swm o arian i blentyn, neu ei fuddsoddi ar ei ran, ond os ydych yn rhiant neu’n lys-riant , mae rheolau arbennig yn gymwys:
- Os ydych wedi rhoi arian i’ch plentyn sy’n ennill dros £100 y flwyddyn mewn llog, difidendau, rhent neu unrhyw incwm arall o fuddsoddiad, codir treth ar y llog fel pe bai’n perthyn i chi. Nid yw hyn yn berthnasol i ISAs i Bobl Iau, Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant a Bondiau Plant (nid yw Bondiau Plant ar gael mwyach, ond os oes gennych chi rai eisoes yna mae gennych chi ddewisiadau. Dysgwch ragor ar ein tudalen Bondiau Plant).
- Nid yw hyn yn gymwys i unrhyw un arall – gall neiniau a theidiau a ffrindiau roi cymaint ag y mynnant. Fodd bynnag, gallai fod goblygiadau treth y byddwch am eu hystyried. Gallai rhoi arian parod ar yr adeg anghywir neu yn y ffordd anghywir olygu y cewch eich ymlid gan y dyn treth ar ddyddiad diweddarach.
Cynilion treth-effeithlon i blant
Mae ISAs i Bobl Iau a Bondiau Plant yn ddewis arall ar gyfer bod yn effeithlon â threth. Gall plant gynilo hyd at £4,368 ar gyfer y flwyddyn dreth 2019-20 (£9,000 2020-21) yn eu ISA Iau, ac ni chodir treth ar y llog. Gallant gyrchu’r arian pan ydynt yn 18 oed yn unig, a phryd hynny, nhw fydd biau’r arian.
Pa gyfrif cynilo i blant sydd orau i’ch plentyn?
Mae’n dibynnu ar eich amgylchiadau. Gallwch ddefnyddio ein tabl cymharu i gael rhestr gynhwysfawr o gyfrifon cynilo, yn cynnwys cyfrifon plant. Wedi i chi roi’r math o gyfrif y mae gennych ddiddordeb ynddo a faint yr hoffech gynilo, dewiswch gyfrif plant dan ‘Chwiliad penodol’.
Cymharwch gyfrifon cynilo plant nawropens in new window
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?