Y cyfanswm allwch chi ei gynilo mewn ISA yn y flwyddyn dreth bresennol yw £20,000. Gelwir hyn yn lwfans ISA. Mae ISA yn ‘amlapiwr’ y gellir ei ddefnyddio i’ch helpu i arbed treth. Mae’r erthygl hon yn trafod ISAs Stociau a Chyfranddaliadau.
Pryd allai ISA Stociau a chyfranddaliadau fod yn addas ar eich cyfer chi?
?
Rheol aur
Os nad ydych yn deall cynnyrch ariannol, ceisiwch gyngor ariannol annibynnol cyn i chi brynu.
Gallai ISA Stociau a chyfranddaliadau fod yn addas ar eich cyfer chi:
- os ydych yn hapus i roi’ch arian mewn buddsoddiadau ond rydych am ddiogelu unrhyw elw neu log rhag treth neu i ddiogelu difidendau rhag treth gyfradd uwch a chyfradd ychwanegol
- dydych chi ddim angen cael gafael ar unwaith ar eich arian ac rydych yn barod i gadw eich arian wedi ei fuddsoddi yn ddelfrydol am ychydig flynyddoedd, er y bydd hyn yn benderfyniad personol.
- os nad ydych wedi defnyddio cyfanswm eich lwfans ISA ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol
- os ydych yn fodlon â’r ffaith y gall gwerth eich buddsoddiadau godi a gostwng ac y gallech gael llai yn ôl na’r swm a fuddsoddwyd gennych.
Pa fuddsoddiadau a ddelir mewn cyfrifon ISA Stociau a hyfranddaliadau?
Mae ISA stociau a chyfranddaliadau i bob pwrpas yn ‘amlapiwr treth’ y gellir ei roi o amgylch ystod eang o wahanol gynnyrch buddsoddi. Yn ei hanfod mae’n golygu sut mae gwahanol fuddsoddiadau yn yr ISA yn cael eu trin i ddibenion treth. Er enghraifft, mae unrhyw dwf buddsoddiad neu log a enillir o fewn yr ISA yn ddi-dreth.
Gellir dal llawer o wahanol fathau o fuddsoddiad mewn ISA, gan gynnwys:
- ymddiriedolaethau uned
- Owmnïau Buddsoddi Penagored (OEICs)
- ymddiriedolaethau buddsoddi
- cronfeydd cyfnewid wedi’u masnachu
- bondiau corfforaethol a bondiau’r llywodraeth, a
- stociau a chyfranddaliadau unigol.
Yn aml, caiff cyfrifon ISA Stociau a chyfranddaliadau eu gwerthu a’u marchnata fel cynhyrchion penodedig.
Sut mae cyfrifon ISA Stociau a chyfranddaliadau yn gweithio
?
Eich lwfans yw’r swm y gallwch ei dalu i mewn, nid cyfanswm gwerth eich buddsoddiadau – felly os byddwch yn rhoi eich lwfans llawn mewn ISA Stociau a chyfranddaliadau a bod ei werth yn gostwng, ni allwch ychwanegu ato yn ystod yr un flwyddyn dreth.
Gallwch dalu cyfanswm o £20,000 y flwyddyn i mewn i ISA yn ystod y flwyddyn dreth bresennol 2019-20.
- Gallwch dalu’ch lwfans cyfan o £20,000 i ISA Stociau a Chyfranddaliadau, ISA Arian Parod, neu gyfuniad o’r ddau. Gallech hefyd dalu arian i mewn i ISA Oes neu ISA cyllid arloesol hefyd. Ni allech roi’ch arian i mewn i’r un fath o ISA yn yr un flwyddyn dreth, er enghraifft dau ISA stociau a chyfranddaliadau – byddai’n rhaid i chi aros tan y flwyddyn dreth nesaf i roi arian i mewn i’r ail ISA stociau a chyfranddaliadau.
- Bydd eich lwfans ISA blynyddol yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn dreth a chaiff unrhyw lwfans na fyddwch wedi’i ddefnyddio ei golli. Ni ellir ei gario drosodd i’r flwyddyn ganlynol.
- Gallwch ddewis rhwng buddsoddi cyfandaliad ac/neu wneud cyfraniadau rheolaidd neu ad hoc drwy gydol y flwyddyn dreth.
- Mae unrhyw gynnydd yng ngwerth y buddsoddiadau yn eich ISA Stociau a chyfranddaliadau’n rhydd rhag Treth Enillion Cyfalaf.
- Dim ond i un ISA Stociau a chyfranddaliadau y gallwch gyfrannu ymhob blwyddyn dreth, ond gallwch agor ISA newydd gyda gwahanol ddarparwr bob blwyddyn os byddwch am wneud hynny. Nid oes rhaid i chi ddefnyddio’r un darparwr ar gyfer eich ISA Arian Parod, os oes gennych un.
- Mae’n werth chwilio er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn dod o hyd i ISA sy’n gweddu i chi. Cymharwch unrhyw ffioedd am yr amlapiwr ISA a’r ystod o fuddsoddiadau y gallwch eu rhoi ynddo.
Rheolau ISA newydd ar drosglwyddo ISA Priod a fu Farw
Mae rheolau newydd a gyflwynwyd yn Ebrill 2015 yn gadael i’r partner sy’n goroesi ei briod neu bartner sifil a fu farw ar 3 Rhagfyr 2014 neu ar ôl hynny, i dderbyn lwfans ISA ychwanegol sy’n cyfateb i werth cynilion ISA yr un fu farw ar adeg y farwolaeth.
Trosglwyddo cyfrifon ISA
- Os byddwch am newid darparwr eich ISA presennol neu ddarparwr ISA blaenorol i ISA gwahanol ond gan ddiogelu buddiannau treth ar gyfer y dyfodol ar yr un pryd, bydd yn rhaid i chi drefnu i drosglwyddo yn hytrach na gwerthu ac ail-fuddsoddi.
- Rhaid i bob darparwr ISA ganiatáu i chi drosglwyddo eich cyfrif allan, ond nid oes rhaid iddynt ganiatáu i chi drosglwyddo cyfrif i mewn.
- Gallwch drosglwyddo arian o ISA Arian Parod i ISA Stociau a chyfranddaliadau neu drosglwyddo eich buddsoddiad yn ôl i ISA arian parod.
- Os byddwch yn trosglwyddo ISA rydych wedi cyfrannu ato yn ystod y flwyddyn dreth gyfredol i ddarparwr newydd, rhaid i chi drosglwyddo’r balans cyfan. O gyfrifon ISA o flynyddoedd blaenorol, gallwch ddewis faint i’w drosglwyddo.
Risg ac elw
- Ar gyfer y mwyafrif o’r buddsoddiadau y byddech yn eu rhoi mewn ISA stociau a chyfranddaliadau, gall y gwerth ostwng yn ogystal â chodi ac efallai y cewch lai yn ôl nag y gwnaethoch ei fuddsoddi.
- Bydd lefel y risg sy’n gysylltiedig â’ch ISA stociau a chyfranddaliadau yn dibynnu ar y buddsoddiadau y byddwch yn dewis eu cynnwys.
Mynediad at eich arian
- Gallwch werthu’r asedau a ddelir yn eich ISA ar unrhyw adeg ac nid oes isafswm cyfnod y bydd angen i chi ei ddal.
- Os byddwch yn codi arian o’ch ISA, boed hynny’n rhan ohono neu’r swm cyfan, dim ond os bydd lwfansau ISA ar gael heb eu defnyddio gennych y byddwch yn gallu ail-fuddsoddi’r arian hwn mewn ISA arall.
Ffioedd
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r taliadau ar y buddsoddiad sylfaenol oherwydd gallant amrywio’n sylweddol. Drwy gadarnhau’r manylion, gallwch osgoi talu symiau gormodol.
Diogel a sicr?
Os bydd rheolwr cronfa yn mynd yn fethdalwr a bod arian yn ddyledus i chi – a bod y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol yn berthnasol i’r rheolwr – gallwch hawlio iawndal o hyd at £50,000 fesul person, fesul sefydliad. Ond ni chewch unrhyw iawndal am fod gwerth eich buddsoddiad wedi gostwng.
Sut i brynu
Gallwch brynu ISA:
- yn uniongyrchol gan froceriaid disgownt, lwyfan cronfa ar-lein cronfeydd neu fanc
- yn uniongyrchol drwy reolwr cronfa
- gan gynghorydd ariannol annibynnol neu gynllunydd ariannol
- yn uniongyrchol gan ddarparwr ISA, neu
- drwy gyfrif cyfranddaliadau neu frocer stoc ar-lein.
Gall taliadau amrywio ar gyfer yr un cynnyrch gan ddibynnu ar ble y byddwch yn ei brynu, felly edrychwch i weld ble sydd rataf. Os nad ydych yn siŵr pa fath o fuddsoddiadau fyddai’n addas ar gyfer eich nodau a’ch anghenion personol, siaradwch â chynghorydd ariannol annibynnol (IFA).
Treth
Mae buddsoddiadau sy’n talu llog (e.e. bondiau llywodraeth a chorfforaethol), neu incwm o rent (fel rhai cronfeydd eiddo) yn darparu incwm 100% didreth os cânt eu talu o fewn ISA ac felly maent yn cynnig buddion treth i bawb.
O fis Ebrill 2018, mae pob unigolyn yn gymwys am Lwfans Difidend o £2,000 yn ddi-dreth. Mae’r lwfans difidend yn ychwanegol at eich lwfans personol, sef y swm y gallwch ennill ym mhob blwyddyn dreth cyn bod rhaid i chi ddechrau talu treth.
Yn ogystal, ni chodir Treth Enillion Cyfalaf ar unrhyw elw y byddwch yn ei wneud wrth werthu buddsoddiadau yn eich ISA Stociau a Chyfranddaliadau.
Ni ellir defnyddio unrhyw golledion a wnaed ar eich buddsoddiadau yn eich ISA Stociau a Chyfranddaliadau i wrthbwyso enillion cyfalaf ar eich buddsoddiadau eraill.
Os bydd pethau’n mynd o chwith
Os na fyddwch yn fodlon â’r gwasanaeth a gewch neu os byddwch am wneud cwyn, dechreuwch drwy gysylltu â’ch darparwr neu’ch cynghorydd.
Caiff y rhan fwyaf o reolwyr cronfeydd a rheolwyr ISA eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol felly os na chaiff eich cwyn ei datrys, yna gallwch gysylltu â’r Ombwdsmon Ariannol.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?