Cyfrifon pecyn
Am ffi fisol, mae cyfrifon pecyn yn cynnig manteision fel yswiriant teithio, cyfradd ffafriol ar orddrafft a mwy ichi. Ond nid yw’r manteision ychwanegol hyn yn werth y ffi bob amser. Dyma beth sydd arnoch angen ei wybod cyn penderfynu.
Beth yw cyfrifon pecyn?
Mae’r rhan fwyaf o fanciau’n cynnig amrywiaeth eang o gyfrifon, o gyfrifon cyfredol cwbl syml i gyfrifon pecyn sy’n cynnig amrywiaeth o fanteision ychwanegol am ffi fisol.
Mae’r manteision yn amrywio o gyfrif i gyfrif ond yn aml byddwch yn cael y canlynol:
- Arian tramor di-gomisiwn
- Yswiriant teithio
- Yswiriant rhag i’ch car dorri i lawr
- Yswiriant ffôn symudol
- Yswiriant rhag twyll hunaniaeth
- Gorddrafft ar ostyngiad – neu orddrafft di-log
- Cyfraddau ffafriol ar gynnyrch ariannol arall
Beth i fod yn ofalus yn ei gylch
- Efallai fod cost y cyfrif yn uwch na chost prynu’r manteision ar wahân.
- Efallai fod yr yswiriant rydych chi’n ei gael yn eithaf sylfaenol – efallai nad yw’n rhoi’r lefel o warchodaeth y mae arnoch ei hangen. Mae’n bosibl bod gan yswiriant teithio ac yswiriant bywyd derfynau neu eithriadau oedran sy’n golygu eu bod yn anaddas ichi.
- Efallai nad oes arnoch angen yr holl fanteision sy’n gysylltiedig â’r cyfrif.
- Gyda rhai banciau a chymdeithasau adeiladu, rhaid i chi actifeiddio pob un o’r gwasanaethau cyn y gallwch eu defnyddio. Gwiriwch a oes arnoch angen gwneud hyn wrth agor y cyfrif, fel arall efallai fod eich yswiriant chi’n annilys a’ch bod yn talu am rywbeth nad ydych chi’n gallu ei ddefnyddio.
A ddylech chi ddewis cyfrif pecyn?
?
Pwysig
Bydd costau ar eich gorddrafft yn newid o fis Ebrill ymlaen, ond bydd rhai banciau’n cyflwyno’r newidiadau hyn cyn hynny. Dysgwch beth fydd y newidiadau hyn yn ei olygu i chi.
Gall cyfrifon pecyn fod yn fargen dda i rai, ond nid ydynt yn addas i bawb. Os ydych chi’n ystyried cael un, meddyliwch am y canlynol:
- Faint o’r ychwanegiadau sydd arnaf i eu hangen mewn gwirionedd?
- A oes gennyf sicrwydd eisoes drwy gynnyrch arall? Er enghraifft, a oes gennych sicrwydd drwy eich polisi yswiriant cartref.
- Ydi’r yswiriant yn rhoi digon o warchodaeth i mi?
- ’Fyddwn i’n gallu cael y gwasanaethau ar wahân am lai?
- Os yw’r cyfrif yn rhoi gorddrafft di-log i mi, ydw i’n talu ffioedd gorddrafft ar hyn o bryd sy’n uwch na chost y cyfrif pecyn?
Os ydych chi’n meddwl am newid i gyfrif pecyn dim ond am fod arnoch chi angen gorddrafft, gofynnwch i’ch banc i ddechrau a yw’n gallu ychwanegu un at eich cyfrif cyfredol presennol. Os nad ydych yn ei ddefnyddio’n aml, cadw’r cyfrif cyfredol am ddim yw’r opsiwn rhataf fwy na thebyg.
Chwiliwch o gwmpas a chymharu cyfrifon pecyn gyda chyfrifon eraill
Mae gwefannau cymharu yn lle da i gychwyn ar gyfer unrhyw un sy’n ceisio dod o hyd i gyfrifon cyfredol.
Argymhellwn y gwefannau canlynol er mwyn cymharu cyfrifon cyfredol:
Cofiwch:
- Ni fydd pob un gwefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly cofiwch ddefnyddio mwy nag un gwefan cyn gwneud penderfyniad.
- Felly mae’n bwysig gwneud tipyn o waith ymchwil i mewn i’r math o gynnyrch neu nodweddion a ddymunwch cyn prynu neu newid darparwr.
Os bydd eich banc neu gymdeithas adeiladu yn eich symud i gyfrif pecyn
Ddylai eich banc neu gymdeithas adeiladu ddim eich symud o gyfrif am ddim i gyfrif pecyn heb eich caniatâd.
Os bydd eich banc yn symud eich cyfrif heb eich caniatâd, neu eich bod o’r farn ei bod wedi camwerthu i chi, canfyddwch sut i wneud cwyn.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?