Cyllid myfyrwyr ar gyfer is-raddedigion

Rydych yn bwriadu mynd i brifysgol neu goleg ond rydych yn ansicr o’r costau. Mae benthyciadau myfyrwyr ar gael i roi cymorth gyda ffioedd dysgu, a grantiau a benthyciadau myfyrwyr i roi cymorth i chi gyda’ch costau byw beunyddiol. Canfyddwch beth allwch chi ei hawlio, a sut y byddwch yn ad-dalu unrhyw fenthyciadau.

Benthyciadau ffioedd dysgu ar gyfer eich cwrs

Bydd pob prifysgol a choleg addysg uwch yn codi ffi ddysgu arnoch am bob blwyddyn y byddwch yn astudio yno. Gall y swm a godir ganddynt amrywio, a hefyd gall ddibynnu ar ble rydych yn byw a ble rydych yn dymuno astudio. Isod dangosir y ffioedd dysgu blynyddol uchaf y gall prifysgolion a cholegau a ariennir yn gyhoeddus eu codi arnoch yn 2016/17 ar gyfer cyrsiau addysg uwch ym mhob ardal o’r DU.

Ardal gartref y myfyriwr Lleoliad y brifysgol neu goleg      
  Lloegr Yr Alban Cymru Gogledd Iwerddon
Lloegr Hyd at £9,000 Hyd at £9,000 Hyd at £9,000 Hyd at £9,000
Yr Alban Hyd at £9,000 Dim ffi Hyd at £9,000 Hyd at £9,000
Cymru Hyd at £9,000 Hyd at £9,000 Hyd at £3,900 Hyd at £9,000
Gogledd Iwerddon Hyd at £9,000 Hyd at £9,000 Hyd at £9,000 Hyd at £3,925
UE Hyd at £9,000 Dim ffi Hyd at £3,900 Hyd at £3,925

(Ffynhonnell: UCAS, 2016)

Gallwch gael benthyciad ffioedd dysgu, sy’n talu am gost lawn eich cwrs, ar gyfer pob blwyddyn eich astudiaethau. Telir y ffioedd dysgu’n uniongyrchol i’ch prifysgol neu i’ch coleg. Byddwch yn dechrau ad-dalu’r benthyciad hwn dim ond ar ôl i’ch cyfnod fel myfyriwr ddod i ben ac rydych yn ennill cyflog uwch na lefel benodol.

Gan fod gwahanol reolau ariannu yn berthnasol, dylech wirio gydag asiantaeth cyllid myfyrwyr eich gwlad os cawsoch arian ar gyfer cwrs gradd blaenorol, os ydych yn dymuno bod yn fyfyriwr rhan-amser neu ôl-raddedig, neu os ydych yn dymuno astudio mewn prifysgol neu goleg a ariennir yn breifat.

Myfyrwyr o Gymru

Gall myfyrwyr o Gymru ymgeisio am grant ffioedd dysgu hyd at £5,100 a benthyciad ffioedd dysgu hyd at £3,900 yn 2016/17 i dalu am eu cwrs mewn prifysgol neu goleg a ariennir yn gyhoeddus yn unrhyw le yn y DU. Byddech ond yn ad-dalu’r elfen fenthyca o’r ffioedd dysgu unwaith y byddwch wedi ennill digon o arian wedi i chi raddio. (Ffynhonnell: Cyllid Myfyrwyr Cymru, Mehefin 2016)

Grantiau cynhaliaeth a benthyciadau ar gyfer costau byw

Ar ben ffioedd dysgu mae nifer o bethau eraill y bydd angen i chi dalu amdanynt tra byddwch yn fyfyriwr. Mae’r rhain yn cynnwys llety, bwyd, llyfrau a theithio. Mae grantiau cynhaliaeth ar gael ar gyfer pob blwyddyn eich astudiaethau i helpu gyda’r costau hyn.

Yn Lloegr, ni fydd grantiau cynhaliaeth i fyfyrwyr ar gael mwyach i fyfyrwyr newydd a fydd yn cychwyn y flwyddyn academaidd 2016/17 a bydd y system fenthyciadau yn disodli’r grantiau. Bydd angen ad-dalu’r rhain pan fyddwch yn ennill mwy na £21,000 y flwyddyn. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan GOV.UK.

Mae’r swm uchaf y gallwch ei fenthyca’n dibynnu, ymhlith pethau eraill, ar ba wlad yn y Deyrnas Unedig rydych yn byw ynddi, incwm eich cartref (ar gyfer grantiau) a ble fyddwch chi’n byw yn ystod eich astudiaethau. Byddwch yn derbyn taliad ar ddechrau pob tymor (yn fisol yn yr Alban) i mewn i’ch cyfrif myfyriwr.

Yn yr Alban, gelwir grantiau cynhaliaeth yn fwrsarïau ac yng Nghymru, fe’u gelwir yn Grantiau Dysgu’r Cynulliad.

Bydd benthyciadau cynhaliaeth newydd ar gyfer myfyrwyr rhan amser yn astudio yn Lloegr yn cael eu cyflwyno o 2018-19, i gefnogi costau byw wrth astudio.

Dewis rhwng grantiau myfyrwyr a benthyciadau

Dylech gyfrifo faint all grantiau cynhaliaeth a bwrsarïau wrthbwyso’ch angen am fenthyciadau cynhaliaeth neu orddrafftiau. Tra y bydd unrhyw grant cynhaliaeth a dderbyniwch yn lleihau’r swm o fenthyciad cynhaliaeth y gallwch ei gymryd, nid yw’n ofynnol i chi ad-dalu grantiau wedi i chi gwblhau eich cwrs.

Os bydd angen i chi gymryd benthyciadau cynhaliaeth, yna yn sicr bydd y rhain yn fwy cost effeithiol na chymryd benthyciadau masnachol ac yn sicr yn rhatach nag ariannu eich costau byw fel myfyriwr gyda chardiau credyd, cardiau siop neu fenthyciadau diwrnod cyflog os na allwch ad-dalu’n rheolaidd ac yn llawn. Fel gyda benthyciadau ffioedd dysgu, rydych yn ad-dalu benthyciadau cynhaliaeth mewn cyfandaliadau misol os ydych yn ennill digon i wneud hynny wedi i chi raddio.

Mathau eraill o gymorth ariannol i fyfyrwyr

Mae nifer o becynnau cymorth ariannol eraill fel bwrsarïau y gallech eu cyrchu fel myfyriwr israddedig yn hytrach na benthyciadau, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau. Mae’r rhain yn cynnwys cymorth i fyfyrwyr anabl, myfyrwyr o gartrefi sydd ar incwm isel, y rheini â phlant neu oedolion dibynnol, a’r rhai hynny sy’n astudio ar gyfer proffesiynau arbennig (fel y GIG).

Rheoli’ch cyllideb myfyriwr

Nawr eich bod yn gwybod beth fydd eich incwm myfyriwr oddi wrth grantiau cynhaliaeth, bwrsarïau a benthyciadau, mae’n hanfodol eich bod yn trefnu cynllun i reoli’ch costau dydd-i-ddydd. Po fwyaf effeithiol y byddwch chi wrth lynu at gyllideb yn eich blwyddyn gyntaf fel myfyriwr, y mwyaf y bydd hyn o gymorth i chi gynllunio faint y gallech orfod ei fenthyca yn y blynyddoedd nesaf mewn benthyciadau neu orddrafftiau, a’r hyn y bydd angen i chi ei ad-dalu unwaith y byddwch yn ennill digon wedi i chi raddio. Cofiwch nad oes unrhyw beth y byddwch yn ei fenthyca i ariannu eich bywyd fel myfyriwr yn arian am ddim!

Deallwch fwy am y costau rydych yn debygol o’u tynnu fel myfyriwr a sut y gallwch eu rheoli’n llwyddiannus gyda’r incwm sydd gennych.

Ad-dalu benthyciadau myfyriwr

Cysylltir ad-daliadau benthyciad myfyrwyr â’ch incwm. Ar gyfer cyrsiau sy’n cael eu hariannu gan asiantaethau cyllid myfyrwyr yng Nghymru neu Loegr ar neu ar ôl Medi 2012, dim ond o 2017 pan fyddwch yn ennill £21,000 neu ragor y byddwch yn cychwyn ad-dalu. Ar gyfer cyrsiau sy’n cael eu hariannu gan asiantaethau cyllid myfyrwyr yng Ngogledd Iwerddon neu’r Alban, bydd rhaid dechrau’r ad-daliadau pan fydd incwm yn cyrraedd £17,495. Bydd eich cyflogwr yn didynnu taliadau o’ch cyflog. Os byddwch yn hunan-gyflogedig byddwch yn gwneud ad-daliadau fel rhan o’ch cofnodion treth hunan-asesu.

Byddwch yn talu llog ar fenthyciadau ffioedd dysgu a chynhaliaeth o’r eiliad y byddwch yn eu derbyn fel myfyriwr hyd nes eich bod yn ad-dalu’ch benthyciadau’n llawn. Ar gyfer cyrsiau sy’n cael eu hariannu gan asiantaethau cyllid myfyrwyr yng Nghymru neu Loegr ar neu ar ôl Medi 2012, os nad ydych wedi ad-dalu’r benthyciad llawn o fewn 30 mlynedd ar ôl y taliad cyntaf a wnaethoch, dilëir gweddill y benthyciad ac nid oes angen i chi dalu unrhyw arian wedi hynny. Yng Ngogledd Iwerddon, dilëir y benthyciad ar ôl 25 mlynedd, ac ar ôl 35 mlynedd yn yr Alban.

Am fwy o fanylion, gweler ein herthygl ar Ad-dalu benthyciadau myfyriwr.

Yn aml mae myfyrwyr yn anghofio bod rhaid iddynt ad-dalu benthyciadau cynhaliaeth yn ogystal â ffioedd dysgu ar ôl graddio a phan maent yn ennill digon. Gall hyn beri ysgytwad yn eich pecyn cyflog cyntaf pan welwch y didyniad misol cyntaf, felly byddwch yn barod. I ddeall rhagor am yr ystod o gostau y bydd angen i chi eu hystyried wedi i chi raddio, ceisiwch ddefnyddio ein hofferyn awgrymiadau arian i raddedigion.

Rhagor o wybodaeth

Am wybodaeth fanylach ar grantiau myfyrwyr, benthyciadau a chymorth ariannol arall sydd ar gael i fyfyrwyr israddedig, rhan-amser neu ôl-raddedig, siaradwch â chynghorydd arian myfyrwyr yn eich prifysgol neu goleg, neu cysylltwch ag asiantaeth cyllid myfyrwyr eich gwlad (neu’r wlad yr ydych yn bwriadu astudio ynddi os nad ydych yn byw yn y DU, gan gynnwys os ydych yn dod o Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw):