I’r rhan fwyaf o bobl, un o’r pethau mwyaf brawychus am golli swydd yw ymgeisio am swydd newydd. Serch hynny, os yw’ch swydd wedi’i dileu neu os colloch eich swydd, gall fod yn gyfle i chi ddod o hyd i rywbeth gwell a rhywbeth sy’n rhoi mwy o foddhad i chi. Gallech hyd yn oed gymryd y cyfle i roi cynnig ar rywbeth newydd.
Mireiniwch eich CV
Yn meddwl sut allwch chi gael swydd? Y cam cyntaf yw sicrhau bod eich CV mewn trefn.
Mae CV da’n mynnu sylw drwy roi ffeithiau allweddol am eich addasrwydd am y swydd ac yna rhoi gwybodaeth ychwanegol i gefnogi’r argraff gyntaf gadarnhaol honno.
Mae digonedd o adnoddau ar gael a all fod o gymorth i chi ysgrifennu’r CV perffaith:
Mynnwch help proffesiynol gyda’ch CV
Os yw’ch swydd yn cael ei dileu, efallai bydd eich cyflogwr yn trefnu ichi gael gwasanaeth cyngor gyrfaoedd sy’n cynnwys help i ysgrifennu CV, felly cofiwch holi.
Dechreuwch chwilio am swydd newydd
?
Dan 25 mlwydd oed? Mae Ymddiriedolaeth y Tywysog yn cynnig cymorth a chyngor os ydych dan 25 ac yn chwilio am waith.
Dyma rai gwefannau y gallwch eu defnyddio i’ch helpu i ddod o hyd i swydd newydd. Mae llawer mwy na’r rhain cofiwch!
Defnyddiwch y rhyngrwyd i chwilio am swyddi
?
A wyddech chi?
Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod eich bod yn cael hawlio amser rhesymol i ffwrdd o’r gwaith i chwilio am swydd newydd os ydych yn gweithio rhybudd o ddileu swydd.
- Mae llawer o wefannau swyddi lle gallwch bostio’ch CV neu chwilio am swyddi.
- Mewn papurau newydd lleol a chenedlaethol, yn ogystal â sefydliadau masnach a phroffesiynol, bydd adrannau recriwtio ar-lein sy’n cael eu diweddaru ac sy’n hawdd eu chwilio.
- Mae’r rhan fwyaf o gwmnïau a busnesau’n rhestru swyddi gwag ar eu gwefannau.
- Gall gwefannau rhwydweithio proffesiynol, fel LinkedIn, fod yn ffordd wych i gael gweld pa swyddi sydd ar gael.
Ffoniwch o gwmpas am gyfleoedd swyddi a swyddi gwag
Peidiwch â bod yn swil. Ffoniwch y cwmnïau neu’r sefydliadau yr hoffech weithio iddynt a holwch at bwy allwch chi anfon eich CV.
Edrychwch o’ch cwmpas am swyddi gwag neu gyfleoedd
Mae llawer o gwmnïau a siopau’n hysbysebu swyddi ar eu safleoedd neu yn eu ffenestri siop. Gallwch bob amser ofyn am ffurflen gais hyd yn oed os na welwch hysbysiad.
Mynnwch help wrth chwilio
Y dyddiau hyn, mae llawer o swyddi’n cael eu hysbysebu ar-lein a gall safleoedd rhwydweithio proffesiynol fel LinkedIn a safleoedd rhwydweithio cymdeithasol fel Twitter wneud gwahaniaeth mawr wrth i chi chwilio.
Mae nifer o wefannau sy’n cynnig cymorth, gan ddibynnu ble rydych chi’n byw.
Paratoi am y cyfweliad swydd
Pan fyddwch wedi cael eich troed yn y drws a bod cyfweliad gennych, gwnewch eich gwaith cartref a chofiwch sicrhau eich bod wedi paratoi’n dda er mwyn gwneud argraff dda ar y diwrnod.
-
Dysgwch am y sefydliad. Yn aml y rhyngrwyd yw’r man cychwyn gorau.
-
Paratowch eich hun at gwestiynau posibl. Ewch ati i ymarfer siarad yn hyderus amdanoch chi’ch hun a’ch gallu.
-
Cynlluniwch bopeth mewn da bryd. Sut fyddwch chi’n teithio i’r cyfweliad? Beth wisgwch chi? A oes angen i chi ddod ag unrhyw beth efo chi?
Beth am ystyried gwirfoddoli tra byddwch yn chwilio am waith
Mae’n cymryd amser i ddod o hyd i swydd newydd ac fe allech ddigalonni. Beth am ystyried gwirfoddoli yn y cyfamser. Bydd yn rheswm ichi adael y tŷ a gallech ddysgu sgiliau gwerthfawr neu wneud cysylltiadau a fydd yn arwain at waith am dâl rywbryd. Ni fydd gwirfoddoli’n effeithio ar eich budd-daliadau.
Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol, gall gwirfoddoli gyfrif am hyd at hanner yr oriau y cytunwch eu treulio’n chwilio am waith, yn ddibynnol ar yr hyn a gytunwyd rhyngoch a’ch hyfforddwr gwaith yn eich Ymrwymiad yr Hawlydd.
Ewch i
wefan GOV.UKopens in new window i gael gwybod am wirfoddoli.
Camau nesaf
Efallai mai hwn yw’r cyfle i newid eich gyrfa fel y buoch yn ei ystyried.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?