Os ydych chi’n cael trafferth talu’ch ad-daliadau morgais, mae gan y llywodraeth nifer o gynlluniau sy’n cynnig help. Mae’r rhain yn cynnwys y cynllun Achub Morgeisi, y cynllun Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais a budd-daliadau eraill y llywodraeth a all rhoi hwb i’ch incwm.
Cysylltwch â’ch benthyciwr i ddechrau
Os ydych chi’n cael trafferth talu’ch morgais, eich cam cyntaf bob amser fydd cysylltu â’ch benthyciwr. Mae’r benthyciwr eisiau’ch helpu chi i wneud eich ad-daliadau.
Bydd eich benthyciwr yn gallu trafod eich opsiynau â chi, ac yn gallu cynnig awgrymiadau megis trefniadau dros dro ar gyfer talu, ymestyn hyd tymor y morgais neu, mewn rhai amgylchiadau, newid dros dro i ad-daliadau llog-yn-unig.
Ceisiwch gyngor rhad ac am ddim
Os ydych chi’n poeni na fyddwch yn gallu talu’ch ad-daliadau, mae digon o wasanaethau cynghori ar gael sy’n rhoi arweiniad yn rhad ac am ddim. Mae’r rhain yn cynnwys Shelter, y Llinell Ddyled Genedlaethol a’r Elusen Dyledion StepChange.
Cynllun Achub Morgeisi
Lloegr
Nid yw’r cynllun hwn ar gael bellach.
Cymru
Mae rhai awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yng Nghymru yn cynnal cynlluniau achub morgais (MRS) i helpu perchnogion tai i osgoi adfeddiant morgais os yw’n debygol y byddai’r perchennog yn mynd yn ddigartref fel arall.
Yr Alban
Mae Llywodraeth yr Alban yn darparu rhywfaint o gefnogaeth i berchnogion cartrefi sy’n cael anhawster talu eu morgais trwy ei Gronfa Cefnogaeth Perchnogion Cartrefi.
Mae dau gynllun ar gael trwy’r gronfa y gallai perchnogion ymgeisio amdanynt:
- Y cynllun Morgais i Rent ble mae landlord cymdeithasol yn prynu’ch cartref ac yn ei rentu’n ôl i chi
- Y Cynllun Ecwiti Morgais a Rennir ble mae Llywodraeth yr Alban yn prynu cyfran o hyd at 30% yn eich cartref, sy’n lleihau faint sydd gennych yn ddyledus ar eich morgais. Byddwch yn dal i fyw yn eich cartref, ond yn gwneud taliadau morgais llawer is o ganlyniad
Cymorth â Llog Morgais
Os ydych yn hawlio budd-dal fel Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag incwm, Cymhorthdal Incwm neu Gredyd Cynhwysol, efallai y byddwch yn medru hawlio help at daliadau llog ar eich morgais. Gelwir hyn yn Gymorth ar gyfer Llog ar Forgais (SMI) ac fe’i cynigir fel benthyciad i’w ad-dalu.
I ddod o hyd i gymorth yng Ngogledd Iwerddon ewch i
NI Direct.
Help gyda chostau morgais dan Gredyd Cynhwysol
Os ydych chi’n derbyn Credyd Cynhwysol ac yn ei chael yn anodd talu eich morgais, mae’n bosibl y gallech gael help gyda’ch taliadau llog.
Dim ond os nad oes gennych unrhyw ‘incwm a enillir’ y byddwch yn gymwys i gael hwn, fel tâl am waith rhan-amser neu lawn-amser, ac nad ydych yn cael unrhyw fuddion gan eich cyflogwr fel Tâl Salwch Statudol neu Dâl Mamolaeth Statudol.
Os byddwch yn gymwys i gael help, bydd y taliadau fel arfer yn cael eu talu yn uniongyrchol i’ch benthyciwr morgais a byddant yn seiliedig ar gyfradd llog benodol fydd yn cael ei chyfrifo ar sail y swm sy’n weddill ar eich morgais (hyd at uchafswm o £200,000).
Byddwch yn dechrau cael hyn ar ôl cyfnod aros o 3 mis a bydd y taliadau yn dod i ben cyn gynted ag y byddwch yn dechrau gweithio eto, hyd yn oed os mai dim ond swm bychan y byddwch yn ei ennill.
Budd-daliadau a allai gynyddu’ch incwm
Mae’n werth holi i weld a oes gennych chi hawl i gael budd-daliadau i roi hwb i’ch incwm er mwyn cwrdd â thaliadau morgais.
Trowch at Turn2Usopens in new window, gwasanaeth elusennol sy’n helpu pobl i gael at fudd-daliadau lles, grantiau a chymorth arall.
Cyllidebu ac awgrymiadau ar gyfer lleihau costau
Dilynwch y dolenni isod i weithio allan eich incwm a’ch treuliau misol ac i weld a oes unrhyw awgrymiadau ar gyfer lleihau costau y gallech eu defnyddio i ryddhau rhywfaint o arian parod ar ddiwedd pob mis. Bydd popeth yn helpu.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?