Cyn prynu car trwy hurbwrcasu
Mae’n debygol mai hurbwrcasu (HP) car yw’r math symlaf o gynllun i gyllido car. Ar ôl talu blaendal cymharol isel, rydych yn hurio’ch car gyda’r opsiwn i’w brynu erbyn diwedd y contract. Dyma’r ffeithiau sydd eu hangen arnoch i benderfynu ai hurbwrcasu yw’r opsiwn cywir i chi brynu car.
Beth yw hurbwrcasu?
Yn syml, ffordd o godi arian i brynu car newydd neu gar ail-law yw hurbwrcasu. Fel arfer, byddwch yn talu blaendal ac yna’n talu gweddill gwerth y car mewn rhandaliadau misol. Mae’r ddyled yn cael ei gwarantu yn erbyn y car. Mae hyn yn golygu na fyddwch chi’n berchen ar y cerbyd hyd nes eich bod wedi gwneud y taliad olaf.
Sut mae hurbwrcasu yn gweithio?
?
Cofiwch
- Mae angen statws credyd da arnoch i gael bargeinion hurbwrcasu ar y cyfraddau llog isaf. Cofiwch wirio’r cyfanswm i’w dalu’n ôl wrth gymharu hurbwrcasu gyda dulliau ariannu eraill
Yn gyntaf, bydd angen i chi roi blaendal ar y car rydych chi am ei brynu. Fel arfer, bydd hynny’n 10% o werth y car.
Yna byddwch yn talu gweddill gwerth y car mewn rhandaliadau dros gyfnod o 12 i 60 mis (un i bum mlynedd).
Trefnir hurbwrcasu gan y deliwr ceir, ond mae broceriaid hefyd yn cynnig y gwasanaeth hwn. Yn aml mae’r cyfraddau’n gystadleuol iawn ar gyfer ceir newydd, ond yn llai cystadleuol ar gyfer ceir ail-law.
Mae’r benthyciad yn cael ei warantu yn erbyn y car, a dyna pam na fyddwch chi’n berchen arno nes eich bod wedi gwneud y taliad olaf. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall amodau a thelerau eich benthyciad cyn llofnodi’r contract.
Manteision hurbwrcasu
- Telerau ad-dalu hyblyg (o un i bum mlynedd) i helpu i gydfynd â’ch cyllideb misol – ond po hwyaf y tymor po fwyaf y byddwch yn ei dalu mewn llog.
- Dim ond angen blaendal cymharol fach (fel arfer 10% o bris y car).
- Cyfraddau llog sefydlog sy’n golygu eich bod yn gwybod yn union faint fyddwch chi’n ei dalu bob mis dros y cyfod.
- Ar ôl i chi dalu hanner cost y car, mae’n bosibl y byddwch yn gallu ei ddychwelyd heb orfod gwneud unrhyw daliadau eraill – Dysgwch ragor am leihau costau cyllido car.
Anfanteision hurbwrcasu
- Nid ydych yn berchen ar y car tan eich bod wedi gwneud eich taliad olaf, sy’n golygu, os ewch i anawsterau ariannol, y gallai’r cwmni cyllid fynd ag ef i ffwrdd.
- Bydd eich blaendal a hyd y tymor yn effeithio ar eich taliadau misol. Mae’ch taliadau misol yn debygol o fod yn uwch po leiaf yw’r blaendal a po fyrraf yw tymor y benthyciad.
- Hyd nes i chi dalu traean o’r swm sy’n ddyledus, gall y darparwr benthyciadau adfeddiannu’r car heb orchymyn llys.
Enghreifftiau o’r gost o brynu car trwy drefniant hurbwrcasu
?
Gair i gall
Darganfyddwch sut i ddechrau cronfa cynilion argyfwng fel y gallwch dalu am y car petai costau annisgwyl yn codi neu os bydd eich incwm yn gostwng.
Seilir yr enghreifftiau hyn ar wybodaeth a roddwyd gan gyfrifiannell hurbwrcasu ar-lein deliwr ym Mawrth 2014.
Car newydd am £13,690 – byddai’n costio £15,232.48 i chi brynu’r car trwy drefniant hurbwrcasu. Cyfrifir hyn ar y sail:
- Y gallech dalu blaendal o £1,105, bod gennych gar gwerth £2,799 i’w gynnig i’w ran-gyfnewid, y gallech gael cyfradd o 10.3% APR, ac y gallech dalu £305.68 bob mis
- Eich bod wedi talu ffi dderbyn o £175.00 gyda’ch rhandaliad cyntaf a ffi ddogfennaeth o £149.00 yn daladwy gyda’ch rhandaliad olaf
Car ail-law am £6,990 – byddai’n costio cyfanswm o £7,975.04 i chi brynu’r car trwy drefniant hurbwrcasu. Cyfrifir hyn ar y sail:
- Y gallech dalu blaendal o £490, bod gennych gar gwerth £1,189 i’w gynnig i’w ran-gyfnewid, ac y gallech gael cyfradd o 12.1% APR
- Eich bod wedi talu ffi dderbyn o £175.00 gyda’ch rhandaliad cyntaf a ffi ddogfennaeth o £149.00 yn daladwy gyda’ch rhandaliad olaf
Eich cam nesaf
Os na fyddwch yn talu’ch ad-daliadau hurbwrcasu, gallech golli eich car. Felly gwnewch yn siŵr y gallwch wneud y taliadau am y car.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?