Cynilion sy'n cydymffurfio â chyfraith Sharia
Mae cyfrifon sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia’n darparu’r un gwasanaethau bancio o ddydd i ddydd â chyfrifon cyfredol cyffredin. Fodd bynnag, nid ydynt yn rhoi elw ar eich arian nag yn cynnig cyfleusterau gorddrafft gan fod yr egwyddor o dalu neu godi llog yn erbyn cyfraith Islamaidd. Caiff unrhyw arian a gaiff ei fuddsoddi ei gadw ar wahân i gyfrifon banc eraill - ni chaiff ei ddefnyddio i gynhyrchu llog ac ni chaiff ei fuddsoddi mewn busnesau gwaharddedig.
Pryd y gallai cyfrif sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia fod yn addas ar eich cyfer chi?
Mae cyfrif banc sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia yn addas ar eich cyfer chi:
- os ydych am fancio yn ôl cyfraith Islamaidd
- os ydych am i’ch cynilion dyfu drwy elw sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia yn hytrach na llog
- os nad ydych am i’ch banc roi benthyg eich arian i fusnesau sy’n darparu nwyddau neu wasanaethau – fel alcohol, tybaco a gamblo – sy’n mynd yn groes i egwyddorion Islamaidd
Sut mae cyfrifon sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia yn gweithio
Gyda chyfrif cynilo sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia, yn lle rhoi benthyg eich cynilion a chodi llog yna drosglwyddo rhywfaint ohono i chi, bydd y banc yn defnyddio eich arian mewn ffordd sy’n parchu credoau Islamaidd.
Bydd eich banc yn dilyn cyngor panel o gynghorwyr banc Mwslimaidd er mwyn sicrhau bod gweithgareddau sy’n cynhyrchu elw yn cydymffurfio â chyfraith Sharia. Caiff rhywfaint o’r elw y bydd y banc yn ei ennill o’r gweithgareddau hyn ei ddychwelyd i chi, gan alluogi i chi dyfu eich cynilion heb ennill llog.
Ble i gael cyfrif cynilo sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia
Mae Lloyds a BLME yn cynnig cyfrifon sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia i gwsmeriaid yn y Deyrnas Unedig.
Helpwch ni i gadw’r rhestr hon yn gyfoes – os ydych yn darparu cynhyrchion cynilo sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia i gwsmeriaid manwerthu yn y DU, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyngor ar Arian.
Pa mor ddiogel yw cyfrifon sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia?
Caiff arian parod a roddwch mewn banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU (a awdurdodir gan Awdurdod Rheoleiddio Prudential) ei ddiogelu gan Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol (FSCS). Terfyn diogelwch cynilion yr FSCS yw £85,000 (neu £170,000 ar gyfer cyfrifon ar y cyd) fesul cwmni awdurdodedig.
Mae’n werth nodi bod rhai banciau yn rhan o’r un cwmni awdurdodedig. Os oes gennych fwy na’r terfyn o fewn yr un banc, neu gwmni awdurdodedig, mae’n syniad da symud y gormodedd i sicrhau bod eich arian wedi’i ddiogelu.
Dysgwch pa fanciau sy’n rhan o ba gwmniau awdurdodedig ar
wefan Banc Lloegropens in new window.
Os bydd pethau’n mynd o chwith
Os byddwch yn anfodlon â’r gwasanaeth a gewch gan eich banc neu os byddwch am wneud cwyn, darllenwch Datrys problem ariannol neu wneud cwyn.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?